Gwella llythrennedd a rhifedd disgyblion trwy hunanwerthuso athrawon

Arfer effeithiol

Gilfach Fargoed Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gilfach Fargoed yn gwasanaethu cymuned Gilfach ger Bargoed yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 155 o ddisgyblion amser llawn rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae tua 30% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw cyfartaleddau lleol a chenedlaethol.  Mae gan ryw 15% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae bron pob un o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle siaredir Saesneg fel y brif iaith.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae gweithdrefnau hunanarfarnu trylwyr, sy’n cynnwys cymuned yr ysgol gyfan, yn sicrhau hinsawdd sy’n datblygu a gwella’n barhaus ar gyfer yr holl randdeiliaid.

Mae arweinwyr yn monitro cynnydd yn erbyn y cynllun datblygu ysgol yn helaeth ac yn rheolaidd i arfarnu llwyddiant mentrau.  Mae strategaethau trylwyr ar gyfer hunanarfarnu a chynllunio gwelliant yn nodweddion rheolaidd yng ngweithgareddau’r ysgol ac yn elfen bwysig o waith pob un o’r staff.  Mae elfennau hynod effeithiol yn cynnwys gwrando ar ddysgwyr yn rheolaidd, arsylwadau gwersi ffocysedig a theithiau dysgu, adolygu llyfrau’n drylwyr, a sylw trylwyr i ddata.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

I ddechrau, nododd yr uwch dîm arweinyddiaeth (UDA) y meysydd allweddol canlynol sy’n gwneud hunanarfarnu effeithiol, sef:

  • Arsylwi Addysgu a Dysgu
  • Craffu ar Waith
  • Gwrando ar Ddysgwyr
  • Dadansoddi Data
  • Ystyried Barn Rhanddeiliaid
  • Cynllunio Craffu
  • Dadansoddi Ansawdd yr Amgylchedd Dysgu

Mae cynnydd dysgwyr yn cyfrannu at y meysydd allweddol hyn.  Mae arweinwyr yn rhoi sylw trylwyr i fonitro’r cynnydd hwn ac asesu effaith ymyriadau.

Mae arweinwyr yn ymgymryd â rhaglen flynyddol fanwl o weithgareddau hunanarfarnu, sy’n nodi’r camau gweithredu, yr unigolion sy’n gyfrifol a’r effaith ar hunanarfarnu.  Mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn cymryd rhan yn y rhaglen hunanarfarnu hon, ac mae eu rolau wedi eu nodi’n glir.  Gan fod cynnydd disgyblion yn cael mwy o flaenoriaeth nag unrhyw beth arall yn y broses hunanarfarnu, mae’r rhaglen yn cynnwys gweithdrefnau asesu helaeth yr ysgol.  Mae arweinwyr yn trefnu gweithgareddau allweddol yn rheolaidd, sy’n cael effaith benodol ac ystyrlon ar y broses hunanarfarnu.  Mae pob tasg asesu y mae staff yn ymgymryd â hi, sydd naill ai’n safonedig neu’n fewnol, yn arwain at dargedau neu gamau gweithredu penodol i gefnogi gwelliant ysgol a chynnydd disgyblion.

Mae staff yn olrhain cynnydd pob disgybl yn fanwl, ac yn monitro’r rheiny sydd mewn perygl o fethu cyrraedd targedau neu y mae’r ysgol yn eu hystyried yn “Ddysgwyr sy’n Agored i Niwed” hyd yn oed yn agosach, ac yn ffurfio rhan o drafodaethau rheolaidd am gynnydd disgyblion yn ystod cyfarfodydd staff.  Mae staff yn profi pob disgybl sy’n cael ymyrraeth bob hanner tymor, ac yn defnyddio canlyniadau’r rhain, yn ogystal â gwybodaeth ynghylch cynnydd, i asesu effeithiolrwydd pob ymyrraeth a darparu targedau unigol, ychwanegol ar gyfer y disgybl hwnnw.  Mae targedau rheoli perfformiad yn cysylltu’n uniongyrchol â thargedau heriol o ran cynnydd disgyblion a gwelliant ysgol gyfan. 

Mae’r ysgol wedi ymdrechu i wella rôl llywodraethwyr yn y broses hunanarfarnu, ac mae bellach yn cynnal diwrnod blynyddol lle caiff yr holl staff a llywodraethwyr gyfle i gyfarfod i adolygu’r cynllun datblygu ysgol, gan sicrhau bod llywodraethwyr yn cymryd rhan weithredol mewn hunanarfarnu’r ysgol. 

Mae’r rhaglen fanwl ‘Gwrando ar Ddysgwyr’, sy’n dadansoddi ymatebion ac yn darparu data ystyrlon i gefnogi hunanarfarnu, yn ogystal â’r gwaith arall ar farn rhanddeiliaid, yn sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn llywio hunanarfarnu yn effeithiol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

Gwnaed gwelliannau sylweddol mewn safonau llythrennedd a rhifedd dros y flwyddyn ddiwethaf.  Er enghraifft, ym Medi 2014, roedd oedran darllen tua 24% o ddisgyblion islaw eu hoedran cronolegol.  Erbyn Medi 2015, roedd y ffigur hwn yn llai na hanner hyn. 

Gwnaed gwelliannau sylweddol gan ddisgyblion ar ymyriadau:

Y Cyfnod Sylfaen

Yn nhymor yr hydref, o’r disgyblion hynny sy’n cael ymyriadau llythrennedd, gwnaeth 65% gynnydd gwell na’r disgwyl o ran eu hoedrannau darllen.  Gwnaeth cant y cant o ddisgyblion gynnydd gwell na’r disgwyl mewn rhifedd. 

Cyfnod Allweddol 2

Yn nhymor yr hydref, o’r disgyblion hynny sy’n cael ymyriadau llythrennedd, gwnaeth 77% gynnydd gwell na’r disgwyl o ran eu hoedrannau darllen.  Gwnaeth naw deg y cant o ddisgyblion gynnydd gwell na’r disgwyl mewn rhifedd. 

Yn sgil ymdrechu i sicrhau bod gan ddysgwyr o leiaf lefelau da o gymhwysedd mewn llythrennedd a rhifedd, roedd canlyniadau’r ysgol mewn profion cenedlaethol gryn dipyn yn uwch na’r disgwyl.  Mae uwchlaw lefel yr awdurdod lleol, y teulu o ysgolion tebyg a Chonsortiwm De Ddwyrain Cymru ar gyfer sgorau safonedig >95 ym mhob grŵp blwyddyn heblaw un, sydd wedi cael ei dargedu’n benodol ar gyfer ymyrraeth ychwanegol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda o fewn ei chlwstwr o ysgolion tebyg.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn