Gwella dysgu ac addysgu

Arfer effeithiol

Woodlands School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Woodlands yn ysgol arbennig annibynnol i ddisgyblion ag anghenion cymhleth.  Caiff disgyblion eu lleoli gan eu hawdurdodau lleol ac mae llawer ohonynt dan orchmynion gofal llawn.  Maent yn byw mewn un o bedwar cartref gofal yn y sefydliad.  Ar hyn o bryd, mae 18 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 12 a 19 oed.  Mae gan tua dau o bob tri o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu gynllun addysg a gofal iechyd.  Bu’r pennaeth yn y swydd er Ionawr 2014.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn arolygiad craidd yn 2013, fe wnaeth y perchenogion gydnabod yr angen i wella addysgu a dysgu.  Yn Ionawr 2014, penodwyd pennaeth newydd a oedd â phrofiad sylweddol fel uwch arweinydd mewn addysg brif ffrwd.  Fel cam cyntaf, amlinellodd y perchenogion a’r pennaeth newydd y weledigaeth ar gyfer yr ysgol a dechrau’r broses o roi cynllun strategol ar waith ar gyfer gwella.  Prif flaenoriaeth y cynllun oedd sefydlu diwylliant o addysgu a dysgu o ansawdd uchel a fyddai’n galluogi disgyblion i gyflawni eu potensial academaidd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Y cam gweithredu cyntaf a mwyaf brys oedd cyfleu gweledigaeth o ddisgwyliadau uchel a gwydnwch a oedd yn canolbwyntio ar rôl ganolog addysgu a dysgu yn yr ysgol.  Yn flaenorol, roedd gan y cwmni ethos clir ar gyfer agweddau ar ofal a therapi, ond nid oedd rôl addysg wedi’i diffinio cystal oddi mewn i hyn.  Ysgrifennodd y pennaeth gynllun gweithredu manwl iawn yn dilyn adroddiad Estyn, a roddodd ffocws cryf i’r ysgol ar y meysydd yr oedd angen eu gwella ar frys.  Dilynodd arolwg staffio o rolau a chyfrifoldebau, a arweiniodd at benodi pennaeth cynorthwyol â chyfrifoldeb dros addysgu a dysgu.  Gwellodd uwch arweinwyr, wedi’u cynorthwyo gan y perchennog, ddarpariaeth ar y safle a chynyddu cyfleoedd i ddysgu yn yr awyr agored.  Diweddarodd athrawon gynlluniau gwaith a rhoi cynlluniau gwersi manwl ar waith i ysgogi ac ysbrydoli diddordebau disgyblion a bodloni eu hanghenion unigol.  Sicrhaodd newidiadau i’r amserlen fod athrawon yn cyflwyno eu pynciau arbenigol ac roedd unrhyw fylchau yn y cwricwlwm yn caniatáu penodi athrawon pwnc newydd. 

Roedd y defnydd effeithiol o wasanaethau dyddiol a datblygu cyngor ysgol yn galluogi staff i rannu gwybodaeth â disgyblion a’u cynnwys mewn trafodaethau ynghylch system gwobrwyo a chosbi’r ysgol.  Helpodd hyn i ddatblygu ethos a diwylliant a oedd yn galluogi disgyblion i ymateb yn gadarnhaol at reolau ac arferion newydd yr ysgol. 

Rhoddodd yr ysgol asesiadau risg addas ar waith i ategu dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ynghyd â gweithredu strategaethau cyson i reoli ymddygiad.  O ganlyniad, datblygodd staff hyder a ffydd yn eu gallu i gynnal diddordeb disgyblion a’u cymhelliant i ddysgu.  Arweiniodd hyn at fwy o gyfleoedd dysgu ar y cyd i ddisgyblion a oedd wedi cael eu haddysgu’n unigol gynt. 

Roedd ffocws yr ysgol ar ddatblygiad proffesiynol staff a’u dealltwriaeth o addysgeg ac arfer addysgu yn allweddol o ran sicrhau bod athrawon yn gwella eu harbenigedd wrth gyflwyno’r cwricwlwm, mewn pynciau hyd at Safon Uwch, yn ôl yr angen.  Fe wnaeth gwella medrau staff mewn addysgu llythrennedd a rhifedd a methodoleg benodol, fel addysgu manwl, arfogi staff â’r medrau i sicrhau y gall pob disgybl fanteisio ar arlwy’r cwricwlwm. 

Datblygodd staff chwant am wybodaeth am sut olwg sydd ar addysgu rhagorol, ac aethant i ymweld ag ysgolion eraill y cydnabuwyd bod ganddynt arfer dda.  Yna, addaswyd syniadau i fodloni Woodlands.  Hyfforddodd ychydig o aelodau staff yn arholwyr allanol i gefnogi gwaith yr ysgol. 

Datblygwyd rhaglen ymsefydlu i ddisgyblion newydd er mwyn sicrhau eu bod yn deall y disgwyliadau o ran eu dysgu a’u hymddygiad.  Datblygodd yr ysgol system i werthuso agweddau disgyblion at ddysgu a gwobrwyo eu hymgysylltiad mewn gwersi hefyd, beth bynnag fo’u gallu academaidd.  I ategu’r dull hwn, anogwyd disgyblion i berchenogi eu hunain drwy roi sylwadau mewn cofnodion cynnydd ar ba mor hyderus roeddent yn teimlo ar ddiwedd pob gwers.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ffocws yr ysgol ar addysgu a dysgu o fudd enfawr i ddisgyblion.  Mae’n sicrhau bod pob disgybl yn gadael â chymwysterau a gydnabyddir yn allanol, gan gynnwys achrediad o’u medrau hanfodol.  Mae hyn yn cefnogi eu llwybrau yn y dyfodol yn effeithiol iawn, gan gynnwys manteisio ar ddarpariaeth brifysgol.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r pennaeth yn mynychu cyfarfodydd Cymdeithas Penaethiaid Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru (NWASSH) ac mae wedi rhannu arfer ag UCD ac ysgol arbennig leol.  Mae’r ysgol hefyd yn aelod o Gyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.