Gwella llythrennedd trwy ddysgu creadigol - Estyn

Gwella llythrennedd trwy ddysgu creadigol

Arfer effeithiol

Ysgol Cynwyd Sant


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Lleolir Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg, Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae 306 disgybl rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr gan gynnwys 40 oed meithrin.  Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.  Ychydig o ddisgyblion ddaw o gartrefi lle siaradir y Gymraeg.  Mae tua 13% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Mae 16% o ddisgyblion yn rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn darparu profiadau celfyddydol rhagorol i’r disgyblion.  Cafodd hyn ei gydnabod gan Estyn mewn adroddiad Arfer Dda Mewn Celfyddydau Creadigol yn 2015.  Ysgol Cynwyd Sant oedd yr ysgol gyntaf ym Mhen-y-bont i gael ei hadnabod gyda’r statws ysgol Greadigol gan y Cyngor Celfyddydau yn 2015 ac fel arloeswr yn y maes yn 2016.  Mae hyn yn arwain at waith creadigol eithriadol ar lawr y dosbarth, rhannu arferion gorau gydag ysgolion eraill, a datblygiad proffesiynol staff o safon uchel iawn.  Mae’r ysgol hefyd wedi sefydlu stiwdio i ddarparu profiadau celfyddydol aml-gyfrwng o safon uchel iawn i’r disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn cyd-weithredu’n effeithiol iawn â’r Cyngor Celfyddydau i gynllunio gweithgareddau cyffrous er mwyn datblygu medrau llythrennedd disgyblion cyfnod allweddol 2 a oedd wedi tangyflawni yn y Cyfnod Sylfaen.  Rhoddir sylw penodol i ddatblygu medrau llafaredd, yn ogystal â hunan hyder a chreadigrwydd y garfan hon o ddisgyblion.  Mae’r strategaethau addysgu yn gosod ffocws clir ar ddatblygu aelodau staff fel ymarferwyr creadigol.  Mae’r cynlluniau gwaith yn talu sylw buddiol i ddatblygu medrau meddwl y disgyblion trwy eu hannog i fod yn greadigol.  Er mwyn ysbrydoli anian greadigol y staff a’r disgyblion, creda’r ysgol yn gryf bod angen cael gwared â’r ofn o fod yn anghywir yn gyntaf.  Mae hyn wrth wraidd addysgeg yr ysgol er mwyn datblygu cymuned ddysgu greadigol sy’n barod i fentro.  Enghraifft dda o hyn yw’r cyfresi o ffilmiau byr a grëwyd gan y disgyblion o dan y teitlau ‘Dewch i ddysgu sut i …’.  Pen llanw’r gwaith oedd noson ffilm yn neuadd yr ysgol gyda’r rhieni’n gynulleidfa, i ddathlu gwaith y disgyblion, ac i gyflwyno ‘DVD’ i bob un. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Roedd pob plentyn wedi gwneud cynnydd da iawn yn eu medrau llafar yn dilyn y prosiect.  Gwelwyd cynnydd nodedig yng nghyflawniad bechgyn a disgyblion bregus.  Yn dilyn y prosiect, cyrhaeddodd 82% o’r disgyblion eu targedau tymor yn gynt na’r disgwyl ac roedd 100% wedi gwneud cynnydd da iawn yn yr elfen berfformio.  Yn dilyn hyn, aeth yr ysgol ati i osod targedau mwy heriol er mwyn gwella medrau llafar y disgyblion ymhellach, trwy ddarparu gweithgareddau creadigol sydd o safon uchel iawn.

Ystyriwyd barn y disgyblion yn dilyn pob sesiwn ac roedd staff yn addasu’r cynlluniau’n i sicrhau lefel ymrwymiad uchel a chymhelliant ymestynnol.  O ganlyniad, gwelwyd cynnydd nodedig yn hunanhyder y disgyblion.  Yn ogystal, gwnaeth y disgyblion mwy abl gynnydd da iawn yn eu medrau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu wrth iddynt ddatblygu medrau newydd yn ymwneud â defnyddio sgrin werdd.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

• Cymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol ar y cyd â’r Cyngor Celfyddydau
• Paratoi astudiaethau achos ar ran y Cyngor Celfyddydau
• Yn fewnol, wrth ddarparu cyfleoedd effeithiol iawn i ddatblygu medrau creadigol bron pob disgybl ar draws y cwricwlwm
• Dathlu gwaith y disgyblion trwy ei arddangos ar wefan yr ysgol
• Arddangos y ffilmiau ar sgrin yng nghyntedd yr ysgol ar gyfer ymwelwyr
• Nosweithiau ffilm i rieni
• Hwyluso sesiynau rhannu arfer dda yn draws sirol
• Gwneud cyflwyniadau ac arwain gweithdai mewn cynadleddau Cau’r Bwlch


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn