Gweithio gyda busnesau lleol i gyfoethogi Bagloriaeth Cymru - Estyn

Gweithio gyda busnesau lleol i gyfoethogi Bagloriaeth Cymru

Arfer effeithiol

Ysgol Bro Preseli


 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol y Preseli yn ysgol gyfun gymunedol, benodedig ddwyieithog, i ddisgyblion 11-18 oed. Cynhelir yr ysgol gan awdurdod lleol Sir Benfro.  Mae ynddi 906 o ddisgyblion ac mae 162 yn y chweched dosbarth.  Lleolir yr ysgol ym mhentref Crymych yng ngogledd y sir ac mae’n gwasanaethu dalgylch eang gwledig sydd yn cynnwys trefi Hwlffordd, Penfro a Dinbych Y Pysgod.  Yn gyffredinol, daw disgyblion o ardaloedd nad ydynt yn ffyniannus nac ychwaith dan anfantais economaidd.  Mae 4.9% o ddisgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim.  Daw lleiafrif o’r disgyblion (tua 43%) o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ac mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.  Caiff pob disgybl ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Derbynia’r ysgol disgyblion o’r ystod lawn o allu.  Mae 21% o ddisgyblion ar gofrestr anghenion addysgu ychwanegol yr ysgol, gydag 1% ar ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau yn ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain yn y sector?

Mae Ysgol y Preseli wedi bod yn cyflwyno’r Fagloriaeth i bob disgybl yng nghyfnod allweddol 4 a 5 ers 2005.  Mae canlyniadau’r Fagloriaeth yn rhagorol.  Yn 2016 graddiwyd y Fagloriaeth am yr ail flwyddyn.  Llwyddodd 89% o’r cohort i ennill Diploma Uwch a 100% o’r disgyblion a gofrestrwyd.  Roedd y canran llwyddiant A*-A yn 51% ac A*-C yn 100%. Mae cyfraddau llwyddiant Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Legacy wedi bod yn rhagorol 2007-2016. Mae llwyddiant y Fagloriaeth yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5 wedi gosod yr ysgol ar flaen y gad yng Nghymru o ran deilliannau.

Mae Cydlynydd y Fagloriaeth yn aelod o’r Tîm Rheoli.  Mae’r Fagloriaeth ar ei newydd wedd yn darparu cyfle i’r ysgol ddatblygu dull newydd o gyflwyno heriau’r Tystysgrif Her Sgiliau. Mae Cydlynydd y Fagloriaeth yn gyfrifol am arwain timoedd cyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5.  Yn 2016 penodwyd cydlynwyr ar gyfer pob her sy’n defnyddio’u harbenigedd i lunio rhaglen dysgu ac addysgu ysgogol ac ysbrydoledig.  Ystyria’r ysgol hyn yn ddull effeithiol o ddosrannu cyfrifoldebau a meithrin arbenigedd yn y gwahanol heriau.  Mae’r Cydlynydd yn llunio Hunan Arfarniad a Chynllun Gwella Adrannol yn flynyddol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r weithgaredd?

Cyfrifoldeb y Cydlynydd a Chydlynwyr yr Heriau yw paratoi cynlluniau gwaith heriol a phriodol sy’n datblygu’n synhwyrol ar wybodaeth gyd-destunol.  Mae’r adran yn ymroi i ddarparu profiadau dysgu sy’n ddiddorol, heriol ac yn ysgogol e.e. Cynhadledd Menter #MENTRO17.  Bu’r gynhadledd yn gyfle i ddisgyblion weithio fel tîm, i ddatrys problemau ac i feddwl yn greadigol cyn derbyn cyngor a chefnogaeth wrth bobl busnes ac entrepreneuriaid llwyddiannus yr ardal.  Rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ac arloesedd.

Mae’r ysgol yn darparu gwybodaeth am yr holl gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael gan gynnig arweiniad di duedd sy’n helpu disgyblion i ddewis y llwybr cywir. Mae’r ysgol yn cydnabod cynnwys y Fagloriaeth a’r Tystysgrif Her Sgiliau fel rhan annatod o raglen Gyrfau a Byd Gwaith yr ysgol. Derbynia’r disgyblion gyfarwyddyd a chyngor o ansawdd dda mewn perthynas â’u llwybrau dysgu gyrfaol e.e. Cynhadledd Paratoi’r Ffordd i Flwyddyn 11, Cynadleddau Hwb Seren a Noson Llwybrau’r Dyfodol i Flynyddoedd 11 a 12.

Mae heriau’r Dystysgrif Her Sgiliau yn meithrin y medrau angenrheidiol i lwyddo ym myd gwaith.  Er mwyn cyfoethogi’r ddarpariaeth i ddisgyblion mae’r adran wedi creu cysylltiadau uniongyrchol gyda busnesau ac entrepreneuriaid lleol wrth gyflwyno rhaglen ddysgu arloesol.  Mae’r adran yn defnyddio mewnbwn a chyngor yr entrepreneuriaid wrth lunio a gweithredu’r ddarpariaeth gan sicrhau bod cynlluniau gwaith, gweithgareddau ac adborth yn addas i bwrpas nid yn unig er mwyn cwrdd â gofynion yr heriau ond hefyd er mwyn paratoi disgyblion ar gyfer llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Er mwyn diwallu anghenion Her y Gymuned mae’r ysgol wedi datblygu partneriaethau adeiladol a chyffrous gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Sefydliad Paul Sartori.

Mae meithrin sgiliau digidol disgyblion yn flaenoriaeth i’r ysgol a’r adran. Defnyddir cynllun ‘Dewch a’ch Dyfais’ ym Mlynyddoedd 10 i 13 er mwyn cyfoethogi profiadau digidol.  Mae’r adran yn manteisio ar y datblygiadau digidol diweddaraf er mwyn cryfhau effeithiolrwydd personol ein disgyblion a’u paratoi ar gyfer gofynion byd gwaith y dyfodol.  Mae tystiolaeth bod yr adran yn defnyddio Facebook, Show My Homework, HWB a Trydar yn effeithiol i gysylltu â’r cartref er mwyn codi ymwybyddiaeth rhieni o berthnasedd y cymhwyster.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae cydweithio agos rhwng yr ysgol a busnesau ac entrepreneuriaid yn darparu mewnwelediad allweddol i ddisgyblion i fyd gwaith.  Nid yn unig mae’r rhaglen dysgu ac addysgu yn mynd tu hwnt i ateb gofynion y cymhwyster ond mae hefyd yn cyfoethogi dealltwriaeth disgyblion o’r hyn sydd o’u blaenau wrth fentro i addysg bellach, addysg uwch a byd gwaith.  Trwy ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion i ddysgu am brofiadau, llwyddiannau a chamgymeriadau entrepreneuriaid llwyddiannus, arfogir disgyblion i fod yn arloesol, i feddwl yn greadigol ac i gymryd risg sef gofynion Heriau’r Tystysgrif Her Sgiliau.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu’ch arfer da?

Rhennir adnoddau ar gais ysgolion eraill yn aml er mwyn rhannu ein harfer da.  Mae’r adran yn cydweithio’n agos ac yn adeiladol gydag ysgolion Sir Benfro ac ysgolion Cyfrwng Cymraeg y rhanbarth er mwyn sicrhau ansawdd a chryfhau prosesau asesu.  Mae adnoddau’r adran yn cael eu harbed ar Hwb+.  Estynnir gwahoddiad i randdeiliaid perthnasol i ymweld â neu i gyfranogi mewn digwyddiadau megis Cynhadledd #Mentro17.  Mae’r cyfan yn cael eu hysbysu i eraill trwy Facebook yr Ysgol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn