Gwella medrau arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau mewn addysgu
Quick links:
Cyd-destun
Ysgol gymysg 11-19 yn y Fenni, Sir Fynwy yw Ysgol Gyfun y Brenin Harri’r Vlll, sydd â 950 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 155 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 11% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 27% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig, ac mae 1% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.
Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Medi 2014, ychydig fisoedd yn unig cyn arolygiad Estyn, ac ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd yn yr ysgol ar lefel uwch arweinyddiaeth. Er nad adawodd y tîm arolygu argymhelliad penodol ar addysgu, roedd yn glir i’r pennaeth na fyddai’r ysgol yn gwneud cynnydd yn erbyn ei hargymhellion heb ffocws clir ar wella ansawdd yr addysgu.
Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.
Strategaeth a chamau gweithredu
Ar ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol, fe wnaeth y pennaeth newydd gyfleu ei gweledigaeth ar gyfer yr ysgol i bob un o’r staff fel un lle roedd pob disgybl yn cael yr addysg orau posibl sydd ar gael, beth bynnag fo’u cefndir neu’u rhywedd. I gyflawni hyn, roedd hi’n glir fod angen i addysgu a dysgu fod wrth wraidd popeth roedd yr ysgol yn ei wneud. I wella’r addysgu, roedd angen ffocws cadarn ar ddatblygu gallu arweinwyr ar draws yr ysgol i sefydlu prosesau hunanarfarnu trylwyr a oedd yn cysylltu’n dda â chynllunio gwelliant ac yn llywio rhaglen ystyrlon o ddysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff.
Rhannodd y pennaeth gynllun gwella drafft yr ysgol â staff ar y diwrnod hwnnw hefyd, a oedd yn nodi nifer o flaenoriaethau i wella ansawdd yr addysgu yn yr ysgol. Roedd y rhain yn cynnwys:
- sefydlu strwythur addysgu a dysgu ysgol gyfan i rannu a datblygu arfer orau
- sefydlu dulliau cyson o asesu ffurfiannol ar draws yr ysgol
- sicrhau bod yr holl wersi’n darparu her briodol ar gyfer disgyblion
- sefydlu rhwydweithiau o arfer broffesiynol gyda ffocws clir ar wella deilliannau disgyblion a lleihau amrywiad yn yr ysgol
Cymerodd yr ysgol nifer o gamau ar unwaith i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn. Er enghraifft, sefydlodd arweinwyr rwydweithiau o arfer broffesiynol i fynd i’r afael ag agweddau ar arfer yr oeddent wedi eu nodi yn feysydd i’w datblygu yn rownd flaenorol yr ysgol o arsylwadau addysgu a dysgu. Yn y flwyddyn gyntaf, cymerodd yr holl staff addysgu ran mewn rhwydweithiau o arfer broffesiynol a oedd yn canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd, gwaith grŵp a gwaith pâr, holi effeithiol, hunanasesu ac asesu cymheiriaid, marcio, asesu ac adborth, neu gynllunio ar gyfer gwahaniaethu a her. Fel rhan o’r gwaith hwn, cyflwynodd yr ysgol friffiau addysgu a dysgu er mwyn gallu lledaenu’r strategaethau mwyaf effeithiol yr ymchwiliodd aelodau iddynt yn ystod y flwyddyn.
Cynhaliodd yr ysgol adolygiad systematig o’i pholisïau allweddol hefyd i gefnogi datblygu arfer gyson ar draws yr ysgol. Er enghraifft, adolygodd y rhwydwaith marcio, asesu ac adborth bolisi asesu’r ysgol. Gweithiodd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol gyda’i gilydd i greu polisi addysgu a dysgu’r ysgol. Yn sgil y trafodaethau hyn, ffurfiwyd strategaeth allweddol yr ysgol i nodi a datblygu arfer dda mewn addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, sef datblygu rhaglen ysgol gyfan ar gyfer adolygu cymheiriaid.
Cyflwynwyd cylch cyntaf y rhaglen adolygu cymheiriaid ysgol gyfan gan yr ysgol rhwng mis Medi 2015 a mis Mehefin 2017. Mae wedi bod yn effeithiol o ran gwella ansawdd hunanarfarnu yn yr ysgol, gwella ansawdd yr addysgu a gyrru gwelliannau cynaledig yn neilliannau disgyblion.
Nod y rhaglen adolygu cymheiriaid yw arfarnu safonau addysgu a dysgu ar draws yr ysgol trwy ffocws ar brofiad grŵp bach o ddisgyblion dethol. Mae pob adolygiad cymheiriaid yn canolbwyntio ar garfan o chwe disgybl ar draws yr ystod gallu o grŵp blwyddyn penodol. Mae adolygiad cymheiriaid pellach yn dethol grŵp o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws yr ysgol.
Ar gyfer pob adolygiad cymheiriaid, mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn gweithio gyda’i gilydd i arfarnu’r cynnydd a wna’r disgyblion hyn yn seiliedig ar dystiolaeth o ystod eang o ffynonellau perthnasol. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad trylwyr o ddata cynnydd, cyfweliadau â disgyblion, archwilio cynlluniau dysgu, craffu ar waith disgyblion ac arsylwadau gwersi. Mae’r cydweithio hwn wedi galluogi uwch arweinwyr i herio a chefnogi arfarniad arweinwyr canol o ansawdd y ddarpariaeth a’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion yn llawer mwy effeithiol. Dros gyfnod, mae wedi arwain at ddatblygu llawer mwy o gysondeb yng ngwaith uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ar draws yr ysgol.
Mae uwch arweinwyr yn coladu’r deilliannau o bob adolygiad cymheiriaid ac yn eu rhannu â staff a llywodraethwyr. Mae’r adroddiad adolygu cymheiriaid yn rhoi arfarniad manwl o’r cryfderau a’r meysydd i’w datblygu o ran cynnydd a safonau disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn. Yn ei hanfod, mae hefyd yn dadansoddi pa mor effeithiol y mae addysgu’n cefnogi cynnydd disgyblion a pha mor gyson y mae athrawon yn mynd i’r afael â meysydd ysgol gyfan i’w datblygu yn eu haddysgu. Er enghraifft, yn y cylch cyntaf, roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ba mor dda roedd athrawon wedi darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd neu ar ansawdd yr asesu a’r adborth.
Ar ddiwedd pob blwyddyn, mae uwch arweinwyr yn crynhoi tystiolaeth o bob adolygiad cymheiriaid mewn adroddiad blynyddol terfynol, gan roi gwybodaeth gynhwysfawr sy’n seiliedig ar arsylwadau pob un o’r staff a phrofiad mwy nag 13% o ddisgyblion ar draws yr ysgol. O ganlyniad, mae gan arweinwyr wybodaeth gyfoethog am y cryfderau a’r meysydd i’w datblygu mewn addysgu i lywio cynllunio gweithgareddau dysgu proffesiynol. Mae lefel bellach o ddadansoddi ar gael i arweinwyr meysydd pwnc, sy’n eu galluogi i arfarnu perfformiad eu hadran eu hunain yn erbyn meincnodau ar gyfer yr ysgol gyfan a chynllunio blaenoriaethau ar gyfer datblygu yn eu hadran eu hunain.
Mae arweinwyr yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gan y rhaglen adolygu cymheiriaid yn effeithiol i gynllunio cyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol ar gyfer staff. Yn ogystal â sicrhau bod y rhain yn mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi ysgol gyfan, mae’r ysgol yn defnyddio’r wybodaeth o adolygiadau cymheiriaid i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion unigol athrawon ar wahanol gyfnodau o’u gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddi a mentora ar gyfer athrawon sydd angen gwella agweddau ar eu harfer, yn ogystal â hwyluso cyfleoedd i staff wella medrau sy’n berthnasol i’r arbenigedd y maent yn ei addysgu. Mae rhai athrawon yn elwa ar gyfleoedd gwerthfawr i gaffael cymwysterau lefel uwch mewn arfer addysgol neu arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn ychwanegol, mae rôl yr ysgol fel ysgol arloesi ar gyfer cwricwlwm er mis Ionawr 2017 wedi sicrhau bod athrawon yn cael cyfleoedd cynyddol i ddatblygu eu gwybodaeth trwy eu hymglymiad mewn rhwydweithiau ehangach o arfer broffesiynol.
Nodwedd allweddol o ymagwedd yr ysgol at ddysgu proffesiynol fu sicrhau bod staff wedi cael cyfleoedd addas i gydweithio ar draws adrannau ar bob cam o daith yr ysgol i wella. Mae arweinwyr yn cynllunio diwrnodau dysgu proffesiynol yn dda i alluogi athrawon i arwain neu gymryd rhan mewn cymunedau dysgu proffesiynol, a gweithio gyda’i gilydd ar weithgareddau craffu ar waith yr ysgol gyfan. Mae hyn wedi sicrhau cyfleoedd gwerthfawr i staff ar draws adrannau weithio gyda’i gilydd, rhannu arfer orau a myfyrio ar ddulliau sy’n seiliedig ar bwnc, yn ogystal â helpu i feithrin gallu ar gyfer arweinyddiaeth trwy’r ysgol.
Deilliannau
Mae rhaglen yr ysgol ar gyfer adolygu cymheiriaid wedi galluogi’r ysgol i gryfhau medrau a gallu arweinwyr canol yn sylweddol trwy eu hymglymiad mewn ystod gynhwysfawr o weithgareddau hunanarfarnu sy’n canolbwyntio’n glir ar y berthynas rhwng addysgu effeithiol a chynnydd disgyblion. Mae wedi rhoi synnwyr clir i arweinwyr yr ysgol o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu, ac mae wedi galluogi iddynt gynllunio gweithgareddau dysgu proffesiynol i fynd i’r afael â’r rhain.
Ym mis Mehefin 2016, barnwyd bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn ei hargymhellion ac fe’i tynnwyd o’r categori o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol. Nododd y tîm arolygu yn ei adroddiad fod yr ysgol wedi datblygu monitro rheolaidd a systematig o ran addysgu ac asesu trwy graffu ffocysedig ar lyfrau ac arsylwadau gwersi.
Nododd hefyd fod yr ysgol wedi rhoi ystod gynhwysfawr o strategaethau ar waith i gefnogi datblygiad arweinwyr. Mae hyn yn cynnwys hyfforddi a mentora targedig ar gyfer arweinwyr unigol, ac ymglymiad cynlluniedig yng nghymunedau dysgu proffesiynol yr ysgol. Mae’r gwelliannau yn ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth wedi cyfrannu at gynnydd addas yn y rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4, ac mewn gwella darpariaeth ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.
Ers yr arolygiad craidd, mae perfformiad disgyblion wedi gwella’n sylweddol o gymharu ag ysgolion tebyg. Yn 2017, fe wnaeth perfformiad yn y rhan fwyaf o ddangosyddion yng nghyfnod allweddol 4 osod yr ysgol yn hanner uchaf yr ysgolion tebyg yn seiliedig ar gymhwyster disgyblion am brydau ysgol am ddim (Llywodraeth Cymru, 2017c).
Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol
Wrth i’r ysgol gynllunio’r camau nesaf yn ei thaith i wella, mae staff wedi bod â rôl allweddol hefyd mewn adolygu rownd gyntaf y rhaglen adolygu cymheiriaid ac argymell newidiadau i’w ffocws a’i chylch gwaith. Er enghraifft, ni fydd ail gylch y rhaglen yn ystyried grwpiau blwyddyn ar wahân mwyach, ond bydd yn edrych ar ddau grŵp blwyddyn gyda’i gilydd i ganolbwyntio ar bontio a dilyniant rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol. Yn ychwanegol, ni fydd arsylwadau gwersi’n rhoi barnau unigol ar gyfer gwersi nac athrawon mwyach, ond bydd yn canolbwyntio ar effaith yr addysgu ar ddysgu i lywio cynllunio strategol yr ysgol yn fwy manwl gywir, i wella’r ddau faes hyn.