Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol - Rhagfyr 2013 - Estyn

Gweithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyflawniad addysgol – Rhagfyr 2013

Adroddiad thematig


Argymhellion

Er mwyn parhau i wella perfformiad dysgwyr sydd dan anfantais, dylai ysgolion:

  • fabwysiadu systemau clir ar gyfer gweithio gydag asiantaethau allanol i gefnogi dysgwyr sydd dan anfantais, er enghraifft dull y ‘Tîm o amgylch y teulu’;
  • gweithio gydag asiantaethau eraill i ennyn diddordeb teuluoedd sydd dan anfantais yn fwy ym mywyd yr ysgol;
  • gweithio’n agosach gydag ysgolion partner i ddatblygu dull cyffredin o fynd i’r afael â thlodi a chefnogi cyfnod pontio disgyblion o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd;
  • pennu uwch aelod o staff i gydlynu gwaith gyda gwasanaethau ac asiantaethau allanol;
  • gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod sut i wella cyflawniad dysgwyr sydd dan anfantais;
  • defnyddio systemau i olrhain cynnydd disgyblion er mwyn arfarnu mentrau sy’n ceisio gwella lles a safonau; a
  • defnyddio’r Grant Amddifadedd Disgyblion i dargedu anghenion disgyblion sydd dan anfantais yn benodol, beth bynnag fo’u gallu.

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia:

  • weithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau perthnasol i amlinellu anghenion penodol disgyblion sydd dan anfantais a’u teuluoedd a rhannu’r wybodaeth hon gydag ysgolion ac asiantaethau eraill ar sail protocol cytûn;
  • defnyddio dull ataliol o fynd i’r afael â thlodi a defnyddio dulliau ‘Tîm o amgylch y teulu’ wrth gydlynu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd dan anfantais;
  • gwneud yn siŵr bod cynlluniau strategol i fynd i’r afael â thlodi yn cael eu halinio i gynnwys gwasanaethau mewnol a phartneriaid allanol a’u bod yn cynnwys amcanion penodol a mesuradwy;
  • darparu hyfforddiant a chymorth i ddatblygu medrau arweinwyr ysgol i reoli gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â thlodi; a
  • darparu neu drefnu cyngor gwell i ysgolion ar ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael ag effaith tlodi.

Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn