Gwella gwerthuso, cynllunio a chydlynu’r ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) a disgyblion eraill y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt - Estyn

Gwella gwerthuso, cynllunio a chydlynu’r ddarpariaeth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) a disgyblion eraill y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt

Arfer effeithiol

Powys County Council


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Barnwyd bod angen gwelliant sylweddol ar Gyngor Sir Powys yn 2019 a thynnwyd y sir o’r categori gweithgarwch dilynol yn 2021. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ailstrwythurodd y cyngor ei wasanaethau ADY a phenododd bennaeth gwasanaeth newydd. Mae cymorth i ddisgyblion ag AAA ac ADY yn flaenoriaeth uchel i’r gwasanaeth addysg ac mae’r pennaeth gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r prif weithredwr a’r cyfarwyddwr addysg i ysgogi gwelliannau yn y cymorth a ddarperir i ysgolion a disgyblion. Trefnodd y cyngor gymorth allanol gan ymgynghorwyr a chynghorwyr profiadol i gefnogi’r gwaith hwn. Mae swyddogion yn ystyriol o’r angen i gynnal y gwaith hwn ac adeiladu arno, ac aethant ati i gryfhau prosesau rheoli perfformiad a gwella’r cyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn gwella medrau a datblygu aelodau parhaol y tîm ADY. Mae prosesau hunanwerthuso gwell yn helpu swyddogion i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yng ngwaith y tîm ADY ac mae disgwyliadau uwch swyddogion ar gyfer gwaith y tîm yn uchel. Mae’r tîm ADY wedi sicrhau’r gwelliannau cyflym hyn yn ei waith ar yr un pryd â chynorthwyo ysgolion ag agenda trawsnewid ADY.  

Mae swyddogion wedi datblygu perthynas waith dda ag ysgolion. Maent wedi ymateb yn dda i safbwyntiau penaethiaid a Chydlynwyr ADY wrth iddynt roi systemau a phrosesau newydd ar waith. Mae swyddogion yn darparu cymorth a chyngor effeithiol, er enghraifft trwy fwletinau wythnosol defnyddiol, cyfarfodydd ac adnoddau ar-lein gwerthfawr. Mae arweinwyr ysgolion yn gwerthfawrogi pwynt mynediad unigol yr awdurdod ar gyfer atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Ysgolion trwy Banel Cynhwysiant Powys (PIP) a Phanel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar, ynghyd â phlatfform a phorth dwyieithog ‘Tyfu’. Mae’r platfform hwn yn adnodd defnyddiol iawn a hawdd cael ato, sy’n sicrhau bod dogfennau ac atgyfeiriadau AAA i gyd ar gael trwy un pwynt mynediad cyfleus. 

Mae’r awdurdod lleol yn cynnig dysgu proffesiynol gwerthfawr i ysgolion a lleoliadau. Er enghraifft, mae’r gwasanaeth wedi ariannu ychydig o athrawon mewn ysgolion arbennig a chanolfannau arbenigol i astudio diplomau ôl-raddedig mewn darpariaeth AAA. Rhennir yr arbenigedd hwn yn fuddiol gyda darparwr eraill. Mae staff eraill mewn ysgolion arbennig wedi ymgymryd â dysgu proffesiynol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth dda iawn o angen. Hefyd, sefydlwyd rhaglen hyfforddiant sir gyfan, fel y gall staff addysgu a chymorth ym mhob ysgol ddatblygu medrau yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o AAA, gan gynnwys cyflyrau ar y sbectrwm awtistig; anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu; anawsterau dysgu penodol ac anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ar y cyfan, mae uwch arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau o’r farn bod swyddogion anghenion dysgu ychwanegol a staff gwasanaeth canolog yr awdurdod lleol yn eu cefnogi’n dda. Mae’r awdurdod lleol yn defnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth yn effeithiol fel rhan o werthuso gwasanaethau. Mae swyddogion yn myfyrio ar strategaethau sydd wedi gweithio’n dda a’r rhai y buodd eu heffaith ar ddysgwyr yn llai llwyddiannus. Er enghraifft, yn dilyn hyfforddiant diweddar ar ymddygiad cadarnhaol, mae bron pawb a gymerodd ran wedi gwneud newidiadau i’w hymarfer o ganlyniad uniongyrchol i’r dysgu proffesiynol. Dywed llawer o ysgolion a lleoliadau eu bod eisoes wedi dechrau gweld effaith gadarnhaol ar ymarfer, gan gynnwys gwell cysondeb yn ymagwedd staff yn ogystal â llai o ymddygiadau heriol a gwaharddiadau.

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Mae Cyngor Sir Powys yn sir wledig, fawr yng nghanolbarth Cymru, sydd â phoblogaeth o 132,515 o bobl. Mae’n cwmpasu chwarter tir Cymru a dyma un o’r siroedd mwyaf, ond lleiaf poblog, yng Nghymru a Lloegr. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 95 ysgol. Mae gan yr awdurdod un ysgol pob oed i ddisgyblion 3 i 16 oed. Mae 80 o ysgolion cynradd, gan gynnwys 21 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae 11 ysgol uwchradd, nad yw’r un ohonynt wedi’i chategoreiddio’n ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae chwech o’r ysgolion uwchradd hyn yn ysgolion dwy ffrwd iaith. Yn ogystal, mae tair ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion