Gwella datblygiad proffesiynol - Estyn

Gwella datblygiad proffesiynol

Arfer effeithiol

Little Stars Nursery LLP


 
 

Gwybodaeth am y lleoliad

Meithrinfa cyfrwng Saesneg a berchnogir yn breifat yn awdurdod lleol Torfaen, yw Meithrinfa Ddydd Little Stars.  Mae’n cynnig sesiynau addysg gynnar o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.15am tan 11.45am yn ystod y tymor ysgol, a gofal dydd llawn o 7:45am tan 18:00pm.  Adeg yr arolygiad, roedd 20 o blant yn derbyn addysg gynnar a ariennir, a nodwyd mai ychydig iawn o blant oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.  Nid oes unrhyw blant yn siarad Cymraeg gartref.

Mae saith aelod o staff, gan gynnwys y tîm rheoli.  Mae pum aelod o staff yn gweithio gyda phlant tair a phedair oed.  Mae dau uwch reolwr y feithrinfa wedi bod yn eu swydd er 2003, ac arweinydd yr ystafell cyn-ysgol er mis Mai 2018.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector   

Mae arweinwyr yn blaenoriaethu gwella safonau lles ar gyfer plant, staff a rhanddeiliaid.  Maent yn cyflawni hyn trwy arddangos y gwerthoedd sy’n bwysig ar gyfer tyfu ethos o ‘Barch at bawb’ ac yn rhannu eu gweledigaeth gyda’r holl ymarferwyr a rhieni yn eithriadol o dda.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Wrth i’r lleoliad dyfu a blodeuo, mae arweinwyr yn cynorthwyo staff i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion newidiol y busnes.  Defnyddiant fatrics medrau i nodi anghenion hyfforddi unigolion a grwpiau, a staff cymorth, trwy gyfuniad o hyfforddi a mentora.  Mae hyn yn amrywio o wella dealltwriaeth staff o ddatblygiad y plentyn a theori ymlyniad i ddatblygu eu medrau arwain.    

Mae arweinwyr yn blaenoriaethu datblygu’r tîm cyfan.  Mae hyn yn meithrin diwylliant o berchnogaeth ar y cyd sy’n ysbrydoli ymarferwyr ac yn eu cymell yn eithriadol o dda.

Mae arweinwyr ystafell yn trefnu cyfarfodydd un i un bob mis gyda phob aelod o’r tîm.  Mae hyn yn rhoi cyfle i staff fyfyrio ar effaith yr hyfforddiant, derbyn adborth adeiladol ar eu harfer a dathlu eu cyflawniadau.  Mae’n cynnwys staff yn effeithiol iawn yn y broses hunanwerthuso trwy ddarparu cyfle rheolaidd i rannu eu barn.  Mae’r cyfarfodydd yn sicrhau bod staff yn hyderus fod eu llais yn cael ei glywed, ac mae hyn yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu.

Mae pob un o’r ymarferwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau ac yn gwybod bod angen iddynt gael cydbwysedd da o wybodaeth, medrau ac ymddygiadau i redeg yr ystafell yn effeithiol.  Mae arweinwyr yn buddsoddi’n sylweddol mewn datblygiad proffesiynol ar gyfer ymarferwyr.  Mae staff yn datblygu trwy’r matrics medrau, a gallant gyflawni statws ‘hyfforddwr mewnol’, sy’n cydnabod eu potensial i fentora aelodau eraill y tîm.  Mae aelodau newydd o’r tîm yn datblygu’n gyflym ac mae pob un o’r ymarferwyr yn ymdrechu i wella perfformiad pobl eraill.  Mae hyn yn sicrhau bod medrau’n cael eu trosglwyddo yn ddi-dor, a dull cyson ar draws y lleoliad cyfan.  Mae’r matrics medrau yn esblygu’n barhaus i gefnogi blaenoriaethau lleol a chenedlaethol sy’n dod i’r amlwg yn llwyddiannus.

Mae gan bob ystafell ei hamcanion ei hun, ac mae pob aelod o’r tîm yn gweithio tuag at dargedau sydd wedi’u cysylltu’n ofalus â blaenoriaethau a nodwyd.  Mae hyn yn golygu bod staff yn llawn cymhelliant i wella eu medrau a’u gwybodaeth.

Mae arweinwyr yn adolygu perfformiad staff a’u cynnydd yn eu swydd yn effeithiol a rheolaidd.  Mae hyn yn galluogi staff i flaenoriaethu meysydd i’w gwella a chadw cofnod o gynnydd mewn datblygiad personol a chynlluniau gyrfa.  Mae hyn yn arwain at waith tîm hynod effeithiol a boddhad yn y swydd, yn ogystal â sicrhau bod hyfforddiant staff yn llwyddo i ddiwallu anghenion y lleoliad ac ymarferwyr.  Mae’r cyfarfodydd misol yn cysylltu’n agos ag arfarniadau, gan gefnogi datblygiad staff yn eithriadol o dda.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r dull cynhwysol, mae ymarferwyr yn gwybod bod ansawdd yr addysgu a’r dysgu gan bob un o’r staff ym mhob ystafell yn dda iawn.  Mae dilysu allanol gan Estyn, AGC, yr ALl a thîm Cyfnod Sylfaen y consortiwm, yn cadarnhau bod arweinyddiaeth yn gryf ac yn cael ei dirprwyo’n briodol i sicrhau bod pob un o’r staff yn gwella eu harferion yn barhaus.  Caiff hyn effaith gadarnhaol iawn ar ddeilliannau plant.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn gweithio’n agos gyda’r consortiwm fel Lleoliad Arweiniol Nas Cynhelir.  Mae’r rôl hon yn cynnwys cynnig hyfforddi a mentora pwrpasol i gynorthwyo arweinwyr a pherchnogion mewn lleoliadau eraill.  Maent yn cynnal digwyddiadau ‘arfer yn werth ei rhannu’ yn rheolaidd, ac yn cynnwys y tîm cyfan wrth gynorthwyo lleoliadau eraill i wella eu gweithdrefnau hunanwerthuso.  Mae fideo ar gael i’w lawrlwytho o safle HWB FPEN, y gall lleoliadau ledled Cymru fynd ato a’i ddefnyddio ar gyfer datblygiad proffesiynol.

https://dysgu.hwb.gov.wales/playlists/view/35a3094a-69f8-4acb-8c02-6f73e9e098e7/en#page3

Mae’r lleoliad yn gweithio gyda’r consortiwm i gynhyrchu deunyddiau i gefnogi datblygu medrau siarad a gwrando gan ddefnyddio technoleg ddigidol.