Gweithio mewn partneriaeth â sectorau i ddylunio ac adelidadu cyfleusterau newydd - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth â sectorau i ddylunio ac adelidadu cyfleusterau newydd

Arfer effeithiol

Pembrokeshire College


Gwybodaeth gyd-destunol fras am y darparwr

Mae Coleg Sir Benfro wedi cynnal twf mewn ymrestriadau myfyrwyr ers 1993. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys AB ac AU amser llawn a rhan amser, rhaglenni yn y gwaith a rhaglenni masnachol, allgymorth, cyrsiau cymunedol a dysgu ar-lein. Roedd mwy na 10,000 o fyfyrwyr amser llawn a rhan amser wedi ymrestru yn ystod 2009/10 ac mae’r Coleg yn disgwyl ffigwr recriwtio tebyg ar gyfer 2010/11.

Mae cyfanswm yr ymrestriadau myfyrwyr ar gyfer 2009/10 wedi ei wneud o’r categorïau canlynol:
Addysg Bellach Amser Llawn: 1758 Addysg Uwch Amser Llawn: 133
Addysg Bellach Rhan Amser: 7448 Addysg Uwch Rhan Amser: 337
Dysgu Seiliedig ar Waith: 665

Yn ychwanegol at hyn mae’r Coleg yn ymrestru dros 120 o fyfyrwyr rhyngwladol yn flynyddol.

Mae’r prif gampws yn nhref Hwlffordd (poblogaeth 17,000). Agorwyd adeilad Canolfan Arloesi gwerth £3.2 miliwn, yn arbenigo mewn uwch-dechnoleg, yn swyddogol ar y safle ym mis Tachwedd 2003. Mae Canolfan Adeiladu newydd hefyd wedi ei chodi ac agorwyd honno i fyfyrwyr ym mis Medi 2008 gan alluogi i’r Coleg dynnu’n ôl o’r eiddo oedd ganddo ar les ac a oedd yn llai addas oddi ar y safle. Cafwyd gwaith ailwampio ac estyniad ar yr adain beirianneg, gwerth £4 miliwn, yn ystod 2009 a chwblhawyd y gwaith adeiladu fis Ionawr 2010. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnig adnoddau ynni adnewyddol, olew a nwy gyda’r diweddaraf ar gyfer cyflwyno cwricwlwm i gwrdd ag anghenion diwydiant lleol. Ceir campws arall yn Aberdaugleddau lle mae cyrsiau cyfrifiadureg, adeiladu cychod a pheirianneg yn cael eu cyflwyno a defnyddir canolfannau eraill gan yr AALl a lleoliadau yn y gymuned i gyflwyno rhaglen STEP y Coleg. Yn y gorffennol mae’r Coleg wedi rhyddfreinio ei holl ddarpariaeth AU o Brifysgol Morgannwg er ei fod bellach yn datblygu ei berthynas gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant er mwyn darparu dilyniant i AU yn rhanbarthol ar ystod o raddau galwedigaethol eu gogwydd.

Mae cronfa gwsmeriaid y Coleg mor amrywiol ag y gellid ei disgwyl mewn sefydliad AB cyffredinol. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn yn 16-19 oed er bod eithriadau e.e. Cyrsiau mynediad i ddysgwyr sy’n dychwelyd ac mae peth mewnlenwi ar gyrsiau amser llawn. Mae oedolion yn ymrestru ar gyfer cyrsiau galwedigaethol rhan amser, AU, amser llawn a rhan amser, ac ar batrwm o raglenni gyda’r nos a rhai yn y gymuned sy’n targedu dysgwyr sy’n anodd eu cyrraedd. Mae a wnelo’r trydydd brif gategori o gwsmeriaid â chyflogwyr a busnesau ac mae hwn yn faes mae’r Coleg wrthi’n ehangu arno ar hyn o bryd. Yn ychwanegol at yr uchod, mae’r Coleg eisoes yn cael mwy o alw am weithio mewn partneriaeth ar fentrau 14-16 oed gyda’r ysgolion; datblygu meysydd cwricwlwm arbenigol gan weithio gyda’r diwydiannau ynni presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg; a’r angen am gefnogi datblygiadau lleol yn y sector twristiaeth trwy raglenni traws-Golegol.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector, a nodwyd yn ystod yr arolygiad, yn berthnasol i gwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd arbennig

Mae’r maes hwn o arfer ragorol/arfer sy’n arwain sector yn perthyn yn uniongyrchol i ddangosydd ansawdd allweddol 2.4 Yr Amgylchedd Dysgu. Mae’r Coleg wedi buddsoddi tua £8 miliwn yn yr ystad ers 2007 ac mae dau faes sydd wedi bod ar eu hennill yn benodol, sef Adeiladu a Pheirianneg, yn perthyn yn uniongyrchol i anghenion diwydiant lleol.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain sector

Yn y blynyddoedd diweddar mae Sir Benfro wedi gweld buddsoddi mawr yn y diwydiant ynni gan gwmnïau rhyngwladol. Dros amser mae’r Coleg wedi meithrin cysylltiadau helaeth gyda chyflogwyr lleol yn y sector blaenoriaeth hwn drwy Grŵp Datblygu Gweithlu’r Sector Ynni (PESWDG). Sefydlwyd y grŵp hwn yn 2006 mewn ymateb i Gynllun Gofodol Aberdaugleddau ac mae’n cynnwys y chwaraewyr pwysicaf yn y sectorau Ynni a Pheirianneg ac yn cwrdd bob yn eilfis. Mae’r PESWDG yn cynnwys cynrychiolwyr o ddiwydiannau’r sector ynni, gan gynnwys cynrychiolwyr cwmnïau cleientiaid, y prif gontractwyr, is-gontractwyr, cynrychiolwyr o COGENT, yr ECITB, Cyngor Sir Penfro, Gyrfaoedd Gorllewin Cymru, Menter Busnes Sir Benfro a Llywodraeth Cynulliad Cymru (Rheolwr Sgiliau Sector Ynni APADGOS). Mae’r grŵp hwn wedi datblygu cynllun cynhwysfawr i lywio ei gamau gweithredu ac wedi llwyddo i ennill arian o Ewrop i uwchsgilio’r gweithlu presennol.

Sefydlwyd fforwm cyflogwyr arall, sef Grŵp Cyflogwyr Adeiladu Peirianyddol, yn 2008 pan oedd cyfleusterau newydd yn cael eu dylunio yng Nghanolfan MITEC Aberdaugleddau i gyflwyno weldio, gosod pibellau a phlatio diwydiannol. Mae ymwneud y cyflogwyr mewn dylunio neu gyfarparu’r cyfleusterau hyn wedi cynorthwyo gyda datblygu perthynas ragorol gyda’r sector pwysig hwn.

Disgrifio natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae Coleg Sir Benfro yn ddiweddar wedi ymgymryd ag ailwampio’r cyfleusterau peirianneg sydd ganddo fel rhan o’i ymrwymiad i gyflwyno’r addysg a’r hyfforddiant o’r ansawdd uchaf i sectorau ynni a pheirianneg y sir. Mae darparu technoleg ac adnoddau safon y diwydiant yn gydran hanfodol o’r ymrwymiad hwn.

Ar wahân i’r purfeydd olew sydd yn Sir Benfro mae datblygiadau diweddar ym maes LNG gydag agor safleoedd LNG South Hook a Dragon. Yn ychwanegol at hyn, mae gorsaf bwer nwy newydd wrthi’n cael ei hadeiladu. Mae diwydiannau cadwyni cyflenwi yn mynd o nerth i nerth ar y cyd â’r datblygiadau hyn gan fynnu bod staff tîm peirianneg y Coleg yn cynnal eu galluedd ac yn ehangu i gwrdd ag anghenion cyflenwi ac asesu yn y diwydiant.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae £4m wedi ei fuddsoddi mewn ailadeiladu, ailwampio ac adnewyddu’r gweithdy peirianneg a chyfleusterau’r labordai. Fel rhan o’r adnewyddu gyda pheirianneg roedd datblygu ystafell Reoli Rithwir neilltuol. Mae’r ystafell hon yn gadael i fyfyrwyr hyfforddi mewn amgylchedd realistig. Defnyddir y system efelychu i hyfforddi myfyrwyr newydd ac adfywio staff gweithredu’r purfeydd. Mae meddalwedd hefyd yn cael ei ddatblygu a’i addasu i gefnogi systemau’r LNG a’r gorsafoedd pwer.

Mae’r gweithdy peiriannau wedi cael offer newydd gyda thurnau a llifanwyr ac mae mannau newydd wedi eu datblygu i gefnogi profi deunyddiau, hydroleg/niwmateg, cynnal a chadw, offeryniaeth a rheolaeth.

Mae Canolfan Peirianneg MITEC yn Aberdaugleddau wedi ei datblygu i gyflwyno cyrsiau Peirianneg ECITB at safon ddiwydiannol. Rhennir yr adeilad yn dri gweithdy ar wahân, weldio, gosod pibellau a phlatio a cheir man allanol ar gyfer hyfforddi ac asesu sydd wedi ei gosod fel purfa ffug sy’n caniatáu hyfforddi realistig yn y tair disgyblaeth uchod.

Caiff staff eu hannog i fynd ar raglenni datblygiad personol er mwyn cadw’n gyfoes â thechnoleg sy’n newid ac er mwyn cryfhau darpariaeth y Coleg. Bydd coleg Sir Benfro yn parhau â’r strategaeth o ddatblygu a gwella ei gyfleusterau a’i adnoddau i sicrhau bod cwrdd â gofynion y cyflogwyr.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr

Mewn Peirianneg (SSA 4) mae’r canlyniadau wedi gwella’n gyson i bob mesurydd. Ar gyfer 2009/10, mae cyfraddau cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus wedi cynyddu o 16 y cant ers 2006/07 at 82%, cyfraddau cyrhaeddiad wedi codi o 11 y cant at 91% a chyfraddau cwblhau cwrs o 7 y cant at 90% dros yr un cyfnod Cafodd y rhaglen Peirianneg Adeiladu a achredir gan ECITB yn y gweithdai a adeiladwyd yn unswydd yng nghanolfan MITEC y Coleg yn Aberdaugleddau ganlyniadau eithriadol yn ei blwyddyn gyntaf 2008/09 gyda 100% yn llwyddo i gwblhau’r cymwysterau a gynigir yn y Coleg. Parhaodd y gyfradd llwyddiant ragorol hon am ail flwyddyn yn olynol yn 2009/10.

Mae canlyniadau Dysgu yn y Gwaith wedi gwella’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r duedd hon wedi parhau. Ar gyfer 2009/10 gwellodd cyfraddau cyflawni’r fframwaith cyfan mewn Technoleg yn sylweddol, FMA i 87%, gwelliant o 20 y cant mewn dwy flynedd ac MA i 85%, gwelliant o un deg saith y cant mewn dwy flynedd. Cyflawnwyd canlyniadau fframwaith rhagorol mewn Diwydiant Cemegol (100% FMA a 100% AMA) ac Adeiladu Peirianyddol (100% FMA a 95% AMA).


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn