Gweithio gyda disgyblion i gynllunio cwricwlwm gwell

Arfer effeithiol

Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las ym mhentref Llansamlet ger Abertawe.  Mae 520 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan rai disgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Daw rhai ohonynt o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg. 

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Ar ôl cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), bu arweinwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu’r pedwar diben gan fod angen i staff ymgyfarwyddo â’r agweddau hyn fel y prif ystyriaethau wrth ddatblygu cwricwlwm arloesol.  Er mwyn dechrau’r gwaith, cynhaliodd aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth archwiliad ysgol gyfan o ofynion y pedwar diben.  Bu staff yn gweithio mewn timau grwpiau blwyddyn i arfarnu’r hyn yr oeddent eisoes yn ei wneud yn dda ac yn ystyried agweddau yr oedd angen eu datblygu ymhellach.  Buont yn craffu ar dystiolaeth uniongyrchol yn drylwyr i gefnogi’r arfarniad ac fe wnaethant benderfynu datblygu agweddau nad oeddent yn cael eu targedu eisoes yng nghynllun gwella presennol yr ysgol.

Er mwyn casglu tystiolaeth a monitro pa elfennau o’r pedwar diben a oedd eisoes yn cael eu hymgorffori yng nghwricwlwm presennol yr ysgol, canolbwyntiodd arweinwyr ar lyfrau disgyblion i ddechrau.  Mae disgyblion yn cyflwyno eu gwaith mewn llyfrau profiad thematig, sy’n darparu cyfleoedd gwerth chweil iddynt gaffael medrau ar draws y cwricwlwm.  Rhoddodd y llyfrau hyn dystiolaeth werthfawr i staff a’u galluogi i arfarnu eu darpariaeth bresennol.  Bu arweinwyr yn ystyried safbwyntiau disgyblion a staff hefyd.  Bu disgyblion yn arfarnu’r themâu yr oeddent wedi’u hastudio bob hanner tymor ac yn ystyried i ba raddau yr oeddent wedi ymgysylltu â’r gwaith a ph’un a oedd y themâu yn cynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu medrau a oedd yn gysylltiedig â’r pedwar diben ai peidio.  Gofynnwyd i staff ystyried llwyddiant y themâu hefyd.  Buont yn trafod pa rai a oedd yn rhoi cyfleoedd iddynt gynllunio a datblygu medrau sy’n berthnasol i’r pedwar diben.  Nododd disgyblion y medrau y gwnaethant eu datblygu yn y dosbarth a’u cysylltu â gwahanol elfennau’r pedwar diben.  Fe wnaethant hefyd nodi’r agweddau nad oeddent wedi cael cyfleoedd i’w datblygu, yn eu barn nhw. 

Ar ddiwedd pob hanner tymor, mae disgyblion yn mynd â’u llyfrau thematig adref i drafod eu gwaith â’u rhieni.  Mae hyn yn sicrhau bod rhieni’n gwbl ymwybodol o’r cyfleoedd dysgu y mae’r ysgol yn eu darparu ar gyfer eu plant.  Cânt drafodaeth agored â’u plant am eu cyflawniadau, y camau nesaf a’r targedau yn eu dysgu.  Mae rhieni’n llenwi ffurflen i ymateb i waith disgyblion, ac mae’r ysgol yn defnyddio’r ffurflen i gasglu barn rhieni ar ddarpariaeth yr ysgol.  Bu arweinwyr yn ystyried dogfen hunanarfarnu a data perfformiad yr ysgol hefyd er mwyn sefydlu meysydd pwysig i’w datblygu.  Roedd y meysydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Cydnabu’r ysgol fod eu hymagwedd bresennol at gynllunio’r cwricwlwm yng nghyfnod allweddol 2 wedi’i hymgorffori’n dda, ac yn cefnogi Dyfodol Llwyddiannus. 
  • Cydnabu arweinwyr fod angen cyflwyno’r pedwar diben yn eu cynllunio a phenderfynwyd ailstrwythuro eu cynllunio i sicrhau mai’r pedwar diben fydd y ffocws allweddol ar gyfer yr holl weithgareddau sydd wedi’u cynllunio.
  • Bu arweinwyr yn mapio medrau o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6 i sicrhau continwwm clir ar gyfer y medrau a addysgwyd.
  • Bu athrawon ystafell ddosbarth yn arbrofi â themâu newydd i ennyn diddordeb disgyblion yn llawn a thargedu’r pedwar diben.
  • Roedd rhieni’n gwerthfawrogi’n llawn y cyfle i weld llyfrau gwaith eu plentyn a chafwyd ymatebion cadarnhaol a chefnogol iawn.

Cam 2:  Cynllunio ar gyfer newid

Cynhaliodd y pennaeth gyfarfodydd i rannu canfyddiadau’r hunanarfarniad â phob un o’r staff a’r llywodraethwyr er mwyn i’r ysgol allu cynllunio’r camau nesaf.  Mynychodd aelodau o staff gyfarfodydd gyda chlwstwr o ysgolion lleol i gasglu syniadau ac ailystyried cynllunio ar gyfer themâu bob hanner tymor.  Roedd staff yn awyddus i greu themâu newydd a fyddai’n tanio dychymyg disgyblion, rhai a fyddai’n galluogi disgyblion i gynllunio ar gyfer gweithgareddau ymchwiliol, mentrus, creadigol ac uchelgeisiol.  Sicrhaodd staff fod y themâu yn rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig.  Er bod arweinwyr yn credu bod hon yn elfen hanfodol o Gwricwlwm newydd i Gymru, roeddent hefyd eisiau sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o’r byd.  O ganlyniad, mae pob dosbarth yn astudio gwlad wahanol fel un o’u themâu er mwyn datblygu eu dealltwriaeth o ryng-genedlaetholdeb, amrywiaeth ddiwylliannol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Penderfynodd arweinwyr ailstrwythuro eu cynlluniau er mwyn ymgorffori’r pedwar diben craidd a rhoi cyfle i staff arbrofi â strategaethau amrywiol, fel ‘tasgau cyfoethog thematig’; ‘gweithgareddau entrepreneur’; gweithgareddau digidol fel defnyddio technoleg sgrin werdd a chodio Lego; a sesiynau rhifedd a llafaredd bob dydd.  Wrth gynllunio gweithgareddau, roedd athrawon yn canolbwyntio’n gadarn ar ddarparu cyfleoedd ystyrlon i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’r pedwar diben.

O ganlyniad i’r archwiliad cychwynnol, sylweddolodd arweinwyr fod addysgeg yng nghyfnod allweddol 2 yn cyd-fynd yn fras ag egwyddorion ac ideoleg Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Mae’r ysgol wedi addasu ymagwedd integredig at addysgu a dysgu yn seiliedig ar Effaith Leonardo.  Mae hyn wedi cael ei ymgorffori ac wedi cael ei ddatblygu dros gyfnod o 10 mlynedd.  Mae ymagwedd yr ysgol at gynllunio ac addysgeg yn annog disgyblion i ymchwilio, arsylwi, cofnodi, arbrofi, datblygu syniadau, dychmygu a bod yn greadigol.  Mae’r ymagwedd yn mynd y tu hwnt i gysyniad confensiynol addysgu trawgwricwlaidd.  Mae disgyblion yn cynllunio ar gyfer eu dysgu eu hunain gan fod arweinwyr yn credu nad yw disgyblion cynradd yn rhoi dysgu mewn blychau, neu ‘bynciau’.  Mae ymagwedd yr ysgol at gynllunio ac addysgeg yn cynnig dull creadigol o addysgu sy’n ennyn diddordeb pob disgybl ac athro.

O ganlyniad i’w harfer bresennol, roedd arweinwyr o’r farn nad oedd angen i’r ysgol newid er mwyn newid.  Penderfynon nhw barhau i ddatblygu’r ymagwedd addysgegol hon yng nghyfnod allweddol 2 ac ymgorffori rhai agweddau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen er mwyn cefnogi pontio. 

Trefnodd arweinwyr yr ysgol gyflwyniad ar gyfer y llywodraethwyr er mwyn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau sy’n digwydd.  Roedd hyn yn cynnwys noson holi ac ateb, a chafwyd ymateb cadarnhaol i’r newidiadau cyffrous.  Yn dilyn hyn, cynhaliodd llywodraethwyr deithiau dysgu er mwyn iddynt allu arsylwi gwersi a gweithgareddau.  Roedd hyn yn rhywbeth newydd a gyflwynodd yr ysgol yn dilyn llwyddiant digwyddiad ‘Wythnos dod â rhiant i’r ysgol’ yn yr ysgol.  Canolbwyntiodd y teithiau dysgu ar y canlynol:

  • ymgysylltiad disgyblion â’u dysgu
  • y rhyngweithio rhwng disgyblion ac athrawon
  • ethos ysgol a dosbarth
  • y gweithgareddau amrywiol a gyflwynir ym mhob grŵp blwyddyn
  • llais y disgybl
  • addysgeg

Rhoddodd y teithiau dysgu gipolwg i’r corff llywodraethol ar y newidiadau sy’n digwydd yn yr ysgol a’r modd y mae’r ysgol gyfan yn croesawu gweledigaeth Donaldson ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn rheoli a pharatoi’n llawn ar gyfer newid, penderfynodd arweinwyr ailstrwythuro cyfrifoldebau’r staff, ac yn hytrach na chael cydlynwyr pwnc, trefnodd yr ysgol weithgorau ardal gyda chynrychiolwyr o bob adran.  Mae hyn yn ffordd effeithiol o fonitro ar draws yr ysgol, trwy graffu ar gynllunio a gwaith disgyblion, yn ogystal ag arsylwi gwersi.  Mae hyn yn sicrhau bod arweinwyr yr ysgol yn cydweithio â phob un o’r athrawon i gynllunio gweithgareddau.  Maent hefyd yn monitro addysgu ac yn cymedroli asesiadau disgyblion, ac yn olrhain eu cyrhaeddiad yn ofalus i sicrhau safonau uchel o ddarpariaeth ar draws y cwricwlwm.

Mae arweinwyr yn parhau i ystyried llais y disgybl wrth ddarparu cyfleoedd i gynllunio gweithgareddau a thrywyddau ymholi ar gyfer themâu.  Yn sgil hyn, mae disgyblion yn cynnig syniadau ar gyfer ymweliadau addysgol sy’n cefnogi ac ysgogi eu dysgu.

Cyn dechrau pob hanner tymor, mae athrawon yn ystyried cynlluniau disgyblion.  Yn yr adrannau, maent yn cynllunio ar y cyd ar gyfer gweithgareddau posibl.  Mae athrawon yn eu haddasu bob wythnos, trwy ystyried trywyddau ymholi newydd sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â datblygiadau presennol ac eitemau newyddion o bob cwr o’r byd o’u cwmpas.

Ffactor allweddol wrth newid ac ymateb i ddeilliannau hunanarfarnu yw bod arweinwyr yn caniatáu digon o amser i arbrofi ag unrhyw gynlluniau a methodoleg addysgu.  Ni chaiff unrhyw beth ei newid nes bydd yr holl randdeiliaid yn deall pam mae angen ei newid.