Gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant dysgwyr - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant dysgwyr

Arfer effeithiol

Aspris College South Wales


 
 

Gwybodaeth gyd-destunol fer am y darparwr/y bartneriaeth

Mae Coleg Priory De Cymru yn goleg arbenigol annibynnol i oedolion ifanc 16 i 25 oed â syndrom Asperger, anhwylderau’r sbectrwm awtistig a chyflyrau cysylltiedig.  Mae wedi’i leoli ar gampws Coleg Gwent ym Mhont-y-pŵl ac mae’n gweithio mewn partneriaeth agos â’r sefydliad addysg bellach (SAB).  Mae mwyafrif y dysgwyr yn mynychu’r coleg prif ffrwd gyda chymorth gan Goleg Priory.  Mae’r gweddill yn cael addysg yn fewnol cyn pontio i addysg bellach, addysg uwch, byw â chymorth neu waith.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector, a amlygwyd yn ystod yr arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol

Agorodd Coleg Priory De Cymru yn 2010.  Mae partneriaeth gadarn â Choleg Gwent yn golygu bod dysgwyr yn gallu dilyn cyrsiau ar gampysau Pont-y-pŵl, Brynbuga, Casnewydd, Cross Keys a Glynebwy.  Caiff pob dysgwr gyfle i ddilyn unrhyw gwrs prif ffrwd a ddarperir gan y SAB gyda chymorth gan weithwyr cymorth dysgu sydd wedi’u hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae gweithio’n gadarn mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant dysgwyr.  Mae Coleg Priory yn cyflogi ‘Arweinydd Sbectrwm Awtistig’, sy’n rhoi hyfforddiant i’r SAB.  Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, caiff cynllun manwl ei lunio a’i rannu, sy’n amlygu holl gyfarfodydd y bartneriaeth gydweithredol.  Cynhelir ‘Cyfarfodydd Adolygu a Phontio’ deirgwaith y flwyddyn.  Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys Gyrfa Cymru, tiwtoriaid coleg, y rheolwr anghenion dysgu ychwanegol a’r therapydd iaith a lleferydd, yn ogystal â rhieni.  Mae’r cyfarfodydd trylwyr hyn yn cyfrannu at bontio hwylus i ddysgwyr rhwng lleoliadau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae gan weithwyr cymorth Coleg Priory wybodaeth a dealltwriaeth glir am anghenion y dysgwyr.  Wrth gefnogi dysgwyr yn y dosbarth, maent hefyd yn rhoi cymorth a chyngor i diwtoriaid SAB.  Os yw ymddygiadau yn rhwystro cynnydd dysgwyr, bydd tîm arbenigol Coleg Priory yn gweithio gyda staff y SAB i amlygu strategaethau priodol i alluogi’r dysgwyr i barhau â’u dysgu.  Oherwydd y berthynas waith agos â’r SAB, caiff strategaethau eu rhannu a’u trafod, gan sicrhau bod llai o amser astudio’n cael ei golli.  Pan na fydd dysgwr yn teimlo’i fod yn gallu gweithio yn y coleg prif ffrwd, bydd staff ar draws y ddau leoliad yn cytuno ar ffordd briodol ymlaen, gan ganiatáu i’r dysgwr barhau â’i astudiaethau yng nghanolfan y Priory. 

Mae rhannu gwybodaeth rhwng Coleg Priory a Choleg Gwent yn nodwedd gadarn.  Mae pob tiwtor personol yn cael copi o’r Canllaw Cymorth Myfyrwyr, sy’n darparu gwybodaeth am brif gryfderau a gwendidau’r dysgwr.  Mae Coleg Priory a staff yr SAB yn rhannu gwybodaeth am gynnydd dysgwyr yn rheolaidd.  Mae hyn yn cynnwys adroddiadau cynnydd gan diwtoriaid ac adroddiadau ACE (“Achieve, Celebrate and Excel”), sy’n cael eu diweddaru bob chwe wythnos. 

Yn ogystal, mae staff Coleg Priory yn cydweithio â staff trydyddol Coleg Gwent i sicrhau lleoliadau profiad gwaith i ddysgwyr yn y coleg prif ffrwd.  Yn ogystal ag astudiaethau academaidd, caiff dysgwyr Priory eu hannog i gymryd rhan yng ngweithgareddau’r coleg prif ffrwd.  Yn y blynyddoedd diwethaf, mae dysgwyr o Goleg Priory wedi ymgymryd â chyfrifoldebau pwysig yng Ngholeg Gwent, fel cynrychiolwyr undeb y myfyrwyr a llais y dysgwr.  Mae pob dysgwr, boed yn mynychu’n fewnol neu’n mynychu’r coleg prif ffrwd, yn gallu defnyddio’r ffreutur a chanolfan adnoddau’r dysgwyr.  Mae hyn yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu medrau cymdeithasol a chyfathrebu, a chynyddu eu hyder a’u hunan-barch.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r berthynas gadarn rhwng Coleg Priory a Choleg Gwent yn galluogi dysgwyr i bontio’n hwylus i addysg bellach neu uwch brif ffrwd ar ôl gadael Coleg Priory De Cymru.  Hefyd, mae’n sicrhau bod bron pob dysgwr yn ennill cymhwyster cydnabyddedig cyn symud ymlaen i’w dewis cyrchfan.