Gwella deilliannau disgyblion trwy ddarpariaeth anogaeth hynod effeithiol - Estyn

Gwella deilliannau disgyblion trwy ddarpariaeth anogaeth hynod effeithiol

Arfer effeithiol

Oak Field Primary School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol cyfrwng Saesneg 3-11 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Bro Morgannwg yw Ysgol Gynradd Oak Field.  Mae’n gwasanaethu cymuned Gibbonsdown ac ardal ehangach Y Barri.  Mae 186 o ddisgyblion ar y gofrestr. 

Mae tua 63% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol 

Sefydlwyd darpariaeth anogaeth yn yr ysgol i sicrhau bod pob yr holl ddisgyblion yn gallu manteisio ar unrhyw adeg ar yr ymyrraeth a’r cymorth arbenigol sydd eu hangen i sicrhau eu bod yn barod i ddysgu.  Cafodd dau aelod o staff hyfforddiant arbenigol ac mae’r ‘ystafell anogaeth’ yn rhan o brif adeilad yr ysgol a sefydlwyd yng nghanol yr ysgol.  Cafodd yr holl randdeiliaid gyfle i gyfrannu at ddylunio’r gofod, sy’n groesawgar a digynnwrf. 

Defnyddir darpariaeth anogaeth yn effeithiol iawn i gynorthwyo’r holl ddisgyblion, a disgyblion mwy bregus yr ysgol yn arbennig.  Mae’n rhagweithiol, gyda disgyblion yn cael eu dewis i fynychu sesiynau penodol, ac yn ymatebol fel ei gilydd, a chynigir cymorth o ddiwrnod y digwyddiad i ddisgyblion a allai fod wedi profi trawma.  Wrth arfarnu’r ddarpariaeth anogaeth, bu’r disgyblion a’r staff yn myfyrio ar y ffaith fod y cymorth a roddir yn ymestyn y tu hwnt i anogaeth, ac ailenwyd y ddarpariaeth yn NEWS – Anogaeth (Nurture), Emosiynol (Emotional), Lles (Wellbeing) a Medrau (Skills).  Mae Ysgol Gynradd Oak Field yn defnyddio dulliau adferol i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac annog cydweithio, ac mae’r strategaethau a fabwysiadwyd gan NEWS yn ategu’r rhain.  Mae’r meddwl ‘cysylltiedig’ hwn wedi bod yn hynod effeithiol gyda disgyblion sy’n dangos anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.  Mae sefydlu’r dulliau hyn yn ategu gwerthoedd yr ysgol yn dda; sef hunan-barch, goddefgarwch, cydweithio a dyfalbarhad. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch 

Nodir disgyblion ar gyfer darpariaeth NEWS trwy gyfuniad o drafodaeth gyda’r oedolion sy’n adnabod y disgyblion yn dda a dadansoddiad trylwyr o ddata amrywiol.  Mae’r ysgol yn gwneud defnydd rhagorol o ddata ac mae’n gweithio gyda nifer o asiantaethau allanol, fel gwasanaethau plant yr awdurdod lleol, i sicrhau bod yr ymyriadau’n bodloni anghenion unigol y disgyblion.  Caiff y ddarpariaeth NEWS ei harfarnu’n rheolaidd ac mae wedi parhau i esblygu dros y blynyddoedd.  Sefydlwyd grwpiau newydd, er enghraifft ‘grŵp merched yn unig’ sydd wedi’i anelu at godi dyheadau mewn ymdrech i leihau nifer y merched yn eu harddegau sy’n beichiogi.  Caiff yr holl ymyriadau eu cyflwyno gan staff hynod fedrus, a hynod hyfforddedig.  Mae dau aelod o staff amser llawn yn gweithio yn yr ystafell NEWS ac fe gânt eu cynorthwyo gan yr ysgol gyfan i sicrhau cysondeb o ran ymagwedd.  Yn ogystal â’r sesiynau NEWS, cyflwynir sesiynau cymorth llythrennedd emosiynol (ELSA) yn rheolaidd ac maent wedi’u cynnwys ar yr amserlen lles.  Mae hyn yn cysylltu’r gwaith a gwblhawyd yn yr ystafell ddosbarth yn dda ac yn cryfhau cyfathrebu ar draws yr ysgol. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Caiff disgyblion unigol eu holrhain yn ofalus gan ddefnyddio asesiadau athrawon.  Cedwir cofnodion ymyrraeth unigol manwl ac fe gaiff y ddarpariaeth ei hadolygu’n rheolaidd.  Defnyddir data yn effeithiol i lywio’r camau nesaf ar gyfer y disgyblion unigol.  Mae effeithiolrwydd y ddarpariaeth NEWS wedi arwain at ostyngiad mewn cyfraddau gwahardd (o 27 i 3 yn y flwyddyn gyntaf).  Mae asesiadau athrawon, ynghyd â data profion cenedlaethol, yn dangos bod y disgyblion hynny sydd wedi derbyn cymorth anogaeth yn gwneud cynnydd da iawn ac yn parhau i gyflawni.  Cynyddodd nifer y datgeliadau diogelu y mae disgyblion wedi’u gwneud hefyd wrth i ddisgyblion ddod yn fwy ymwybodol a hyderus yn emosiynol, gan felly gryfhau diogelu disgyblion ar draws yr ysgol. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cynnal nifer o sesiynau hyfforddi ar destunau fel anhwylder ymlyniad a phrofedigaeth.  Mae Ysgol Gynradd Oak Field yn darparu sesiynau goruchwylio ELSA yn rheolaidd ar gyfer aelodau staff o ysgolion eraill.  Mae’r ysgol yn croesawu ymweliadau o leoliadau eraill.