Gwella medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Haberdashers’ Monmouth School for Girls, a sefydlwyd ym 1892, yn ysgol ddydd ac ysgol breswyl annibynnol i ferched rhwng 11 a 18 oed, gydag ysgol baratoi, Inglefield House, i ferched rhwng 7 ac 11 oed.
Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector
Yn 2010, cynhaliwyd archwiliad o ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau dysgu craidd disgyblion ar draws y cwricwlwm. Diben hyn oedd cadarnhau hyd a lled y ddarpariaeth a nodi unrhyw fylchau. Roedd y medrau dysgu craidd yn cynnwys: technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), rhifedd, medrau ymchwil, medrau meddwl (datrys problemau, dadansoddi, rhesymu, dod i gasgliadau), medrau cyfathrebu (gweithio mewn tîm, crynhoi, cyflwyno, trafod), medrau darllen ac ysgrifennu estynedig (prawf ddarllen, sganio, sgimio a darllen yn fanwl). O ganlyniad i’r archwiliad, cryfhaodd yr ysgol ei darpariaeth ar gyfer datblygu medrau dysgu disgyblion i sicrhau bod disgyblion yn gwella’r medrau hyn yn fwy systematig gydag amser ac mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau. Cyflwynodd yr ysgol raglen weithgareddau o fedrau trawsgwricwlaidd i wella datblygiad medrau dysgu craidd disgyblion, gyda’r nod y byddent yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol, cymwys.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae darpariaeth medrau dysgu trawsgwricwlaidd yr ysgol yn rhaglen nodedig ar gyfer datblygu medrau dysgu craidd disgyblion. Ym mhob cyfnod o’r ysgol, mae trefniadau pwrpasol ar gyfer adeiladu ar y technegau y mae disgyblion yn eu defnyddio ym mhob pwnc er mwyn trosglwyddo a chymhwyso’r technegau hyn yn llwyddiannus mewn gwahanol gyd-destunau. Er enghraifft, yng nghyfnod allweddol 3, mae disgyblion Blwyddyn 7 yn dilyn rhaglen ‘dysgu i ddysgu’. Fe’i bwriedir i gefnogi disgyblion wrth iddynt drosglwyddo i ran uwch yr ysgol trwy ymgorffori arferion astudio effeithiol, cyflwyno disgyblion i adnoddau dysgu’r ysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau llyfrgell helaeth, a gwella hyder a dygnwch disgyblion. Fel rhan o’r rhaglen, mae disgyblion yn astudio arddulliau dysgu, deallusrwydd lluosog, sut mae eu hymennydd yn gweithio a’r cof. Mae’r deilliannau disgwyliedig yn cynnwys y gallu i ddefnyddio’r llyfrgell a’r ganolfan adnoddau yn llwyddiannus i ymchwilio i bwnc o ddewis a llunio cyflwyniad byr, heb gymhorthion electronig, i arddangos ymchwil gadarn a medrau cyflwyno da.
Ym Mlwyddyn 9, mae disgyblion yn dilyn rhaglen ymchwil a datblygu, a gydnabyddir yn genedlaethol, sy’n eu hannog ymhellach i wella’u medrau ymchwil gan ganolbwyntio ar faes o’u diddordeb eu hunain ac ymestyn eu gwybodaeth am y pwnc.
Yn nhymor un, mae disgyblion yn gwneud ymchwil ac yn rhoi cyflwyniadau ar fater sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys cwblhau cofnod gyda’r eirfa y mae ei hangen arnynt i gyflawni a siarad am eu hymchwil. Yn yr ail dymor, yn arddull yr ‘Young Apprentice’, caiff disgyblion eu rhoi mewn timau a chyflwynir her iddynt. Dechreuant gyda sesiynau addysg ar waith tîm, arddulliau arwain a chyfansoddiad y tîm delfrydol. Yna, mae’n rhaid iddynt benderfynu ar rolau ar gyfer amrywiol aelodau’r tîm, cynnal cyfarfodydd wythnosol, llunio cofnodion a chynlluniau gweithredu, a gweithio tuag at gynhyrchu eu ‘cynnyrch’ ar ddiwedd y trydydd tymor.
Yng nghyfnod allweddol 4, mae disgyblion yn parhau i ddatblygu eu medrau dysgu mewn maes sy’n apelio’n bersonol atynt. Er enghraifft, caiff disgyblion Blwyddyn 10 eu gwahodd i gyflwyno traethawd 2,000 o eiriau ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt. Gan amlaf, bydd hyn yn gysylltiedig â maes pwnc y maent yn ei astudio ar gyfer TGAU ac, mewn gwersi unigol, byddant yn ymestyn eu dysgu am fedrau ymchwil ac ysgrifennu traethodau ac yn ei gymhwyso i’r maes hwn. Mae disgyblion yn ystyried bod y traethawd yn fath o weithgaredd ymestyn, gydag athrawon sydd ag arbenigedd a diddordeb penodol yn y maes yn marcio a rhoi sylwadau ar y traethawd. Mae hyn yn llwyddo i ymestyn a gwella gwybodaeth disgyblion am y pwnc a’u defnydd ar fedrau dysgu mewn cyd-destunau gwahanol.
Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae cyflwyno’r rhaglen wedi helpu i sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu medrau dysgu’n fwy systematig mewn amrywiaeth ehangach o gyd-destunau. Bellach, mae disgyblion yn ymestyn eu dysgu o wahanol bynciau yn llwyddiannus trwy ddatblygu a defnyddio medrau a thechnegau yng ngweithgareddau amrywiol y rhaglen ac ar draws y cwricwlwm. O ganlyniad, mae disgyblion yn dod yn ddysgwyr annibynnol mwy llwyddiannus. Er enghraifft, erbyn iddynt gyrraedd y chweched dosbarth, mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn cwblhau Cymhwyster y Prosiect Estynedig, sy’n cynnwys prosiect a gyflawnir ar sail symbyliad a chyfarwyddyd y disgyblion eu hunain, a chyflawnant ddeilliannau uchel.