Gweithio mewn partneriaeth er mwyn hyrwyddo profiadau dysgu a lles plant

Arfer effeithiol

Canolfan Deulu y Bala

Mae dau blentyn yn plannu planhigion bach mewn gardd. Mae un plentyn yn defnyddio can dyfrio glas i ddyfrhau'r planhigion.

Gwybodaeth am y lleoliad  

Agorwyd drysau Meithrinfa Canolfan Deulu y Bala yn 2022 ac mae wedi ei lleoli mewn hen ysgol yng nghanol tref y Bala. Mae’r ymarferwyr yn gofalu am 72 o blant rhwng 0 a 13 oed yn ddyddiol. Fel rhan o’r ddarpariaeth mae’r lleoliad yn cynnig sesiynau Addysg Gynnar, Clwb Brecwast, Clwb Cinio, Clwb Ar ôl Ysgol a Chlwb Gwyliau. Ers 2023, maent yn rhan o’r cynnig gofal plant 2 oed Dechrau’n Deg gyda llond llaw o blant yn derbyn eu hawliad yn y lleoliad. Ymhlith y staff mae Rheolwraig, Arweinwyr Ystafell, Ymarferwyr, Myfyrwyr Prentisiaeth a Gwirfoddolwyr. Blaenoriaeth Canolfan Deulu Y Bala yw hapusrwydd a lles pob plentyn – cynigir y gofal gorau posib mewn awyrgylch hapus a chartrefol, a chyfle i bob plentyn ddysgu trwy ei ddiddordebau a datblygu i’w lawn botensial. Mae naws Gymreig gref yn bodoli yn y lleoliad ac mae’r amrywiaeth o brofiadau gwerthfawr a gynigir i’r plant yn hyrwyddo eu hymwybyddiaeth o’u milltir sgwâr a thraddodiadau Cymru. Mae hyn yn ychwanegu at falchder yn y plant, yr ymarferwyr a’r gymuned ehangach ac yn creu ymdeimlad cryf o berthyn. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol  

Mae’r adeilad wedi ei leoli mewn safle hwylus ger yr ysgol gydol oes lleol, Ysgol Godre’r Berwyn. Testun balchder ydy gweld yr holl waith o drawsnewid yr adeilad presennol i fod yn Ganolfan Deulu er budd y gymuned. O’r cychwyn cyntaf, roedd gweledigaeth gref y pwyllgor rheoli wedi ei rhannu gyda’r ymarferwyr a thrigolion y dref. Roeddynt am greu darpariaeth y byddai’r gymuned gyfan yn gallu gwneud defnydd ohono. Mae’r berthynas rhwng y lleoliad a’r rhieni yn gryfder amlwg ac mae’r cyfathrebu cyson yn sicrhau bod gan rieni ddealltwriaeth gadarn o’r hyn sy’n digwydd yn y lleoliad trwy nosweithiau rieni, ap defnyddiol gyda gwybodaeth ddyddiol, tudalen rieni ar wefan gymdeithasol a thrafodaethau o dydd i ddydd wrth drosglwyddo plant. Mae’r berthynas gyda’r ysgol gyfagos yr un mor gryf wrth i’r plant dderbyn cyfleoedd cyson i ymweld â’r ysgol a chymryd rhan mewn digwyddiadau fel gwasanaeth diolchgarwch a diwrnod mabolgampau. Mae rhai myfyrwyr yn dilyn cyrsiau Cam Wrth Gam sy’n arwain at ennill cymwysterau ym maes datblygiad a gofal plant. Yn ogystal â derbyn myfyrwyr ar brofiad gwaith, mae’r lleoliad yn rhan o fentora myfyrwyr ar y cynllun ysgolion gyda rhai yn dewis dilyn lefel 3 Gofal Plant yn y chweched dosbarth gan gwblhau’r lefel 3 ymarferol yn y lleoliad a theori lefel 3 yn yr ysgol. Mae hwn yn gam arwyddocaol o gydweithio fydd yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cwrs addysg yn y Brifysgol. 

Plentyn ifanc a pherson ifanc yn eistedd ac yn darllen llyfr gyda'i gilydd, yn gwenu ac yn cymryd rhan yn y gweithgaredd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Mae’r lleoliad wedi datblygu cysylltiadau cryf a llwyddiannus gyda nifer o bartneriaethau o fewn y gymuned leol yn ardal y Bala. Enghraifft o hyn ydy’r ystafell aml-synhwyraidd sydd wedi ei chreu trwy haelioni busnesau lleol. Nid yn unig y plant sy’n mynychu’r lleoliad fydd yn elwa o’r adnodd gwerthfawr hwn ond mae’r ysgol leol yn ogystal â gwasanaeth cefnogi arbenigol yr Awdurdod Lleol hefyd yn cael gwahoddiad i ddefnyddio’r gofod pwrpasol yma. Ers sefydlu’r lleoliad, mae’r amgylchedd wedi cael ei ddatblygu’n helaeth gyda ystafell gyfarfod ar gael i’w llogi sy’n cael ei defnyddio gan grwpiau cymunedol. Cynhelir sesiynau Ti a Fi a Cymraeg i Blant yn wythnosol yma. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddarpar rieni ymweld â’r lleoliad a dod i adnabod ymarferwyr pan fo’u plant yn ifanc iawn, a hynny’n sicrhau bod arweinwyr ac ymarferwyr yn meithrin perthnasau da gyda rhieni cyn i’w plant ddechrau mynychu’r gwasanaeth.  

Elfen nodweddiadol o’n gwaith ydy’r cyfleoedd i blant i fod yn weithredol yn y gymuned. Maent yn weithgar iawn gan gefnogi prosiectau fel plannu bylbiau Cennin Pedr yn y dref i gofnodi digwyddiadau lleol. Mae’r plant wedi cael profiad o ymweld â’r ardd gymunedol er mwyn tyfu a gofalu am blanhigion a llysiau ac mae partneriaeth agos gyda chydlynydd y prosiect a’r lleoliad. Wrth weld y plant yn mwynhau ac yn meithrin chwilfrydedd, penderfynwyd bod angen datblygu’r sgiliau yma ymhellach.  

Erbyn hyn mae gan y lleoliad nifer o ardaloedd palu a phlannu gyda chymysgedd o blanhigion, llysiau a pherlysiau ac mae’r plant, ar draws yr ystod oed, yn gwbl gyfrifol amdanynt. Mae’r ymarferwyr yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r hyn sydd gan rhieni i’w gynnig er mwyn ymestyn profiadau’r plant ac maent yn manteisio ar arbenigeddau rhieni lle y bo’n bosibl. Bydd un rhiant yn cynnal gwersi Sbaeneg ar gyfer y plant yn ystod yn ystod gwyliau’r Haf. Bu sawl rhiant ynghlwm â phrosiect diweddar er mwyn trawsnewid yr ardal tu allan a chreu gofodau symbylus ar gyfer plant ym mhob ystafell o fewn y lleoliad. Crëwyd adnoddau chwaethus a chadarn wedi eu teilwra’n arbennig ar gyfer pob oedran gyda diddordebau’r plant yn ganolog iddynt. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?  

Wrth ddatblygu partneriaethau effeithiol mae’r lleoliad wedi llwyddo i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y plant o’u cymuned leol a’r byd ehangach. Wrth fod yn weithgar iawn yn y gymuned yn codi arian at nifer o achosion fel Ambiwlans Awyr Cymru a SANDS mae plant yn dod i ddeall pwysigrwydd  cynorthwyo eraill. Mae’r cysyniad o ofalu yn cael ei ddatblygu ymhellach wrth gefnogi’r gymuned drwy gasglu sbwriel a chanu mewn cartref henoed. Mae prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau yn fodd o ddysgu sgiliau newydd, codi hyder a chreu cysylltiadau positif sy’n gwella lles aelodau ieuengaf a hynaf y gymdeithas. Mae’r ethos naturiol Gymreig ac ymdeimlad o falchder y plant at yr iaith a’u hardal yn cael effaith gadarnhaol trwy’r ystod gyfoethog o brofiadau sydd ar gael iddynt. Mae ymarferwyr yn hyderus y bydd y partneriaethau yma yn parhau i esblygu. Mae rhieni yn gefnogol iawn o waith y feithrinfa ac yn ymfalchïo yn y ffaith bod eu plant yn cael bod yn rhan o nifer o brosiectau cyffrous.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?  

Rhannwyd arfer dda mewn cyfarfod rhwydwaith lleoliadau Blynyddoedd Cynnar yr Awdurdod Lleol. Mae’r lleoliad wedi bod yn cynnig cyfle i ymarferwyr eraill weld yr amgylchedd dysgu, y tu mewn a’r tu allan yn ogystal â’r ystafelloedd eraill sydd ar gael i’w llogi. Mae ymarferwyr wedi dod i ymweld  er mwyn sgwrsio a thrafod ein gwaith.