Gwella deilliannau dysgu trwy arweinyddiaeth ysbrydoledig
Quick links:
- Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth:
- Cyd-destun a chefndir i’r arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:
- Beth fu effaith y gwaith hwn ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr:
Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/y bartneriaeth:
Coleg addysg bellach yw Coleg Pen-y-bont ar Ogwr sydd â thua 2,600 o ddysgwyr amser llawn. Mae’n cyflogi tua 600 o staff. O ran dysgwyr amser llawn, mae’r coleg yn un o’r colegau addysg bellach llai yng Nghymru.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:
Yn 2013, roedd y tîm arweinyddiaeth yn wynebu ystod eang o heriau, gan gynnwys toriadau ariannol, deilliannau dysgwyr, morâl staff ac adfer hyder gyda phartneriaid a’r gymuned ehangach.
Dechreuodd y pennaeth presennol yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr yn 2013, ac roedd hyn yn gyfle i adolygu prosesau a strwythur i fodloni’r heriau roedd y coleg yn eu hwynebu. Er 2012-2013, mae cyllid rheolaidd y coleg ar gyfer addysg bellach gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng 15%, sydd, o ychwanegu gofynion chwyddiant a gofynion eraill, wedi dod yn doriad 24% mewn termau real. Mae’r coleg wedi gwneud penderfyniadau anodd ond angenrheidiol i addasu costau cynyddol cyflogau a phensiynau staff a thoriad digynsail mewn cyllid. Mae hyn wedi arwain at ddwy raglen ddiswyddo [gwirfoddol] fawr, sydd wedi cael eu rheoli’n dda iawn, gan osgoi diswyddiadau gorfodol tra’n cynnal cysylltiadau rhagorol â chyflogeion.
Ar ôl penodi’r pennaeth newydd yn 2013, dechreuodd y coleg ar raglen wella radical. Roedd y corff llywodraethol a’r uwch dîm arweinyddiaeth (UDA) yn glir y byddai angen i staff a dysgwyr ymgysylltu’n llawn â’r broses newid.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:
Mae arweinyddiaeth yn un o’r blaenoriaethau allweddol yn y strategaeth dysgu a datblygu, ac mae’r coleg wedi buddsoddi’n sylweddol yn y rhaglen ddatblygu ar gyfer yr holl arweinwyr, gyda’r nod o wella medrau arweinwyr i ymgysylltu â dysgwyr a staff ar draws y coleg. Mae hyn wedi cynnwys hyfforddiant pwrpasol gyda darparwyr allanol ac mae pob un o’r uwch reolwyr wedi mynychu cwrs preswyl heriol. Mae siaradwyr gwadd yn mynychu cyfarfodydd rheoli’n rheolaidd i rannu arfer orau o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Datblygwyd fframwaith cymhwysedd rheoli hefyd, sy’n ategu amcanion y cynllun strategol.
Sefydlwyd cenhadaeth a gwerthoedd newydd y coleg gan gyfres o weithdai staff. Daeth datganiad cenhadaeth newydd y coleg, ‘Byddwch yn bopeth y gallwch’ yn uniongyrchol gan staff ac fe’i atgyfnerthir yn yr holl friffiau gan y pennaeth. Dyma yw ein gwerthoedd allweddol:
- Canolbwyntio ar Bobl
- Ysbrydoledig
- Brwdfrydig
- Arloesol
Mae’r gweithdai wedi arwain at gynllun strategol symlach lle mae blaenoriaethau’n glir ac mae’r eglurder yn y cynllun strategol yn treiddio trwy’r sefydliad. Mae’r cynllun strategol bellach yn canolbwyntio ar dri maes cyflawni allweddol – ‘y tair E’ – Mae’r tair E yn sefyll am fod yn Rhagorol (Excellent), yn Ddifyr (Engaging) ac yn Effeithlon (Efficient). Tri amcan yn unig sydd ym mhob maes – cyfanswm o naw.
Mae cyfathrebu ar draws y sefydliad yn hynod gryf, er bod hyn yn her ar draws coleg sydd â sawl safle. Mae’r strwythur cyfarfodydd yn cefnogi diwylliant o lefel uchel o her a chymorth. Mae’r pennaeth a rheolwyr eraill yn cynnal gweithdai rheolaidd gydag ystod o grwpiau dysgwyr ac mae eu hadborth yn atgyfnerthu’r negeseuon cadarnhaol yn Arolwg Llais y Dysgwr Llywodraeth Cymru. Caiff y materion a godir gan ddysgwyr eu hystyried yn rheolaidd gan reolwyr a rhoddir blaenoriaeth allweddol i adborth.
Cynhelir gweithdai rheolaidd gan y pennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth gyda staff o bob rhan o’r coleg i sicrhau bod pob un o’r staff yn cael eu cynnwys mewn gosod cyfeiriad y coleg. Mae hyn hefyd yn sicrhau llif gwybodaeth ddwy ffordd rhwng y pennaeth, yr uwch dîm arweinyddiaeth a’r staff. Mae llywodraethwyr yn mynychu gweithdai staff yn rheolaidd, ac mae hyn yn rhoi cyfle i staff gyfarfod â llywodraethwyr, ac i lywodraethwyr ddeall safbwyntiau staff mewn ffordd agored a thryloyw. Mae cysylltiadau diwydiannol yn gryf iawn a threuliwyd llawer o amser yn datblygu perthynas weithio gref â’r undebau.
Beth fu effaith y gwaith hwn ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr:
Mae cenhadaeth a gwerthoedd y sefydliad wedi helpu i greu diwylliant cadarnhaol yn y coleg ac mae’n sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn canolbwyntio ar les dysgwyr presennol a dysgwyr y dyfodol. Mae diwylliant o “her uchel / cymorth uchel” yn treiddio ar draws y sefydliad.
Mae’r arweinyddiaeth wedi cael effaith sylweddol ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr. Mae’r coleg wedi gwella yn ôl ystod eang o ddangosyddion perfformiad allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys tueddiadau tair blynedd cadarnhaol mewn cyfraddau cwblhau llwyddiannus ar gyfer dysgwyr, o’r isaf yn y sector i fod ymhlith yr uchaf. O ran perfformiad ariannol, mae’r coleg wedi symud o ddiffyg o £1.6 miliwn yn 2012-2013 i warged o £67,000 yn 2014-2015, er gwaethaf toriad cyllid termau real a chostau diswyddo.
Mae canlyniadau’r arolwg staff yn dystiolaeth o’r diwylliant cadarnhaol ac ethos sy’n canolbwyntio ar bobl. Er gwaethaf cyfnod o doriadau difrifol mewn staffio, mae disgwyliadau yn y coleg yn parhau i fod yn uchel ac mae staff wedi ymgymryd â’r heriau newydd, fel sy’n amlwg yn y gwelliant mewn deilliannau a pherfformiad ariannol fel ei gilydd.