Gweithio mewn partneriaeth â rhieni a’r gymuned - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth â rhieni a’r gymuned

Arfer effeithiol

Berriew Preschool


 

Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Saesneg yw Berriew Playgroup, sydd wedi’i leoli yn Aberriw yn awdurdod lleol Powys.  Mae wedi’i gofrestru i dderbyn 24 o blant rhwng dwy ac wyth mlwydd oed.  Mae’n cynnig sesiynau addysg y blynyddoedd cynnar o 9.00am i 11.30am o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.  Adeg yr arolygiad, roedd 16 o blant yn derbyn addysg y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu yn y lleoliad.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i wella lles a safonau i bob plentyn.  Maent yn cyflawni hyn drwy ymestyn eu gwaith drwy bartneriaethau cynaledig ac effeithiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Mae’r bartneriaeth gref â rhieni a gofalwyr yn hanfodol i ethos y lleoliad.  Mae ymarferwyr yn deall, i gyflawni’r deilliannau gorau ar gyfer dysgu gydol oes i blant, mae angen iddynt gynnwys rhieni’n llawn yn yr hyn y mae eu plant yn ei ddysgu a’i brofi yn y lleoliad.  Mae rhannu gwybodaeth yn offeryn grymus i helpu i gyflawni hyn a chaiff ei wneud mewn ffyrdd amrywiol i fodloni anghenion a hoffterau teuluoedd gwahanol.  Er enghraifft, mae ymarferwyr yn cyhoeddi blog o weithgareddau pob sesiwn ac yn diweddaru’r hysbysfwrdd defnyddiol y tu allan i’r adeilad yn ddyddiol.  Mae ymarferwyr yn sicrhau eu bod ar gael ar ddechrau a diwedd sesiynau ar gyfer sgyrsiau anffurfiol am gynnydd plant.  Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn helpu rhieni i siarad â’u plant yn ystyrlon am yr hyn y buont yn ei ddysgu, ac yn rhoi cyfle iddynt ymgymryd â gweithgareddau dilynol, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Trwy weithredu ar adborth o holiaduron rhieni, mae ymarferwyr yn cynnig ymgynghoriadau tymhorol i rieni glywed am gynnydd eu plant.  Mae gweithwyr allweddol yn rhoi gwybodaeth am gyflawniadau plant mewn adroddiad cryno ‘amdanaf i’, sy’n nodi cynnydd a’r camau nesaf ar gyfer dysgu.  Pan fydd ymarferwyr yn rhannu’r adroddiad hwn â rhieni, maent yn rhannu syniadau am sut gallant gynorthwyo eu plant gartref.  Er enghraifft, maent yn annog rhieni i helpu eu plant i ddefnyddio darnau arian i dalu am eitemau pan fyddant yn mynd i siopa, edrych ar siapiau a phrint pan fyddant yn crwydro o gwmpas, siarad am yr hyn y maent yn ei weld, a chyfrif camau ac eitemau yn y cartref.

Mae ymarferwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i baratoi plant i symud i’r ysgol ac yn eu cynorthwyo i ddechrau yn yr ysgol fel unigolion hyderus, iach sy’n barod i ddysgu pethau newydd.  Maent yn mynd â’r plant ar ymweliadau cynyddol hwy i’r ysgol, gan gynnwys ymweliadau amser cinio ac ymweliadau ar gyfer dathliadau arwyddocaol, fel gwasanaethau arbennig a chyngherddau.  Gyda chaniatâd gan rieni, mae ymarferwyr yn rhannu gwybodaeth am gynnydd plant o broffil y cyfnod sylfaen â’r athrawes derbyn, er mwyn iddi allu cynllunio’n effeithiol i adeiladu ar yr hyn maent yn ei wybod eisoes.  Mae’r athrawes derbyn yn ymweld â’r lleoliad yn aml.  Trwy drafodaethau proffesiynol, mae gan arweinydd y lleoliad a’r athrawes derbyn ddull dysgu ar y cyd.  Maent yn mynychu hyfforddiant gyda’i gilydd ac yn trafod arfer yn rheolaidd. 

Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi cysylltiadau’r lleoliad â’r gymuned leol.  Mae’r rhain wedi cyfrannu’n fawr at wella amgylchedd dysgu’r plant, yn ogystal â chyfoethogi eu profiadau dysgu.  Er enghraifft, helpodd aelodau o’r gymuned leol i greu gardd synhwyraidd, adeiladu gwelyau blodau a chodi ffensys i wella’r ardal awyr agored.  Mae ymarferwyr yn cynorthwyo’r plant i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u lle yn y gymuned leol trwy drefnu gweithgareddau, fel teithiau cerdded rheolaidd i’r pentref lleol.  Wrth ymweld â’r eglwys leol, cyflwynodd y plant eu hunain i’r ficer lleol.  O ganlyniad, ymwelodd y ficer â’r lleoliad i siarad â’r plant am yr eglwys, pwy sy’n mynd yno ac am nodweddion gwahanol yr adeilad.  Anogodd hyn y plant i edrych yn agosach ar adeilad yr eglwys, a ysbrydolodd eu lluniau ac a ddatblygodd eu medrau siarad a gwrando, creadigol a gwneud marciau yn naturiol.

Mae gan y lleoliad gysylltiadau agos â phartneriaid eraill, sy’n gwella dysgu’r plant yn llwyddiannus.  Gweithiodd y lleoliad â grŵp bywyd gwyllt i ddatblygu ymdeimlad o ryfeddod a pharchedig ofn yn y plant, wrth iddynt ymchwilio i’w hamgylchedd awyr agored a defnyddio taclau go iawn i adeiladu tai ar gyfer trychfilod.  I hyrwyddo partneriaethau gwaith cadarnhaol â’r gymuned leol, mae’r lleoliad yn cynnal diwrnodau agored yn rheolaidd.  Mae ymarferwyr yn gwahodd plant, rhieni, y gymuned, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr o leoliadau eraill i ymuno â nhw i weld beth maent yn ei wneud.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae bron pob plentyn yn elwa ar gwricwlwm cyfoethog a chyffrous sy’n manteisio i’r eithaf ar bopeth y mae’r gymuned leol yn ei gynnig, ac maent yn cyfrannu ati’n effeithiol.  Mae rhieni’n teimlo y cânt eu cynnwys yn fawr ym mywyd y lleoliad a’u bod wedi’u harfogi’n dda i gynorthwyo eu plant gartref.  Mae plant yn teimlo’n hyderus ynghylch symud ymlaen i’r ysgol.  O ganlyniad i gydweithio’n agos ag athrawes y dosbarth meithrin, mae ymarferwyr yn sefydlu sylfeini cryf ar gyfer dilyniant di-dor yn nysgu’r plant.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn rhannu ei waith â staff a lleoliadau eraill trwy ddigwyddiadau hyfforddiant.  Mae lleoliadau eraill yn yr awdurdod lleol yn ymweld â’r lleoliad.  Mae athrawes ymgynghorol yr awdurdod lleol yn rhannu arfer yn ystod ymweliadau cymorth â lleoliadau eraill a thrwy gyfryngau cymdeithasol.