Gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi teuluoedd a hybu lles disgyblion
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Golwg y Cwm yn ysgol fro, sy’n gwasanaethu pentref Penrhos a rhan o dref Ystradgynlais ym Mhowys. Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol 187 o ddisgyblion rhwng pedwar ac 11 oed ar y gofrestr. Yn ogystal â chwe dosbarth prif ffrwd oed cymysg, mae gan yr ysgol ddau Gyfleuster Addysgu Arbenigol clwstwr i ddisgyblion ag ADY ac mae’n gartref i leoliad Dechrau’n Deg a lleoliad 3+.
Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd uchel, wedi’i gosod yn y 10% o wardiau mwyaf amddifad yng Nghymru a’r uchaf ym Mhowys. Mae 34% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a nodwyd bod gan 40% anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae Golwg y Cwm yn gwasanaethu llawer o deuluoedd y mae tlodi yn effeithio arnynt ac sydd wedi cael trawma arwyddocaol yn eu bywyd. Yn sgil ymgynghori â rhanddeiliaid, daeth i’r amlwg y byddai angen i’r ysgol weithio’n agos â rhieni, asiantaethau allanol a’r gymuned er mwyn i’r disgyblion fod â dyheadau uchel ar eu cyfer eu hunain, dod yn ddysgwyr gydol oes annibynnol a chyrraedd eu potensial, yn y pen draw. Ymagwedd yr ysgol yw ystyried anghenion unigol disgyblion i’w helpu i gyflawni’r deilliannau gorau posibl. Mae arweinwyr yn credu bod nod yr ysgol i gefnogi’u teuluoedd a’u rhwydweithiau uniongyrchol yn sicrhau bod disgyblion yn llwyddo.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Mae’r ysgol yn defnyddio dull tri chyfrwng, sy’n cynnwys cymorth teuluol, gweithio mewn partneriaeth a pherthnasoedd amlasiantaeth. Mae pob un o’r tair elfen yr un mor bwysig ac maent wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn meddylfryd a dull ysgol gyfan hollbwysig. Mae’r dull yn gofyn pob pawb sy’n ymwneud â “Theulu GYC” yn gwbl ymroddedig i’r ffocws ar degwch, gyda phawb yn cael yr un cyfle i gyrraedd eu potensial. Mae gan yr ysgol ddisgwyliadau uchel i ddisgyblion a staff ac mae’n cynnwys pecyn hygyrch o ymyrraeth a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd a disgyblion, a hynny ar sail cynigion argyfwng, tymor canolig a thymor hir.
Cymorth teuluol
Mae’r ysgol yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i deuluoedd ac mae’n eu croesawu i bob agwedd ar fywyd yr ysgol fel rhan o Deulu GYC. Mae staff yn croesawu rhieni i’r ysgol yn ddyddiol ac yn rhoi amser iddynt rannu unrhyw bryderon. Mae’r ysgol yn cynnal prosiect Teuluoedd a’r Gymuned Gyda’i Gilydd (FACT), sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i rieni ymweld yn ffurfiol ac yn anffurfiol, gan gynnwys boreau coffi rheolaidd, gweithdai presenoldeb, cyngor ar drin arian, clybiau cynilion, grwpiau gwnïo a choginio, sesiynau meithrin a chyfleoedd dysgu. Hefyd, mae rhieni’n rhan annatod o brofiadau dysgu’r disgyblion ac mae’r ysgol yn eu cynorthwyo i rannu gwaith eu plant a gweld eu cynnydd bob tymor yn ystod “Diwrnodau Rhannu Dysgu”. Yn ogystal, mae cymorth argyfwng ar gael i rieni trwy swyddog cyswllt â theuluoedd ac uwch arweinwyr yr ysgol. Mae staff yn cyfeirio, yn cynghori ac yn cynnig help ymarferol, er enghraifft trwy fynediad i fanc bwyd, banc gwisg ysgol, banc babanod, Llyfrgell Llyfrau Mawr a chymorth busnes lleol.
Gweithio mewn partneriaeth
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol ac mae’r ysgol wedi meithrin perthnasoedd pwrpasol ag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n cefnogi’r plant a’r teuluoedd. Er enghraifft, mae elusen leol yn cynnig mynediad at wasanaethau fel torri gwallt, talebau bwyd, talebau dillad a phrofiadau i deuluoedd. Mae partneriaeth yr ysgol â chlwb pêl-droed lleol wedi galluogi’r ysgolion i rannu cae pêl-droed 3G ar safle’r ysgol, mynediad i weithgareddau’r tu allan i’r ysgol yn y gymuned a mynediad at gyfleoedd hyfforddi gwell i ddisgyblion. Mae partneriaethau ag asiantaethau trydydd sector a lleoliadau addysg bellach lleol yn galluogi’r ysgol i gynnig cyfleoedd dysgu i rieni, sy’n eu helpu i fynd yn ôl i fyd gwaith. Er enghraifft, mae’r ysgol wedi cynnal dosbarthiadau rhifedd i rieni, dosbarthiadau llythrennedd sylfaenol wythnosol, dosbarthiadau hylendid bwyd a dosbarthiadau coginio.
Perthnasoedd a chymorth amlasiantaeth
Mae’r ysgol wedi datblygu perthnasoedd cadarn ag amrywiaeth o asiantaethau allanol. Mae ymwelwyr iechyd lleol a nyrs ysgol wedi’u lleoli yn yr ysgol ac maent yn gweithio ochr yn ochr â staff i sicrhau’r deilliannau gorau i deuluoedd. Yn ogystal, mae’r ysgol wedi sefydlu perthynas gadarnhaol â Calan DVS sy’n cynnig cymorth a chyngor uniongyrchol a llwybr di-dor i’r gwasanaeth, mewn amgylchedd cefnogol. Mae’r ysgol yn cynnal lleoliad Dechrau’n Deg ac, o ganlyniad, mae’n croesawu llu o weithwyr proffesiynol amlasiantaeth sy’n defnyddio’r ysgol yn ganolfan i gynnig cymorth, cyfleoedd hyfforddiant a chyfeirio i rieni a all fod â phlant yn y lleoliad ac yn yr ysgol. Er enghraifft, mae cyrsiau fel y Blynyddoedd Rhyfeddol, Tylino a Ioga Babanod, Let’s talk to your baby ac ELKLAN yn cael eu cynnal i rieni trwy raglen dreigl reolaidd gan y therapydd iaith a lleferydd a nyrs feithrin gymunedol Dechrau’n Deg. Mae’r cyfleoedd hyn yn hanfodol i feithrin perthnasoedd cynnar â rhieni a sicrhau bod ganddynt y cymorth sydd ei angen arnynt ar y cyfle cyntaf. Yn anad dim, mae diogelu yn brif ystyriaeth i’r ysgol ac mae ei pherthnasoedd â’r Gwasanaethau Plant yn hanfodol, yn gadarn ac wedi’u hen sefydlu. Nod graidd gyffredin yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â’r ysgol a theuluoedd yw sicrhau’r deilliannau gorau i bob disgybl.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Lles disgyblion yw prif ystyriaeth yr ysgol ac mae’n sylfaen i ymarfer. Trwy gydweithio â rhieni, partneriaid ac aml-asiantaethau, mae arweinwyr wedi sicrhau bod disgyblion a theuluoedd yn cael eu cefnogi, eu bod yn hapus, yn ddiogel ac wedi’u paratoi’n dda ar gyfer dysgu. Mae dull yr ysgol yn sicrhau bod staff yn bodloni anghenion yr holl ddisgyblion. O ganlyniad, mae’r profiadau a’r cyfleoedd, yn yr ysgol a’r tu hwnt, yn cael effaith gadarnhaol ar les a dysgu’r disgyblion a’r teuluoedd. Mae gwaith yr ysgol i leihau effaith unrhyw rwystrau rhag lles a dysgu yn galluogi disgyblion i ddatblygu’n gymdeithasol ac yn emosiynol, ac i wneud cynnydd da yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?
Mae ysgolion yn yr awdurdod lleol ac mewn awdurdodau eraill yn ymweld ag Ysgol Golwg y Cwm yn rheolaidd. Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer â swyddogion Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Cyngor Prydeinig. Mae’r pennaeth wedi cyflwyno arfer yr ysgol mewn cynadleddau a fynychwyd gan ysgolion ac asiantaethau partner ar draws Cymru.