Gwella ansawdd addysgu trwy ddysgu proffesiynol - Estyn

Gwella ansawdd addysgu trwy ddysgu proffesiynol

Arfer effeithiol

Cowbridge Comprehensive School


 
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Dros bum mlynedd a mwy, mae uwch arweinwyr wedi datblygu diwylliant cydweithredol cryf o fyfyrio a hunanwerthuso.  Mae hyn wedi cyfrannu’n sylweddol at lunio yna cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol yr ysgol, sef safonau dysgu ac addysgu llawer gwell a chyson uchel.

Mae’r prosesau i amlygu meysydd y mae angen eu gwella yn drylwyr.  Fe’u croesewir gan yr holl staff, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddysgu a lles disgyblion.  Mae athrawon yn ystyried bod rhwystrau yn gyfleoedd i chwilio am strategaethau amgen.  Mae’r ysgol wedi defnyddio ymchwil yn ofalus i sicrhau mai’r farn yw y gellir cyflawni newid ac nad yw staff yn cael eu llethu gan ormod o fentrau.  Mae biwrocratiaeth wedi’i lleihau fel y gellir defnyddio amser, cyn belled â phosibl, ar wella yn hytrach nag ar gydymffurfio yn unig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae dysgu proffesiynol amlwedd, a ystyriwyd yn dda, wedi bod yn sbardun allweddol i sicrhau bod yr holl staff yn cael eu cefnogi a’u herio’n dda i fynd i’r afael â meysydd a amlygwyd ar gyfer newid.  Mae’r buddsoddiad mewn rhaglen gynhwysol o ddysgu proffesiynol dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod o fudd i staff ar adegau gwahanol yn eu datblygiad.  Mae wedi cynnwys rhaglenni a darpariaeth benodol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth oherwydd credir yn gryf fod arweinwyr gwell yn llywio athrawon gwell.  Mae athrawon gwell yn creu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig a difyr sy’n effeithio’n gadarnhaol ar y deilliannau a gyflawnir gan ddisgyblion. 

Mae cynllun gwella’r ysgol yn blaenoriaethu’n ofalus nifer o feysydd allweddol, ymarferol i’w gwella.  Mae’r meysydd hyn wedi’u saernïo’n ddiwyd, ond maent hefyd yn canolbwyntio ar symlrwydd cyflawni.  Caiff y rhaglen dysgu proffesiynol ei llunio’n ofalus i sicrhau bod yr holl staff yn gallu mynd i’r afael â gwelliant yn llwyddiannus.

Mae’r ymagwedd hon at ddysgu proffesiynol wedi creu diwylliant o gydweithredu, polisi drws agored a dealltwriaeth o bwysigrwydd dysgu parhaus gan gymheiriaid.  Mae arsylwi gwersi ar y cyd i fonitro effaith strategaethau sy’n cael eu defnyddio fel rhan o’r rhaglen dysgu proffesiynol wedi bod yn allweddol ar gyfer datblygu deialog broffesiynol, gadarn sy’n canolbwyntio ar wella.  Mae athrawon yn gwneud addasiadau perthnasol i addysgu o ganlyniad i’r broses hon o gefnogi a herio.  Gwelir enghraifft o hyn yn y ffordd y gwnaeth yr ymagweddau at farcio ac asesu a rannwyd gan athrawon arwain at ymagwedd gyffredin a fabwysiadwyd gan eraill. 

Mae’r gweithgareddau dysgu proffesiynol helaeth yn sicrhau bod staff yn gallu dewis y meysydd gwella sy’n fwyaf addas i’w hanghenion a’r amcanion a amlygir fel rhan o’r broses rheoli perfformiad.  Mae’r gweithgareddau hyn yn cyd-fynd yn dda â chynllun gwella’r ysgol a blaenoriaethau unigol, adrannol a chenedlaethol.  Mae gweithredu’r rhaglen amrywiol hon yn fedrus wedi sicrhau effaith gyson ar ddeilliannau disgyblion.  Yn bwysig, mae llawer o staff yn cyfrannu at gyflwyno sesiynau i staff yn yr ysgol ac i staff mewn ysgolion eraill hefyd, ac yn cydweithredu wrth eu cyflwyno, gan gynnal yr ysgol fel sefydliad sy’n dysgu.

Yn ddiweddar, mae’r holl staff wedi cymryd rhan mewn rhwydweithiau i wella agwedd ar addysgeg.  Mae’n ofynnol i bob grŵp fyfyrio ar ganfyddiadau a llunio adroddiad gwerthusol ysgrifenedig i’w rannu gyda’r holl staff.  O ganlyniad, mae arweinwyr ar bob lefel yn gallu myfyrio’n ofalus ac mae’r holl staff yn teimlo’u bod yn cael eu cynnwys mewn blaenoriaethau gwella.  Mae trafodaethau ar hyn fel rhan o’r sesiynau rheoli perfformiad yn cynnig atebolrwydd go iawn.  Mae hyn o bwys i staff gan eu bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad am eu harfer a natur bwrpasol y cyfleoedd dysgu proffesiynol manwl a gynigir.

Mae’r myfyrio cyson, y cynllunio manwl a meddylgar ar gyfer gwella a’r amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol yn cyfrannu’n llwyddiannus at effeithiolrwydd dysgu ac addysgu.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ansawdd addysgu wedi gwella’n drawiadol dros gyfnod.  Gall athrawon fynegi’n glir sut maent yn cyflwyno cyfleoedd addysgu o ansawdd uchel, fel y’u gwelir yn glir trwy arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a sesiynau gwrando ar ddysgwyr.  O ganlyniad, mae safonau wedi’u gwella a’u cynnal.  Mae addysgu effeithiol yn gyson, dysgu proffesiynol targedig a chynllunio’r cwricwlwm yn ofalus wedi sicrhau lefelau cyrhaeddiad eithriadol o uchel ar draws pob grŵp disgyblion.