Gwella lles disgyblion trwy ymgysylltu â disgyblion - Estyn

Gwella lles disgyblion trwy ymgysylltu â disgyblion

Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Haberdashers’ Monmouth School for Girls, a sefydlwyd ym 1892, yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol i ferched rhwng 11 a 18 oed, gydag ysgol baratoi, Inglefield House, i ferched rhwng 7 ac 11 oed. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae disgyblion a rhieni yn rhannu eu barn gyda’r ysgol yn rheolaidd fel rhan o ddiwylliant hunanarfarnu cadarn yr ysgol, ac mae’r farn hon yn dylanwadu ar drefniadau’r ysgol ar gyfer gwella gofal, cymorth ac arweiniad.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y camau gweithredu a gymerwyd gan yr ysgol ers i Estyn roi Gradd 1 i’r farn arolygu ar gyfer Cwestiwn Allweddol 4 ‘Pa mor dda yw’r gofal, y cymorth a’r arweiniad i ddysgwyr?’ yn 2009.  Er bod y farn hon wedi golygu bod agweddau ar waith yr ysgol yn y maes hwn yn rhagorol, roedd yr ysgol eisiau gwella’i darpariaeth ymhellach fyth. 

I wneud hyn, fe wnaeth yr ysgol gomisiynu arolwg annibynnol o foddhad rhieni â’i darpariaeth fugeiliol, ynghyd â chynnal arolygon blynyddol o ddisgyblion.  Gyda’i gilydd, fe wnaeth y canfyddiadau hyn amlygu meysydd i’w datblygu yn narpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu iechyd a lles disgyblion, yn benodol yr angen i wella llais y disgybl fel rhan o’u datblygiad cymdeithasol, fel y gallai disgyblion gymryd mwy o gyfrifoldeb a dangos blaengaredd, a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer hybu byw’n iach ac effaith y ddarpariaeth hon.

Ymhlith y camau gweithredu a gymerwyd gan yr ysgol i wella ansawdd y ddarpariaeth yr oedd adolygiad ac archwiliad mewnol llawn o ofal bugeiliol.  Rhan allweddol o’r broses hon oedd grwpiau ffocws bugeiliol o staff a disgyblion a roddodd eu barn a’u hatebion eu hunain i’r cwestiwn: ‘sut olwg sydd ar ofal bugeiliol rhagorol ar gyfer ein hysgol ni?’  Defnyddiwyd yr ymatebion o’r grwpiau hyn yn ysgogiadau allweddol ar gyfer llywio gwelliannau yn y ddarpariaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae gwelliannau yn ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer iechyd a lles wedi’u cyflawni i raddau helaeth trwy ganolbwyntio ar dair agwedd allweddol: y cwricwlwm, trefniadau preswylio a bugeiliol, a gweithgareddau allgyrsiol.

Fe wnaeth y grwpiau ffocws nodi meysydd i’w gwella yn ansawdd rhaglen gwricwlwm addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd yr ysgol.  I fynd i’r afael â hyn a chynllunio ar gyfer gwelliannau, gofynnodd y pennaeth addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd i ddisgyblion o wahanol grwpiau oedran beth roeddent eisiau ei gael ohono.  Yna, aethant ati i weithio gyda thimau o ddisgyblion i ail-frandio addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd ar ffurf rhaglen ‘Hyder am Oes’ yr ysgol.  Ar ôl ei lansio, fe wnaeth disgyblion barhau i helpu i benderfynu ar gwricwlwm y rhaglen trwy flychau awgrymiadau, system swyddogion a phrosesau adborth gweithredol ar ôl pob modiwl astudio.  Mae’r rhaglen bellach yn rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol ddynamig, sy’n sicrhau brwdfrydedd disgyblion ac yn hoelio’u sylw wrth ystyried materion ysbrydol, moesol a chymdeithasol.  Mae cymryd rhan mewn cynllunio’r agwedd hon ar y cwricwlwm yn galluogi disgyblion i sicrhau perchenogaeth ac mae’n ysgogi eu diddordeb.  Maent yn nodi pynciau o werth penodol sy’n bodloni eu hanghenion ac mae’r ysgol yn ymateb yn dda i’w syniadau.  Er enghraifft, mae staff yn canolbwyntio ar weithgareddau drama i godi hyder disgyblion Blwyddyn 8, yn helpu disgyblion Blwyddyn 9 i ddatblygu eu dealltwriaeth o gamddefnyddio alcohol ac maent yn pwysleisio cymryd cyfrifoldeb, dangos blaengaredd a ffyrdd iach o fyw ymhlith yr holl ddisgyblion.

Yn ogystal, roedd yr ysgol eisiau galluogi’r trefniadau preswylio a bugeilio i gyfrannu tuag at wella’r ddarpariaeth ar gyfer iechyd a lles. 

Canolbwyntiodd yr ysgol ar sicrhau bod y ddarpariaeth hon yn ategu’r rhaglenni cwricwlaidd ac allgyrsiol, gyda’r nod o wella’r effaith gyffredinol ar ddeilliannau disgyblion.  Cyflawnwyd hyn drwy amrywiaeth o gamau gweithredu, er enghraifft trwy gynnal archwiliad ac yna trwy greu swydd uwch reoli newydd i fonitro, symleiddio a gwella’r ddarpariaeth i breswylwyr.  Un o’r sgil-effeithiau yw bod preswylwyr yn cymryd llawer mwy o ran mewn gweithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon a ffitrwydd, sy’n gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol at eu lles.

Mae’r ysgol yn disgrifio rhan o’i hethos a’i nodau fel ‘ehangu’r meddwl a phrofiadau sy’n cyfoethogi’.  Rhan ganolog o’r cyfoethogi hwn yw darpariaeth yr ysgol ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol, a rhan disgyblion ynddynt, er mwyn datblygu’u hyder a’u medrau cymdeithasol a bywyd.  Roedd cynyddu ystod y gweithgareddau a nifer y disgyblion a oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol wedi’i nodi’n faes i’w wella.  Ar draws yr ysgol, cyflawnwyd hyn mewn gwahanol ffyrdd.  Er enghraifft, yng nghyfnod allweddol 2, yn Inglefield House, cyflwynodd staff ‘St Catherine’s Diploma’.  Bwriad hwn yw cydnabod a gwobrwyo holl gyflawniadau disgyblion, nid yn unig cyrhaeddiad ac ymdrech mewn gwersi, ond hefyd y medrau a enillant y tu allan i’r ystafell ddosbarth, boed hynny mewn chwaraeon, cerddoriaeth, helpu ei gilydd neu lu o fedrau bywyd hanfodol eraill.  Mae’r pwys a roddir ar yr holl agweddau gwahanol ar y ‘St Catherine’s Diploma’ yn rhoi llwyfan eithriadol i ddisgyblion adeiladu arno wrth iddynt symud drwy’r ysgol uwch, yn sgil cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol a mentrau yn seiliedig ar fedrau.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae trefniadau diwygiedig yr ysgol i gryfhau ei darpariaeth ar gyfer iechyd a lles wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion.  Mae hyn yn cynnwys cynnydd cadarn yn nifer y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.  Yn 2014-2015, roedd bron pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau corfforol a chwaraeon allgyrsiol.  Mae hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o’r radd flaenaf y disgyblion o bwysigrwydd cadw’n iach, sydd i’w gweld yn eu gweithredoedd.

Mae arolygon diweddar o ddisgyblion yn dangos bod y cyfle iddynt gymryd cyfrifoldeb, dangos blaengaredd a chyfrannu at wneud penderfyniadau yn yr ysgol, trwy weithgareddau fel llunio’r rhaglen ‘hyder am oes’, yn cynyddu eu cred bod yr ysgol yn gwrando ar eu barn.  Er enghraifft, yn 2015, roedd nifer y disgyblion a ymatebodd yn gadarnhaol i’r dangosydd hwn 12 pwynt canran yn uwch nag yn 2012.  Mae gwaith y cyngor ysgol wedi derbyn dwy wobr canmoliaeth uchel gan Lefarydd Tŷ’r Cyffredin fel rhan o gynllun Gwobr Cynghorau Ysgol y Llefarydd.  Mae gwaith y cyngor ysgol ac amrywiaeth o fentrau eraill yn gwneud cyfraniad rhagorol at ddatblygiad cymdeithasol disgyblion.