Gwella lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu trwy gyfoethogi’r cwricwlwm - Estyn

Gwella lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu trwy gyfoethogi’r cwricwlwm

Arfer effeithiol

Maes yr Haul Primary School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Maes yr Haul hanes cryf o gyflawni safonau uchel mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), y cyfryngau a cherddoriaeth, ac mae wedi llwyddo’n helaeth ym myd chwaraeon. 

Mae arwyddair yr ysgol, sef “Cyfoethogi bywyd trwy ddysgu gydol oes” yn adlewyrchu ei hymrwymiad i addysg fel cyfrwng ar gyfer cyrhaeddiad a chyflawniad, a hefyd fel ffordd o gyfoethogi bywydau plant trwy ddatblygu’r medrau, y priodoleddau a’r agweddau cadarnhaol at ddysgu sydd eu hangen ar blant i fod yn ‘ddysgwyr am oes’.

Mae llywodraethwyr, arweinwyr a staff yr ysgol i gyd yn rhoi gwerth uchel ar ddatblygiad cyfannol pob plentyn, gan gydnabod gwerth datblygu ystod eang o fedrau, diddordebau a rhinweddau personol, yn ogystal â’r pynciau academaidd mwy traddodiadol.

Croesawodd arweinwyr yr ysgol yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ynglŷn â’r cwricwlwm newydd i Gymru.  Roedd y pedwar diben craidd eisoes yn cael eu hadlewyrchu yn arfer dda bresennol yr ysgol, yn eu barn nhw, a rhoddodd hyn fan cychwyn cryf iddynt ar gyfer symud ymlaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Wedi i’r ysgol gael ei grymuso a’i hysbrydoli gan y gwaith tuag at y cwricwlwm newydd, cynhaliodd archwiliad llawn o fedrau a diddordebau staff, y ffordd y mae’n cynllunio’r cwricwlwm, darpariaeth allgyrsiol bresennol a phartneriaethau â darparwyr eraill.  Ad-drefnodd arweinwyr dimau a chyfrifoldebau staff o amgylch y meysydd dysgu a phrofiad newydd ac ailstrwythuro’r cynllunio i ddarparu ffocws cryfach naill ai ar wyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau neu’r celfyddydau mynegiannol bob tymor.  Mae athrawon yn trafod amlinelliadau o destunau bwriadedig ar ddechrau pob tymor ac mae disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol, gan awgrymu syniadau a chydweithio i gytuno ar nodau dysgu penodol yr hoffent eu cyflawni.  Pan nad oedd gan yr ysgol arbenigedd digonol ymhlith eu staff eu hunain i ddarparu cyfleoedd o ansawdd uchel mewn meysydd dysgu, fel y celfyddydau mynegiannol, fe wnaethant drafod cytundebau gyda darparwyr fel gwasanaeth cerdd yr awdurdod lleol, cwmni dawns lleol ac arlunydd graffiti.

Cyflwynodd yr ysgol glybiau ychwanegol amser cinio ac ar ôl yr ysgol i ymestyn y cyfleoedd amrywiol sy’n agored i bob disgybl, gan gynnwys y disgyblion iau a mwy agored i niwed, a’u hannog i roi cynnig ar weithgareddau newydd.  Mae’r rhain yn cynnwys dysgu am dyfu planhigion yn y clwb garddio a datblygu medrau meddwl cyfrifiannol yn y clwb codau.  

Mae athrawon yn trefnu digwyddiadau rhannu â theuluoedd i gefnogi’r testunau, ac mae athrawon cyfnod allweddol 2 yn annog disgyblion i gynllunio a ‘gwneud cais’ am gyllid ar gyfer prosiectau, gan anelu at wneud elw.  Mae’r dulliau newydd hyn wedi cyfrannu at gwricwlwm mwy integredig, uchelgeisiol a chyfoethog, sy’n cynorthwyo disgyblion yn eithriadol o dda wrth ddatblygu priodoleddau pwysig fel hunanhyder, dyfalbarhad a’r gallu i gynllunio a chydweithio.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae defnydd yr ysgol o ddarparwyr allanol wedi codi safonau a dyheadau, ac wedi gwella hyder ac arbenigedd staff.  Mae wedi cael effaith sylweddol ar brofiadau disgyblion.  Er enghraifft, eleni, mae’r holl ddisgyblion ar ddiwedd y cyfnod sylfaen wedi dechrau datblygu gwerthfawrogiad o gerddoriaeth trwy ddysgu medrau allweddellau; mae holl ddisgyblion yr adran iau wedi perfformio mewn band samba ac mae dros hanner yr holl ddisgyblion iau wedi canu neu berfformio mewn digwyddiadau cerddorol naill ai mewn lleoliadau rhanbarthol neu genedlaethol.  Perfformiodd côr yr ysgol mewn gwyliau yn Llundain a Pharis ac mae llawer o ddisgyblion yn ymuno â chlwb allgyrsiol wythnosol ‘Glee’ i ymarfer ar gyfer cynhyrchiad theatr gerddorol ar ddiwedd blwyddyn, y mae cannoedd o aelodau o’u teuluoedd yn ei fynychu.

Mae’r ysgol yn cydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol o ran datblygu lles disgyblion.  Mae’n rhoi statws uchel i weithgareddau chwaraeon ac yn cynnig profiad o amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon mewn gwersi addysg gorfforol a chlybiau ar ôl yr ysgol sy’n cael eu mynychu gan nifer dda o ddisgyblion.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos brwdfrydedd go iawn am ymarfer corff.  Maent yn datblygu sbortsmonaeth da a ffitrwydd gwell, ac yn mwynhau lles cadarnhaol.  Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ymddygiad da ac agweddau cadarnhaol at ddysgu yn yr ysgol.

Trwy weithgareddau cwricwlwm uchelgeisiol a dychmygus, fel prosiectau menter yr ysgol, mae medrau cydweithio, dyfalbarhad, hyder a dawn greadigol disgyblion wedi gwella’n fawr.  Maent yn cynllunio prosiectau cymhleth, yn ystyried goblygiadau ariannol ac yn cyflwyno syniadau creadigol i gynulleidfaoedd eu ‘beirniadu’.  Mae disgyblion yn gweithio’n dda mewn timau ac yn gwerthfawrogi’n fawr y mewnbwn ystyrlon a gânt at wneud penderfyniadau, gan gynnwys sut i wario unrhyw elw a wnaed (eleni, penderfynodd y disgyblion gyfrannu cyfran o’u helw at elusen).  Trwy integreiddio dysgu ar draws meysydd amrywiol y cwricwlwm mewn prosiectau cydlynol, mae disgyblion yn gweld mwy o ddiben a pherthnasedd yn eu dysgu, gan ddangos lefelau uchel o gymhelliant a diddordeb.    Mae’r ysgol yn gweld bod meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ddatblygu agweddau cryf at ddysgu, a bod rhannu profiadau dysgu disgyblion gyda rhieni yn elfen bwysig o weithgareddau cyfoethogi.  Mae disgyblion yn ymfalchïo mewn rhannu eu cyflawniadau ac maent yn llawn cymhelliant i wneud eu gorau.  Mae’r cyswllt cryf â theuluoedd yn creu cymuned ddysgu gynnes yn yr ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Amrywiaeth o ddigwyddiadau rheolaidd ‘rhannu â theuluoedd’

  • Cyflwyniad i ysgolion eraill trwy ŵyl ddysgu’r awdurdod lleol

  • Trafodaeth rhwng athrawon gwahanol ysgolion

  • Enghreifftiau fideo o arfer ar wefan yr ysgol