Gwella medrau llythrennedd trwy weithio mewn partneriaeth ac addysgu arbenigol

Arfer effeithiol

Evenlode C.P. School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gymunedol ym maestref orllewinol Penarth ym Mro Morgannwg yw Ysgol Gynradd Evenlode.  Mae ganddi ryw 450 o ddisgyblion rhwng pedair ac un ar ddeg oed.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Saesneg yw prif iaith y disgyblion.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol

Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer llawer o ddisgyblion abl ar draws pob grŵp blwyddyn.  Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd blaenoriaeth i wella ysgrifennu disgyblion mwy abl ar draws yr ysgol.  Mae gweithio mewn partneriaeth ag un o gyn-rieni’r ysgol, sydd â phrofiad fel athro iaith arbenigol, wedi galluogi llawer o ddisgyblion hŷn i lwyddo i ddatblygu eu medrau ysgrifennu estynedig.

Disgrifiad o’r gweithgarwch/strategaeth

Rhoddodd yr ysgol strategaeth ar waith i ymestyn medrau ysgrifennu disgyblion mwy abl ym Mlwyddyn 6.  Mynnodd y strategaeth hon fod disgyblion yn mynychu sesiwn hanner diwrnod wythnosol gyda chyn-riant, sy’n athro iaith arbenigol.  Trwy weithio gyda disgyblion Blwyddyn 8 yr ysgol gyfun leol, roedd yn ofynnol i ddisgyblion mwy abl Blwyddyn 6 yr ysgol ddarllen nofel benodol a defnyddio’i strwythur fel fframwaith naratif i’w helpu i ysgrifennu eu stori estynedig eu hunain dros flwyddyn.  Roedd y broses yn cynnwys gwaith cartref arloesol, strategaethau addysgu ystafell ddosbarth hynod effeithiol ac unigryw a chymorth i rieni trwy gyswllt wythnosol a chyfarfodydd tymhorol.

Bu’r arbenigwr yn gweithio’n llwyddiannus gyda disgyblion ar amrywiaeth eang o strategaethau a thechnegau effeithiol i wella eu hysgrifennu creadigol.  Seiliodd ei raglen ysgrifennu creadigol a llythrennedd ar gaffael geirfa a thechnegau ysgrifennu syml a ddefnyddir gan awduron proffesiynol.

Fe wnaeth cyswllt ag adran Saesneg yr ysgol gyfun leol alluogi disgyblion Blwyddyn 6 a Blwyddyn 8 i gymryd rhan mewn mentora a golygu gwaith cyfoedion, ac o ganlyniad, bu’r disgyblion Blwyddyn 6 yn gweithredu fel mentoriaid cyfoedion i ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 4 yn eu tro.  Cynyddodd hyn eu hyder a gwella’u lles.

Mae gan y disgyblion sy’n cymryd rhan yn y rhaglen hyder a dawn o ran ysgrifennu creadigol a ffeithiol sy’n heintus, a llwyddodd pob un o’r disgyblion i greu eu nofelau eu hunain, a oedd rhwng 12 ac 16 mil o eiriau.  Mae gan lawer o’r disgyblion hynny oedran darllen rhwng 13 ac 14 oed.

Effaith ar ddarpariaeth a safonau

Llwyddodd llawer o ddisgyblion a fu’n cymryd rhan yn y rhaglen i gynhyrchu gwaith mewn llafaredd, ysgrifennu a darllen ar lefel 6 mewn Saesneg.  O ganlyniad i lwyddiant y fenter, mae ail garfan o ddisgyblion wrthi’n gweithio ar y rhaglen ar hyn o bryd. 

Roedd y disgyblion Blwyddyn 5 a gafodd eu mentora yn ystod cyfnod cyntaf y rhaglen yn awyddus iawn i gymryd rhan, gan ddangos brwdfrydedd i ysgrifennu.