Gweithio ar y cyd ar wella ysgolion

Arfer effeithiol

Somerton Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Somerton wedi’i lleoli yng nghanol dinas Casnewydd.  Mae 185 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 20 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Cânt eu haddysgu mewn chwe dosbarth oedran cymysg ac mae ychydig o ddisgyblion yn treulio rhan o’u diwrnod mewn darpariaeth anogaeth.

Dros y tair blynedd diwethaf, y cyfartaledd treigl ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 45%, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan tua 30% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw ychydig dros chwarter y disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac mae tua 24% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref. 

Dechreuodd y pennaeth gweithredol dros dro yn ei swydd ym mis Medi 2016 ac mae hefyd yn bennaeth parhaol ar Ysgol Gynradd Eveswell.  Mae’r awdurdod lleol wedi agor ymgynghoriad i ystyried y posibilrwydd o greu ffederasiwn parhaol rhwng y ddwy ysgol.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Dechreuodd Ysgol Gynradd Somerton gydweithio ag ysgol gyfagos yn 2016.  Mae’r ddwy ysgol yn wahanol iawn o ran eu maint a’u demograffig, ac maent ar gamau gwahanol o’u teithiau gwella.  Penderfynodd yr ysgolion gychwyn ar daith wella ar y cyd i ddatblygu’r cwricwlwm newydd, rhannu arfer orau a chynorthwyo ei gilydd i wella deilliannau i bob disgybl yn y ddwy ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

I ddechrau, gweithiodd yr ysgolion ar ddatblygu perthynas rhwng y staff.  Gwnaethant drefnu digwyddiadau hyfforddiant ar y cyd a chwilio am arbedion effeithlonrwydd o ran defnyddio amser i gynorthwyo dysgu’r ddwy ysgol gyda’i gilydd.  Gweithiodd staff yn eu grwpiau blwyddyn a dechrau rhannu syniadau a phrofiadau.  Cyn pen dim, gwnaethant nodi meysydd o ddiddordeb cyffredin yn eu haddysgu.  Arweiniodd hyn at rannu gwaith disgyblion a chydgynllunio, gan ddechrau gydag ychydig o wersi neu brosiectau ar y cyd.

Aethant ymlaen i ddatblygu polisïau a chynlluniau gwaith ar draws y ddwy ysgol.  Cynhaliwyd cyfarfodydd staff a phob diwrnod dysgu proffesiynol a hyfforddiant gyda’i gilydd, yn y ddwy ysgol.  Defnyddiodd staff dechnoleg i rannu cynllunio a dechreuasant ymweld â’u hystafelloedd dosbarth ei gilydd.  Wrth i’r ysgolion weithio’n agosach â’i gilydd, daeth yn haws nodi amcanion ar y cyd.  Er i’r ddwy ysgol benderfynu cadw dau gynllun datblygu ysgol ar wahân, mae trywyddau cyffredin yn y ddau gynllun.  O ganlyniad, caiff mwy o adnoddau ac arbenigedd staff eu rhannu er mwyn cyflawni cynlluniau gwella’r ddwy ysgol.

Nododd arweinwyr a staff feysydd cryf yn narpariaeth y ddwy ysgol.  Nododd yr ysgolion fod yr holl staff yn hynod broffesiynol o ran agor eu hystafelloedd dosbarth, eu cynlluniau a bod ganddynt agwedd agored a gonest o ran ansawdd darpariaeth a safonau.  Yn yr ail flwyddyn, wrth i’r staff ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’i hysgolion ei gilydd, cynhaliodd pawb, gan gynnwys y llywodraethwyr, weithgareddau hunanarfarnu ar y cyd.  Canolbwyntiodd staff ar eu hysgolion eu hunain ond fe wnaethant rannu’r hyn a oedd yn digwydd yn yr ysgol arall a deilliannau hunanarfarnu.

Ailadroddwyd y gweithgareddau hunanarfarnu hyn gyda staff a llywodraethwyr y flwyddyn ganlynol.  Y tro hwn, gweithiodd staff mewn grwpiau ar y cyd ar agweddau ar hunanarfarnu, trafod elfennau o ddarpariaeth a safonau yn y ddwy ysgol, a nodi lle y gallai’r ddwy ohonynt gryfhau y flwyddyn ganlynol.  Mae staff o’r farn bod y cydweithio’n weithgaredd buddiol a defnyddiol sy’n cynorthwyo eu haddysgu a’u datblygiad proffesiynol.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae staff wedi cychwyn prosiectau ymchwil gweithredu yn gysylltiedig ag agwedd ar y cynllun datblygu ysgol.  Maent wedi gweithio mewn grwpiau o dri i ‘roi cynnig ar bethau’ a gwerthuso’r effaith ar safonau a darpariaeth.  Mae un athrawes wedi addysgu yn y ddwy ysgol er mwyn hyrwyddo ei datblygiad ei hun.  Mae uwch arweinwyr yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd ac yn dwyn perchenogaeth ar ddatblygiadau ar draws y ddwy ysgol gydag ymdeimlad ar y cyd o ddiben moesol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae safonau addysgu wedi gwella ac mae staff yn trafod addysgeg yn rheolaidd o fewn a’r tu allan i’w lleoliad eu hunain.  Cânt gyfleoedd mynych i weld arfer rhywle arall ac mae datblygiad proffesiynol ystyrlon, parhaus wedi’i ddilyn gan gamau gweithredu, yn ôl yr angen.  Er enghraifft, gweithiodd staff yn effeithiol iawn i wella darpariaeth ddysgu awyr agored, ac mae’r ddwy ysgol wedi gweld effaith y gwaith hwn ar ymgysylltiad a lles disgyblion.  Arweiniodd gweithio mewn grwpiau o dri, gyda ffocws ar ddarllen, at godi safonau ac mae disgyblion bellach yn dewis darllen er pleser.  Yn bwysicaf oll, mae disgwyliadau uchel iawn ar draws y ddwy ysgol, ac mae staff Somerton yn teimlo y cânt eu cynnwys yn llawn yn agenda gwella ehangach yr ysgol.  Trwy weithio ochr yn ochr ag ysgol arloesi, maent wedi bod ar flaen y gad o ran datblygiadau cenedlaethol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rydym wedi rhannu ein datblygiadau â’r consortiwm rhanbarthol, dau glwstwr o ysgolion ac yn ehangach, yn sgil y ffaith bod un o’r ysgolion yn ysgol arloesi.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn