Gwella lles a safonau cyrhaeddiad - Estyn

Gwella lles a safonau cyrhaeddiad

Arfer effeithiol

Bryn Deva C.P. School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Bryn Deva wedi’i lleoli yng Nghei Connah yn Sir y Flint.  Mae gan yr ysgol 273 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 30 sy’n mynychu’r feithrinfa’n rhan-amser.  Mae 10 dosbarth, gan gynnwys naw dosbarth oedran cymysg.

Gwyn yw ethnigrwydd bron pob un o’r disgyblion.  Mae tua 15% o’r disgyblion yn newydd i’r iaith Saesneg.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n dod o deuluoedd Cymraeg eu hiaith.  Mae’r ysgol wedi nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan oddeutu 34% o ddisgyblion a bod oddeutu 26% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Bryn Deva yn cynnal nifer o raglenni hynod effeithiol wedi’u hanelu at wella gofal, cymorth ac arweiniad, a chyfoethogi lles disgyblion.  Mae’r ysgol wedi datblygu’r rhain trwy weithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol.  Mae dwy fenter gyferbyniol yn benodol wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar les a safonau cyrhaeddiad disgyblion.  Y rhain yw ‘Clwb Seren Bach’, sef grŵp anogaeth yr ysgol, a ‘Chyffwrdd â’r Nen’, sef prosiect wedi’i anelu at wella ffitrwydd a threchu tlodi trwy fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant.

Mae gwerthoedd craidd yr ysgol yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn meithrin pob plentyn fel unigolyn ac yn datblygu ymagwedd gynhwysol trwy groesawu rhieni, timau ehangach o weithwyr proffesiynol a’r gymuned leol yn bartneriaid mewn ‘dysgu gyda’n gilydd, am byth’ (‘learning together, forever’ – arwyddair yr ysgol).  Mae’r ysgol yn canolbwyntio’n gryf ar gynyddu cyfleoedd disgyblion mewn bywyd trwy wella’u lles a’u safonau cyrhaeddiad. 

Disgrifiad o natur y strategaeth a’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi anelu at gynyddu lles a safonau cyrhaeddiad disgyblion trwy ddatblygu amrywiaeth o fentrau ar y cyd â nifer o bartneriaid cymunedol.  Mae staff sy’n gweithio ar amrywiol lefelau yn yr ysgol yn arwain y prosiectau hyn ac mae’r uwch dîm arwain yn eu monitro.  Mae’r ddwy fenter wrthgyferbyniol iawn hyn wedi cael effaith sylweddol ar safonau lles a chyrhaeddiad disgyblion.

Sefydlodd yr ysgol ‘Clwb Seren Bach’, ei darpariaeth anogaeth, er mwyn gwella perfformiad academaidd a chymdeithasol disgyblion penodol yn y Cyfnod Sylfaen a oedd yn cael trafferth ymdopi mewn lleoliadau dosbarth cyfan.  Mae tri aelod staff sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn rhedeg y prosiect, sy’n cael ei ariannu drwy Grant Amddifadedd Disgyblion yr ysgol.  Mae gan y ddarpariaeth ei hystafell fechan ei hun ar gyfer ymyrraeth grŵp, sy’n hynod ysgogol yn weledol ac sydd ag adnoddau da.  Dyma ymyrraeth fyrdymor, gynhwysol, gyda ffocws clir.  Fodd bynnag, ei nod yw cael effaith hirdymor ar wella hyder disgyblion.  Wrth i ddisgyblion ddechrau yn ‘Clwb Seren Bach’, mae staff yn asesu eu medrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Mae’r disgyblion yn parhau’n aelodau gweithgar o’u dosbarthiadau eu hunain, ond yn mynychu’r grŵp anogaeth am ddau i bedwar tymor.  Mae staff yn ailasesu eu hanghenion bob tymor.  Mae trefn pob sesiwn anogaeth yn dibynnu ar anghenion unigol y disgyblion.  Fodd bynnag, rhan bwysig o bob sesiwn yw’r pryd bwyd y mae’r disgyblion yn ei rannu, sy’n rhoi cyfle o ansawdd uchel iddynt am ddysgu cymdeithasol a chyfle i ddatblygu perthnasoedd lle y maent yn ymddiried mewn eraill yn y grŵp.  Mae’r ysgol yn gwahodd rhieni’r disgyblion yn y grŵp anogaeth i fore coffi gyda’u plant bob chwe wythnos. 

Mae data olrhain yr ysgol yn dangos bod y fenter yn hynod effeithiol a bod medrau disgyblion yn gwella’n gyflym iawn.  Mae disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, a arferai fynychu’r grŵp, yn cael ‘tocyn anogaeth’ rhag ofn y byddant yn teimlo bod angen iddynt ail-fynychu.  Anaml iawn y byddant yn ei ddefnyddio, ac mae safonau ymddygiad ar draws cyfnod allweddol 2 yn gyson dda.

Sefydlodd yr ysgol ‘Cyffwrdd â’r Nen’, sef ei menter iechyd a ffitrwydd, i wella lles a chyrhaeddiad academaidd yr holl ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2.  Roedd yr ysgol a’r awdurdod lleol (trwy ddata arolwg) ill dau wedi nodi bod lleiafrif o ddisgyblion dros eu pwysau a bod llawer ohonynt yn cael trafferth â’u ffitrwydd, o gymharu â’u cyfoedion mewn lleoliadau eraill.  Roedd gwella hyn yn hollbwysig ar gyfer gwella cyfleoedd y disgyblion hyn mewn bywyd.  Mae dau aelod staff yn arwain y prosiect, y mae pob ymarferwr yn y cyfnod allweddol yn ei redeg.  Ni fu unrhyw gostau ariannol arwyddocaol ynghlwm wrth redeg y rhaglen.  Mae’r holl ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd, gan gynnwys y ‘clwb 100 milltir’, lle bydd disgyblion yn rhedeg lapiau o’r ardal chwarae yn ddyddiol.  Ynghyd ag amrywiol gymhellion eraill, mae hyn yn arwain at wobr aur i ddisgyblion sy’n cwblhau 100 milltir o lapiau.  Trwy weithio ar y cyd â phrifysgol leol, mae staff yn meincnodi ffitrwydd disgyblion ar ddechrau’r prosiect ac eto bob dau dymor.  Mae rhieni wedi cymryd rhan mewn gweithdai coginio iach, sy’n eu helpu i gefnogi eu plant yn effeithiol.  Mae dysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm wedi canolbwyntio ar ddatblygu ffitrwydd a phwysigrwydd byw’n iach.  Mae disgyblion sy’n gwneud y gwelliannau mwyaf yn eu ffitrwydd yn cael cerdded i fyny’r Wyddfa fel gwobr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr

Mae’r holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn y ddarpariaeth anogaeth wedi gwneud gwelliannau da iawn yn eu medrau cymdeithasol ac emosiynol.  Hefyd, fe wnaeth yr holl ddisgyblion gynnydd mewn asesiadau cenedlaethol, sy’n sylweddol uwch na’r hyn a ddisgwylir (o gymharu â’r targedau a osodwyd ar eu cyfer yn y flwyddyn dderbyn).  Cyflawnodd 60 y cant o’r disgyblion hyn ddangosydd y Cyfnod Sylfaen.  Mae rhieni disgyblion yn y ddarpariaeth anogaeth yn chwarae mwy o ran mewn dysgu eu plentyn ac yn teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch eu gallu eu hunain fel rhieni.  Fe wnaeth athrawon ar draws y Cyfnod Sylfaen adrodd bod ymddygiad ac ymgysylltiad yn well ar draws eu dosbarthiadau. 

Mae athrawon yng nghyfnod allweddol 2 wedi nodi gwelliannau cryf o ran canolbwyntio ac ymgysylltiad gan ddisgyblion mewn gwersi yn syth ar ôl y sesiynau ffitrwydd.  Roedd tri chwarter y disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 wedi gwella’u sgorau ffitrwydd yn helaeth mewn dau dymor.  Yn ogystal, dangosodd canran tebyg welliant yn eu sgorau craidd yn y profion rhifedd cenedlaethol.  Disgyblion ym Mlwyddyn 3 ddangosodd y cynnydd mwyaf yn eu stamina.  Y grŵp hwn hefyd ddangosodd y cynnydd mwyaf yn eu sgorau craidd ar gyfer eu profion rhifedd gweithdrefnol a rhesymu.  Yn ogystal, nododd athrawon yng nghyfnod allweddol 2 fod disgyblion yn ymgysylltu’n llawer gwell â’u gwersi pan oeddent yn dysgu am bynciau ffitrwydd iechyd.  Mae presenoldeb wedi gwella 0.9% mewn blwyddyn academaidd ers rhoi’r prosiect ar waith yng nghyfnod allweddol 2.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cefnogi llawer o athrawon o amrywiol leoliadau ac ymarferwyr eraill, fel staff yr awdurdod lleol, trwy eu mentora a chynnig ymweliadau tywysedig iddynt â ‘Clwb Seren Bach’. 

Mae chwe ysgol, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, ac un brifysgol yng ngogledd Cymru wedi cymryd rhan mewn cynllunio prosiect ‘Cyffwrdd â’r Nen’ a’i roi ar waith yn Ysgol Bryn Deva.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei llwyddiant trwy gyfarfodydd penaethiaid.  Yn ogystal, mae wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r wasg leol yn helaeth i roi cyhoeddusrwydd i erthyglau rheolaidd am y ddarpariaeth anogaeth a’r prosiect ffitrwydd.  


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn