Gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo buddsoddi mewn medrau a mynediad at addysg ôl-16
Quick links:
- Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/partneriaeth
- Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector
- Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
- Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr/partneriaeth
Coleg Sir Benfro yw darparwr addysg a hyfforddiant ôl-16 mwya’r sir. Mae ei brif safle yn Hwlffordd, ac mae gan y coleg ryw 1,800 o fyfyrwyr llawn-amser a 12,500 o fyfyrwyr rhan-amser, yn cynnwys llwybrau galwedigaethol, safon uwch, prentisiaethau a llwybrau graddau.
Mae Iechyd a Pheirianneg yn feysydd cwricwlwm allweddol ar gyfer y coleg, ac mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud yn rhannol â gwella ac ehangu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n dymuno astudio yn y meysydd hyn.
Bydd y coleg yn agor canolfan Safon Uwch newydd yn 2017 i ddarparu ar gyfer disgyblion o’r ddwy ysgol yng ngogledd y sir. Y coleg a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cyfleuster newydd hwn ar y cyd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/sy’n arwain y sector
Yn rhanbarthol, mae’r coleg yn chwarae rhan bwysig trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a thrwy’r prosiect datblygol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu canolfan ynni môr ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’r coleg yn gweithio’n agos ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchu ynni môr ac ynni cynaliadwy yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf. Yn fwy lleol, mae’r coleg wedi bod yn bartner arweiniol yn yr ad-drefniant o addysg ôl-16 yng ngogledd y sir, yn gweithio gydag ysgolion a’r awdurdod lleol i wella mynediad dysgwyr at ddarpariaeth Safon Uwch a gwella ehangder dewis cyrsiau galwedigaethol dysgwyr.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector
Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau bod y coleg yn aelod arweiniol o bartneriaethau sy’n hyrwyddo adfywio economaidd yn Sir Benfro. Drwy eu haelodaeth o ystod o gyrff rhanbarthol, fel Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol sydd newydd ei ffurfio ar gyfer De Orllewin a Chanolbarth Cymru, mae’r coleg wrth graidd y grwpiau gwneud penderfyniadau allweddol mewn perthynas â datblygu a buddsoddi mewn medrau yn y rhanbarth.
Yn lleol, mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi gweithio’n agos gydag ysgolion a’r awdurdod lleol i gryfhau partneriaethau a chyfathrebu er mwyn gwella’r dewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc yn Sir Benfro. Mae’r pennaeth wedi arwain gwaith y coleg gyda chyfarwyddwr addysg yr awdurdod lleol a phenaethiaid Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Bro Gwaun, gan arwain at ddatblygu canolfan newydd ar gyfer addysg ôl-16. Bydd darpariaeth SafonUwch yn cael ei chyflwyno yn y ganolfan hon, sydd wedi’i hariannu ar y cyd gan y coleg a Llywodraeth Cymru. Agorodd y ganolfan yn haf 2017, ac fe’i goruchwylir gan bwyllgor canolfan Safon Uwch sy’n cynnwys cynrychiolaeth o blith penaethiaid ysgolion, y pennaeth a’r cyfarwyddwr addysg, ynghyd â chynrychiolaeth o blith llywodraethwyr ysgolion ac aelodau o gorff llywodraethol y coleg.
Mae’r coleg yn gweithio’n dda gydag ystod eang o bartneriaid cymunedol i ymgysylltu â grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd, fel cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, y rheini sydd mewn perygl o adael addysg a’r rhai sy’n anweithgar yn economaidd. Mae’r coleg yn gweithio’n effeithiol iawn gyda’r ysgol arbennig leol i gefnogi pontio, integreiddio a dilyniant dysgwyr ar raglenni medrau byw’n annibynnol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
At ei gilydd, mae’r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr yn y coleg yn dda.
Mae’r coleg yn defnyddio’i gysylltiadau â’i bartneriaeth dysgu yn y gwaith yn effeithiol i alluogi dilyniant rhwng rhaglenni addysg bellach a rhaglenni dysgu yn y gwaith, neu gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.
Un deilliant cadarnhaol o’r ymagwedd gyfannol at weithio mewn partneriaeth fu’r cyfleoedd gwell i grwpiau o ddysgwyr sy’n agored i niwed. Mae’r ystod ragorol o bartneriaethau amlasiantaeth yn cefnogi’r dysgwyr hyn sy’n fwy agored i niwed yn dda iawn yn ystod eu rhaglenni.