Gwella lles emosiynol disgyblion - Estyn

Gwella lles emosiynol disgyblion

Arfer effeithiol

Ysgol Gyfun Y Strade


 
 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Y Strade yn ysgol gyfun ddwyieithog sy’n darparu addysg ar gyfer disgyblion 11-18 oed yn awdurdod lleol Caerfyrddin.  Lleolir yr ysgol yn agos at yr arfordir, ar ochr orllewinol Llanelli. Mae 1,120 o ddisgyblion yn yr ysgol, gyda 192 ohonynt yn y chweched dosbarth.

Mae dalgylch yr ysgol yn ymestyn ar hyd arfordir de-ddwyrain Sir Gaerfyrddin o’r Fforest a’r Hendy yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin.  Daw mwyafrif y disgyblion o dref Llanelli a’r pentrefi mawr o’i chwmpas gyda 17.3%  o’r disgyblion yn byw yn ardaloedd 20% mwyaf difreintiedig Cymru. 

Mae 10 ysgol gynradd yn bwydo’r ysgol.  Mae 7.8% o’r disgyblion yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ysgolion uwchradd, sef 16.4%.

Daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gefndir ethnig gwyn.  Saesneg yw iaith gartref tua 40% o’r disgyblion ond gall yr holl ddisgyblion siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.

Mae Ysgol Y Strade yn ysgol gynhwysol ag iddi awyrgylch gartrefol a chyfeillgar.  Mae diogelu ei phobl ifanc yn flaenoriaeth i’r ysgol.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Sylweddolodd arweinwyr yr ysgol bod y gofynion ar staff bugeiliol i ddelio â materion oedd yn ymwneud â lles, ac yn bennaf iechyd meddwl, yn cynyddu yn sylweddol o flwyddyn i flwyddyn.  Yn sgil hynny daeth yn amlwg nad oedd nifer o’r staff yn hyderus i fedru delio yn effeithiol gyda’r materion yma.  Amlygwyd hyn yn fwy fyth wrth graffu ar nifer y cyfeiriadau oedd yn mynd tuag at cwnselydd yr ysgol.  Roedd rhestr aros o tua 7 wythnos i weld y cwnselydd ac roedd hyn yn bennaf oherwydd bod straen meddyliol a phwysau gwaith yn cael effaith sylweddol ar iechyd a lles emosiynol disgyblion.  Yn ychwanegol i hyn, roedd y pwysau gwaith ar y swyddog uned cynhwysiant yn cynyddu yn sylweddol o ganlyniad i ddisgyblion nad oeddent yn medru dygymod â sefyllfaoedd cymdeithasol a pherthnasoedd gyda ffrindiau, ac oedd yn anymwybodol o sut i ddelio yn effeithiol â’u hemosiynau.

Y ffactor mwyaf arwyddocaol i’r ysgol oedd yr effaith roedd hyn yn ei gael ar y dysgu.  O ganlyniad i faterion cymdeithasol rhwng disgyblion, yn aml ar wefannau cymdeithasol y tu allan i’r ysgol, roedd y gofid a phryder yn dod i’r dosbarth ymysg y disgyblion.  Yn aml, roedd disgyblion yn methu canolbwyntio yn effeithiol o ganlyniad i’w pryder a’u diffyg gallu i ddelio â theimladau ac emosiynau.  Yn aml byddai hyn yn amlygu ei hun trwy ddirywiad sydyn mewn ymddygiad a chwympo mas cyson rhwng disgyblion. 

Gyda’r materion hyn mewn golwg ac er mwyn codi’r proffil a sicrhau bod pawb yn ymgymryd â’r cysyniad, sicrhaodd y tîm arwain bod iechyd a lles emosiynol yn cael cydnabyddiaeth ysgol gyfan fel blaenoriaeth yn y cynllun gwella.  Fel rhan o’r cynllun dysgu proffesiynol yn ystod y cyfnod hwnnw bu aelodau o staff yn rhan o hyfforddiant ymlyniad, ac yn ffocysu ar ‘Pam fod ymddygiad gwael yn digwydd?’.  Y theori oedd y byddai ffocysu ar hyfforddi disgyblion i ddelio ag emosiynau yn helpu datrys problemau ymddygiad.   

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Fel cychwyn i’r prosiect buddsoddwyd mewn hyfforddiant emosiwn i aelod o staff dysgu oedd yn awyddus i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am y mater drwy ymchwil gweithredol.  Datblygodd yr hyfforddiant yma at rwydweithio effeithiol rhwng y Strade ac ysgol uwchradd gyfagos.

Daeth yn amlwg, er mwyn lledu’r hyfforddiant emosiwn yma bod angen cynnwys cyngor a phwyllgorau’r ysgol er mwyn iddo gael yr effaith fwyaf ar y disgyblion ac ar ymddygiad yn ei gyfanrwydd.  O ganlyniad i hyn sefydlwyd pwyllgor iechyd a lles emosiynol gan y chweched dosbarth.  Cafodd grŵp o ddisgyblion y chweched eu hyfforddi fel mentoriaid emosiwn, yn ogystal a derbyn hyfforddiant ar sut i ddelio a’u hemosiynau eu hunain.  Darparwyd sesiynau hyfforddiant emosiwn ‘Saib a Symud’ gan ddisgyblion y chweched dosbarth i grwpiau tiwtora blwyddyn 7 dros gyfnod o 6 wythnos yn y man cychwyn.  Fe ymestynnwyd hyn i flwyddyn 8 a 9 fel rhan o’r gweithgareddau ‘Cyfoethogi’r Cwricwlwm’ ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Mae gan bob disgybl blwyddyn 7 fentor ym mlwyddyn 10 sydd yn eu helpu wrth drosglwyddo ac ymgartrefu yn yr ysgol.  Erbyn hyn mae’r mentoriaid yma, ynghyd a disgyblion y pwyllgor ym mlwyddyn 12 wedi’u hyfforddi ac yn mynd allan i ymweld a’r ysgolion cynradd fel rhan o’r broses pontio, gan gyflwyno’r hyn maent yn ei wneud i rieni ac athrawon.  Mae’r weithgaredd hon yn fuddiol i’r disgyblion yn ogystal wrth ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu. 

Er mwyn lledu’r neges ymhellach cynhaliwyd nifer o sesiynau i gyflwyno’r wybodaeth a’r fethodoleg i staff drwy gyfarfodydd athrawon a diwrnod HMS i’r holl staff.  Datblygwyd adnodd digidol yng nghwmwl yr ysgol gyfan i rannu gwybodaeth gyda staff a sicrhau cefnogaeth iddynt ar hyd y flwyddyn. 

Datblygwyd y gwaith ymhellach i gwmpasu darpariaeth ar feddwlgarwch a ffocws ar waith.  Roedd y gwreiddiau a osodwyd gan yr hyfforddiant emosiwn yn llywio cynlluniau y prosiect hwn.  Roedd y disgyblion yn awyddus i greu adnodd oedd yn cynorthwyo disgyblion eraill i gymhwyso egwyddorion meddwlgarwch a rheoli eu hemosiynau er mwyn medru gweithio yn fwy effeithiol.  Drwy gydweithio gydag unigolion o’r tu allan i’r ysgol mae’r ysgol bellach wedi peilota meddalwedd tawelu’r meddwl (‘Calm Cloud’), a datblygu adnoddau a chanllawiau er mwyn ymgyfarwyddo â strategaethau meddwlgarwch.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cyfeiriadau tuag at y swyddog lles, yn ogystal a chyfeiriadau tuag at y cwnselydd wedi lleihau yn sylweddol yn dilyn yr hyfforddiant ac yn enwedig y defnydd o’r ‘Saib a Symud’ a’re meddalwedd tawelu’r meddwl (‘Calm Cloud’).  Mae’r staff sydd yn gysylltiedig â’r swyddi lles yn gweld llawer llai o ddisgyblion sydd yn methu delio ag anawsterau emosiynol sydd yn atal dysgu effeithiol.

Dengys fidio llais y dysgwr sydd yn rhan o’r broses gwerthuso yn glir bod yr hyfforddiant wedi cael effaith bositif.  Mae’r disgyblion yn datgan bod staff yn llawer mwy ymwybodol o sut i ddelio â sefyllfaoedd.  Mae nifer fawr o ddisgyblion yn dweud bod y Saib a Symud, a’r meddalwedd tawelu’r meddwl yn ddefnyddiol iawn, ac yn golygu bod y dosbarth yn tawelu yn llawer cyflymach, ac yn canolbwyntio llawer yn well.  Mae hyn fwyaf amlwg yn ystod y wers ar ôl cinio. 

Mae staff yn gadarnhaol iawn ynghylch yr effaith mae’r technegau yma yn eu cael, yn enwedig gyda disgyblion sydd yn is eu gallu ac yn isel eu cymhelliant.  Mae’r meddylfryd o geisio deall y cefndir a’r emosiwn sydd y tu ôl i’r ymddygiad yn arbennig o bwerus pan yn trafod gyda disgyblion.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Cyd-weithio gydag ysgolion

Mae’r gwaith yma wedi deillio o gydweithio ag ysgolion lleol wrth ddatblygu’r hyfforddiant.  Mae ysgolion eraill yn eiddgar i dreialu agweddau o’r cynllun, ac wedi cwrdd gydag athrawon Y Strade i dderbyn gwybodaeth.  Mae’r ysgol yn gweithio yn agos gyda’r teulu o ysgolion cynradd, ac mae’r prosiect yma wedi sbarduno diddordeb gan nifer o’r ysgolion yma.  Mae nifer yn defnyddio’r un math o gyfundrefnau yn barod ac yn awyddus i ledu’r neges.  Mae’r ysgol yn cynllunio i ddatblygu mwy ar yr agwedd yma yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Cyflwyno i’r rhanbarth

Cafodd y gwaith yma ei gyflwyno fel rhan o ddiwrnod hyfforddiant a drefnwyd gan ranbarth ERW ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd eraill.  Bu’r diwrnod yma yna llwyddiant mawr a nodwyd bod diddordeb gan eraill i symud tuag at yr un trywydd.