Gwella medrau gwyddoniaeth ac ymgysylltiad trwy bartneriaethau lleol

Arfer effeithiol

Ysgol Pencae


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Pencae ym maestref Llandaf yn ninas Caerdydd gyda’r dalgylch yn gwasanaethu disgyblion o ardal orllewinol y brif ddinas.

Mae niferoedd yr ysgol yn gyson gyda 210 o ddisgyblion o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 yn yr ysgol. Mae nifer o feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg a di-Gymraeg yn trosglwyddo plant i’r ysgol ar gyfer y Dosbarth Derbyn gan nad oes darpariaeth meithrin gan yr ysgol.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae oddeutu 2.5% o ddisgyblion yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim yn yr ysgol, sy’n sylweddol is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Daw 16% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg gyda gweddill y disgyblion yn dod o gartrefi ble mae un o’r rhieni’n siarad Cymraeg neu’r ddau riant yn ddi-Gymraeg.

Mae tua 11.5% o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol a thua 2% o gefndir ethnig lleiafrifol.

Cyd-destun a chefndir sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Pencae wedi datblygu partneriaethau cyffrous gyda’r gymuned leol i sicrhau fod gwyddoniaeth yn ‘ffynci’ ac yn gyfoes i’w disgyblion. Mae gweithdai gwyddonol ymarferol ar waith yn wythnosol ar draws yr ysgol.  Yn am, bydd ymwelydd arbenigol neu gyfarpar gwyddonol sydd ar fenthyg, wedi sbarduno’r gweithdai hyn.  Trwy ymgysylltu â phartneriaethau cyffrous yn y gymuned, mae profiadau dysgu gwyddoniaeth yn Ysgol Pencae yn gyfoethog, yn berthnasol ac yn fyw.

Mae’n ysgol ddinesig sy’n manteisio ar gyfleoedd sydd ar gael ynghyd â chwarae rhan fwy rhagweithiol mewn meithrin perthnasoedd o fewn y gymuned gan gynnwys rhieni’r ysgol. 

Mae llawer o gyfleoedd cyfoethog yng Nghaerdydd ar gyfer datblygu partneriaethau effeithiol gyda sefydliadau addysgol, masnachol a chymunedol.  Roedd yr ysgol am ddatblygu partneriaethau effeithiol a chynaliadwy i ennyn diddordeb a chyfoethogi’r cwricwlwm gwyddoniaeth ynghyd ag ennyn diddordeb gyrfaoedd yn y byd STEM (science, technology, engineering and mathematics) i ferched yn ogystal â bechgyn.

Disgrifiad a natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Wrth gynllunio mae’r athrawon yn chwilio’n ddiflino am gyfleoedd i ddod â’r pwnc yn fyw i’r disgyblion.  Credir bod cydweithio gydag arbenigwyr STEM sydd yn angerddol am eu maes yn fodd effeithlon i ysbarduno diddordeb a dealltwriaeth y disgyblion. 

Ar ddechrau bob thema, caiff llais y plentyn le blaenllaw yn y cynllunio wrth i staff feddwl am bartneriaethau addas ynghyd â chwestiynau cychwynnol y disgyblion. 

Amcanion yr ymgysylltu yw i: 
• fanteisio ar y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol i gyfoethogi’r cwricwlwm
• ysbarduno brwdfrydedd y disgyblion wrth ddod â gwyddoniaeth yn fyw
• godi proffil y pwnc yn yr ysgol.

Mae’r ysgol yn chwilio’n barhaus am wahanol gyfleoedd i ddatblygu partneriaethau newydd.  Mae staff bob amser yn barod i sefydlu perthynas lewyrchus gydag ystod eang iawn o sefydliadau.  Dyma gipolwg ar rai o’r gweithgareddau sydd ar waith yn sgîl hyn, yn Ysgol Pencae:

Partneriaethau Allanol:
• Cynhelir clybiau gwyddoniaeth gan gwmni masnachol yn allgyrsiol i ddisgyblion yr ysgol gyfan
• Gwobr PSQM, www.PSQM.org.uk <http://www.PSQM.org.uk>  Dyma gynllun sy’n datblygu ac yn dathlu addysgu a dysgu gwyddoniaeth gynradd. Mae’r ysgol yn anelu at dderbyn y wobr arian wrth i’r cydlynydd fonitro’r pwnc o fewn yr ysgol dan oruchwyliaeth mentor arbenigol. 
• Mae’r ysgol wedi datblygu perthynas werthfawr gyda llysgenhadon STEM trwy <>.  Bydd y cydlynydd yn achlysurol yn mynychu cyrsiau hyfforddi Gweld Gwyddoniaeth er mwyn derbyn syniadau newydd am ymholiadau gwyddonol.  Mae disgyblion blwyddyn 6 hefyd wedi ennill gwobrau Crest Darganfod dan oruchwyliaeth y llysgenhadon hyn ar ôl dangos, trwy gyfres o weithdai ymarferol, eu bod wedi datblygu eu medrau cydweithio yn ogystal â’u gwybodaeth wyddonol. Mae’r ysgol wedi benthyca cyfarpar gwyddonol, fel y ceir solar oddi wrthynt yn ystod ei gweithdy ar ynni amgen. 
• Manteisiodd yr ysgol ar gyfleoedd i wahodd sioeau gan gwmnïau ac arbenigwyr gwyddonol fel Sioe’r Dreigiaid a Sioeau Techniquest i’r ysgol i ysbrydoli’r disgyblion
• Mae’r ysgol hefyd yn trefnu ymweliadau addysgiadol i ymestyn eu gwybodaeth wyddonol, fel Pwerdy Trydan lleol.

Rhieni
• Mae criw o rieni brwd, sy’n fathemategwyr ac yn wyddonwyr yn cynnal Clwb Gwyddoniaeth ar ôl yr ysgol.  Mae’r clybiau hyn yn cefnogi’r gwaith thema a wneir ar lawr y dosbarth wrth arwain tasgau dysgu cyfoethog fel arsylwi ar organau anifeiliaid go iawn.
• Tra’n astudio creigiau ym mlwyddyn 3, gwahoddwyd daearegydd sy’n riant yn yr ysgol, i’r dosbarth i sôn am ei waith yn astudio llosgfynyddoedd.
• Daeth rhiant sy’n fydwraig i siarad gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen am bwysigrwydd hylendid dwylo.  Dysgon nhw sut i olchi eu dwylo’n gywir a fe gawson nhw gyfle i arsylwi ar lanweidddra eu dwylo nhw o dan beiriant golau uwchfioled.
Partneriaethau Addysg Uwch
• Fel rhan o’i phartneriaeth gydag Adran BioWyddorau Prifysgol Caerdydd, trefnwyd Ffair Wyddoniaeth lwyddiannus yn y neuadd i deuluoedd yr ysgol.  Gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Uwchradd Plasmawr i gynnal stondinau arddangos yno.  Roedd myfyrwyr o’r Brifysgol hefyd wedi paratoi arddangosfeydd i ysbrydoli’r nifer fawr o blant a rhieni a ddaeth i’r ffair.
• Mae’r ysgol yn manteisio ar arbenigedd ei Llysgennad STEM o Adran BioWyddonol y Brifysgol, sydd hefyd yn cynorthwyo i ymestyn gwybodaeth wyddonol disgyblion blwyddyn 6.  Mae’n gwneud hyn trwy, er enghraifft, gynnal sesiwn holi ac ateb ar ddechrau’r thema ‘O Dan y Croen,’ ac esbonio cylchrediad y gwaed cyn y gweithdy ar effaith ymarfer corff ar gyfradd curiad y galon.  Mae’r Llysgennad hefyd yn rhannu cyfarpar arbenigol fel mesuryddion pwls a mesurydd foltedd gyda’r ysgol er mwyn gallu cynnal gweithdai cyffrous wrth ymarfer medrau mesur y disgyblion.
• Cafwyd ymweliad gan fyfyrwyr o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd i gynnal gweithdai ‘Achub Asthmatig’ gyda’r disgyblion hŷn.  Yn dilyn hyn cynlluniodd y disgyblion ymholiad gyda gwellt yfed cul a llydan er mwyn profi’r wybodaeth a gyflwynwyd iddynt gan yr arbenigwyr.
• Mae Ysgol Pencae yn rhan o brosiect TAPS Cymru, sef Asesiad Athrawon mewn Gwyddoniaeth Gynradd (TAPS) Cymru – Teacher Assessment in Primay Science.  Prosiect yw hwn a sefydlwyd gan Brifysgol Bath Spa yn 2013.  Amcanion y prosiect yw datblygu model asesu dibynadwy ysgol gyfan ar wyddoniaeth.  Mae’r adnodd hunanasesu hwn, sef y pyramid, sydd ar gael ar y rhyngrwyd eisoes, yn rhoi syniadau da ar asesu’r pwnc.  Mae’r ysgol, o dan oruchwyliaeth tiwtoriaid gwyddoniaeth, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn y broses o gasglu enghreifftiau o weithgareddau asesu er mwyn llunio pyramid TAPS Cymru.
 
Partneriaeth ysgolion Cynradd
Mae’r cydlynydd yn cydweithio’n agos â chydlynwyr ysgolion cynradd lleol er mwyn rhannu arfer dda ac i drafod syniadau cyfredol.  Mae’r staff yn treialu adnodd sydd wedi ei baratoi gan ysgol leol er mwyn datblygu medrau hunanasesu’r disgyblion yn eu medrau gwyddonol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol yn ystyried bod mabwysiadu partneriaethau o fewn y gymuned wedi cyfrannu at:
• safonau uchel ym medrau gwyddonol y disgyblion
• lefelau uchel o ymgysylltiad disgyblion â dysgu gwyddoniaeth trwy ddod â’r pwnc yn fyw ac yn berthnasol iddynt
• cyfraddau cryf o gynnydd yng nghanran y disgyblion sy’n cyflawni lefel 5 ar ddiwedd cyfnod allweddol 2
• cynnydd nodedig ym medrau rhyngweithiol y disgyblion i gydweithio o fewn tîm wrth ddatblygu ymholiadau gwyddonol
• trefnu Ffair Wyddoniaeth lwyddiannus yn neuadd yr ysgol i ddathlu llwyddiant yr amrywiaeth bartneriaethau wrth iddynt oll ddod ynghyd yn y Ffair.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?

Mae’r ysgol wedi rhannu arfer da gydag ysgolion eraill y clwstwr a’r Consortiwm trwy gynnal gweithdai a chyflwyniadau i athrawon ar wahanol agweddau o addysgu a dysgu gwyddoniaeth.  Yn ogystal â hyn, mae’n datblygu partneriaethau pellach gyda’r Prifysgolion yng Nghaerdydd a Phrifysgol Bath Spa.  Bydd yr ysgol hefyd yn parhau i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir iddi gan fudiadau fel Gweld Gwyddoniaeth er mwyn cyfoethogi profiadau’r disgyblion yn y maes hwn. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn