Gwella deilliannau i ddisgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau yn ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arloesol.  Hybir amgylchedd arbrofol lle nad oes ofn methu ymysg y staff a’r dysgwyr.  Mae cyfran y teuluoedd bregus sy’n gysylltiedig â’r ysgol wedi cynyddu yn ddiweddar.  Mae’r ysgol wedi eu hadnabod ac wedi ymateb i’w hanghenion yn effeithiol trwy gydweithio â nifer o bartneriaethau strategol gan gynnwys rhieni, ysgolion eraill a nifer o asiantaethau proffesiynol eraill.

Yn sgil gwaith ymchwil, bu’r ysgol yn ystyried “beth sydd angen ar blentyn i ffynnu?”  Nodwyd pum maes (medrau llythrennedd a rhifedd, gwybodaeth gyffredinol, grŵp eang o ffrindiau, cyfranogiad i fywyd ysgol ac agwedd tuag at ysgol) a chynhaliwyd asesiadau syml a oedd yn arddangos cryfderau a’r ffordd ymlaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn deillio o’r asesiadau, amlygwyd gwahaniaeth nodedig rhwng cyfraniad dysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim i fywyd ysgol a’u cyfoedion.  Penderfynodd yr ysgol fod angen gwneud y defnydd gorau o arbenigedd ei phartneriaethau strategol gan drefnu amrywiaeth o ymyraethau dychmygus i leihau’r bwlch.  Mae esiamplau da o’r rhain yn cynnwys: 

  • mabwysiadu egwyddorion cadarn a brofwyd yn ystod ymweliad â Chanolfan Ragoriaeth y Blynyddoedd Cynnar yn Lloegr wrth anwytho plant meithrin, gan eu gosod mewn teuluoedd o dan ofal ymarferydd cyson

  • newid yr amgylchedd dysgu ffisegol yn y dosbarth meithrin i adlewyrchu natur ofalgar y cartref

  • cynnal gŵyl chwaraeon clwstwr i blant cyfnod allweddol 2 nad oedd wedi cynrychioli eu hysgolion gyda ffocws ar chwarae’n deg a datblygu medrau llythrennedd a rhifedd

  • ymateb i lais y dysgwyr gan gynnig amrywiaeth o glybiau allgyrsiol yn ystod yr awr ginio, er enghraifft, clwb tenis bwrdd, cyfnewid sticeri, crosio a gwnïo

  • newid system gwobrwyo’r ysgol i ddathlu ymdrech yn ogystal â chyrhaeddiad

  • trefnu ymweliad â phrifysgol i deuluoedd er mwyn codi dyheadau

  • rhedeg Clwb Ieuenctid i deuluoedd mewn cydweithrediad ag asiantaethau proffesiynol allanol

  • gweithgareddau pontio penodol i ddysgwyr bregus i feithrin medrau bywyd ehangach

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r prosiect wedi cyfrannu at les y disgyblion gan effeithio’n gadarnhaol ar hyder a chyflawniad y rhan fwyaf o ddysgwyr, yn enwedig y dysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.  Yn ôl yr ysgol, yn ddiweddar iawn, mae’r bwlch ar y deilliant a’r lefel ddisgwyliedig rhwng y disgyblion hyn a’u cyfoedion wedi lleihau.  Mae ymddygiad rhan fwyaf y disgyblion yn dda iawn trwy’r ysgol ac maent yn ymateb yn gadarnhaol iawn i weithgareddau i gyfoethogi eu profiadau.  Wrth ddod i adnabod y dysgwyr a’u teuluoedd yn gynnar iawn, mae’r ysgol yn sicrhau gofal a magwraeth o ansawdd uchel.  O ganlyniad, mae’r dysgwyr ifanc yn ymgartrefu’n hyderus ar ddechrau eu taith addysgiadol.  Mae rhannu profiadau ag eraill wedi cryfhau’r ddarpariaeth ar gychwyn yr ysgol i safon uchel iawn ac wedi cyfrannu at sicrhau bod ethos y Cyfnod Sylfaen yn parhau yn gadarn hyd at ddiwedd blwyddyn 2.  Wrth rannu’r gweithgareddau uchod trwy brosiect ‘Anelu at Ragoriaeth’, mae’r ysgol yn llwyddo i ledaenu arfer dda addysgeg a gwaith partneriaethau ar draws y consortiwm rhanbarthol ac ymhellach.  Mae hyn yn effeithio’n gadarnhaol ar safonau addysgu a dysgu o fewn yr ysgol. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Arwain prosiect “Anelu at Ragoriaeth” ar draws de-ddwyrain Cymru – cyfle i athrawon o amrywiaeth o ysgolion i rannu arfer dda trwy arsylwi gwersi, siarad â dysgwyr a theithiau dysgu.Ffocws yr ysgol yn ystod y rhaglen oedd ymgysylltu ac ysgogi dysgwyr

  • Cydweithio gydag ysgolion y clwstwr i drefnu amrywiaeth o weithgareddau gyda’r bwriad o gynyddu cyfranogiad i fywyd ysgol a chyfoethogi profiadau plant bregus

  • Dathlu gwaith y disgyblion a’u teuluoedd trwy ei arddangos ar wefannau cymdeithasol yr ysgol.

  • Cyflwyno’r arfer mewn Cynhadledd Penaethiaid de-ddwyrain Cymru.

  • Lledaenu’r arfer ofalgar ar draws sefydliad gofal plant Menter Iaith Caerffili