Gwella ieithoedd tramor modern yn ysgolion uwchradd Cymru – Gorffennaf 2009

Adroddiad thematig


Mae angen gwneud mwy i annog a chefnogi disgyblion i astudio ieithoedd tramor modern mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern ar gyfer TGAU ac ychydig o ostyngiad mewn Safon Uwch.Er bod safonau cyflawniad yn dda ar y cyfan ar gyfer y rhai sy’n parhau i ddilyn y cyrsiau hyn, mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched yn fwy nag y mae mewn pynciau eraill, gyda merched yn cael canlyniadau llawer gwell ar gyfartaledd.


Argymhellion

Dylai ysgolion uwchradd:

  • ddarparu dwy awr yr wythnos o ieithoedd tramor modern yng nghyfnod allweddol 3;
  • cefnogi datblygiad ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd partner;
  • datblygu arferion cyffredin rhwng yr adrannau Saesneg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern i wella dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau iaith; a
  • threfnu cyfleoedd i athrawon ieithoedd tramor modern arsylwi arfer dda a mynychu cyrsiau hyfforddi.

Dylai awdurdodau lleol:

  • drefnu ymweliadau rheolaidd i arbenigwr arsylwi gwaith adrannau ieithoedd tramor modern; a
  • rhoi mwy o her i adrannau ieithoedd tramor modern wella safonau a’r nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • barhau i annog a chefnogi datblygiad ieithoedd tramor modern mewn ysgolion cynradd; a
  • hyrwyddo cysylltiadau ysgol â gwledydd tramor ymhellach a rhoi cyhoeddusrwydd i ddyfarniadau fel Dyfarniad Ysgolion Rhyngwladol y Cyngor Prydeinig.

I gael rhestr lawn o argymhellion, lawrlwythwch yr adroddiad.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn