Gwella cyfraddau cadw a chyfraddau llwyddiant dysgwyr drwy fonitro cynnydd - Estyn

Gwella cyfraddau cadw a chyfraddau llwyddiant dysgwyr drwy fonitro cynnydd

Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth gyd-destunol fer am y darparwr/y bartneriaeth

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn gorff diwydiant sy’n cynrychioli’r sector adeiladu.  Mae’n gweithio mewn partneriaeth â nifer sylweddol o gyflogwyr, y rhan fwyaf o golegau addysg bellach ledled Cymru a nifer bach o ddarparwyr hyfforddiant preifat er mwyn hyfforddi prentisiaid ar draws amrywiaeth fawr o raglenni adeiladu.  Mae’r darparwr yn cyflwyno prentisiaethau uwch, prentisiaethau a phrentisiaethau sylfaen ar draws Cymru.

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Amlygodd y darparwr angen i barhau i wella perfformiad ei isgontractwyr mewn colegau a pherfformiad dysgwyr ar draws Cymru.  O ganlyniad, datblygodd strategaeth gynhwysfawr ar gyfer olrhain cynnydd dysgwyr ac isgontractwyr.  Arweiniodd y strategaeth at ddatblygu system fanwl o reoli perfformiad, sy’n casglu amrywiaeth eang o wybodaeth yn ymwneud â chynnydd dysgwyr a pherfformiad pob isgontractwr mewn coleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a amlygwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r darparwr wedi datblygu system rheoli perfformiad i olrhain cynnydd dysgwyr a monitro perfformiad ei isgontractwyr mewn colegau.  Bu’n hynod effeithiol wrth amlygu ac olrhain effeithiolrwydd y cymorth a roddwyd i’r dysgwyr hynny sydd mewn perygl o dangyflawni neu adael eu rhaglen hyfforddi.  O ganlyniad, mae cyfraddau cadw a llwyddiant dysgwyr wedi parhau i wella ac mae nifer y dysgwyr a gwblhaodd eu hyfforddiant erbyn y dyddiad cwblhau bwriadedig yn uchel iawn.

Mae’r darparwr wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr ar gyfer hyfforddi staff.  Mae’n amlygu’r prif resymau dros dangyflawni a gadael rhaglenni hyfforddi cyn y dyddiad gorffen bwriadedig, a’r prif ddangosyddion, yn glir.  Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’n syml y camau gweithredu y dylai staff hyfforddi eu cymryd a’r cwestiynau y dylent eu gofyn er mwyn pennu faint o risg sydd y bydd dysgwyr yn gadael y rhaglen.  Datblygwyd y canllaw hwn gan dîm o ymarferwyr gan ddefnyddio adborth gan ddysgwyr a dadansoddiad o ddata yn ymwneud â’r rhesymau pam mae dysgwyr yn gadael rhaglenni hyfforddi yn gynnar.  Mae’r ddogfen yn gofyn pedwar cwestiwn allweddol i staff eu defnyddio yn ystod dyddiau cynnar y rhaglen hyfforddi i bennu risg, drwy sicrhau:

  • bod pob dysgwr yn hapus o hyd â’i ddewis o raglen

  • bod gan bob dysgwr ei gynllun dysgu neu hyfforddi, ac yn ei ddeall

  • bod pob dysgwr yn gyfforddus yn y gweithle ac yn y coleg

  • os oes unrhyw beth ychwanegol y gall y darparwr ei wneud i helpu dysgwyr i ddod i arfer â’u rhaglen hyfforddi

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr

Bu’r strategaeth hon yn hynod effeithiol wrth wella lefelau cadw dysgwyr, eu cynnydd a’u llwyddiant.  Mae wedi amlygu pwysigrwydd monitro cynnydd dysgwyr yn gyson ac ymyrraeth gyflym i fynd i’r afael â phryderon sy’n cael eu hamlygu.  Mae staff hyfforddi wedi datblygu eu medrau a’u hyder o ran gallu bodloni anghenion cymorth dysgwyr unigol ac maent yn eu cefnogi’n effeithiol i gyflawni eu cymwysterau a’u hyfforddiant.