Gweithredu ar fwlio – Mehefin 2014

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad yn archwilio effeithiolrwydd y camau a gymerir gan ysgolion i fynd i’r afael â bwlio, gan gyfeirio’n benodol at fwlio ar sail nodweddion gwarchodedig disgyblion (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol).Mae’r adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos arfer orau sy’n egluro’r modd y mae ysgolion arfer orau yn delio â bwlio. Roedd disgyblion yn barod i rannu eu profiadau o fwlio â’r tîm, ond mae astudiaethau achos o brofiadau disgyblion wedi cael eu hysgrifennu mewn ffordd sy’n osgoi nodi disgyblion unigol.


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • godi ymwybyddiaeth am fwlio ar sail nodweddion gwarchodedig gyda disgyblion, rhieni, staff, a llywodraethwyr a defnyddio dull mwy rhagweithiol o atal a lliniaru ei effeithiau (gweler Atodiad 3 am restr wirio);
  • ymgynghori â disgyblion, rhieni, a phobl eraill i nodi graddau a natur bwlio yn yr ysgol a chytuno ar gynnwys cynlluniau cydraddoldeb strategol;
  • cynllunio cyfleoedd sy’n briodol i oedran yn y cwricwlwm i drafod materion yn ymwneud â’r nodweddion gwarchodedig a meithrin gallu disgyblion i wrthsefyll bwlio;
  • sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth glir o raddau a natur y bwlio a allai ddigwydd yn yr ysgol, gan gynnwys bwlio seiber,
  • gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod sut i ddelio ag achosion o fwlio a’u cofnodi;
  • cofnodi a monitro achosion o fwlio mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig a defnyddio’r wybodaeth hon i adolygu amcanion cydraddoldeb strategol; a
  • gwneud yn siŵr bod yr holl bolisïau a gweithdrefnau yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff ysgolion i wella eu dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’i goblygiadau;
  • darparu hyfforddiant a chymorth i lywodraethwyr ysgol i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol i fonitro cynlluniau ac amcanion cydraddoldeb strategol; a
  • monitro ansawdd ac effeithiolrwydd cynlluniau cydraddoldeb strategol ysgolion yn agosach.

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi cyhoeddusrwydd i ganllawiau ‘Parchu Eraill’.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn