Gwasanaethau cymorth dysgwyr mewn colegau addysg bellach ar gyfer dysgwyr 16-19 oed
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai colegau addysg bellach:
- A1 ddatblygu dull cyffredin o fesur cyflawniadau dysgwyr, gan gynnwys eu cynnydd yn erbyn yr amcanion a amlinellir yn Fframwaith Gyrfaoedd a’r Byd Gwaith (2008) Llywodraeth Cymru (gweler Atodiad 2)
Dylai awdurdodau lleol:
- A2 wneud yn siŵr bod pob dysgwyr yn gwybod am yr ystod gyfan o opsiynau ôl-16 sydd ar gael iddynt
- A3 gwneud yn siŵr bod colegau’n cael gwybodaeth amserol am gyflawniadau ac anghenion cymorth dysgwyr sy’n symud ymlaen i addysg bellach
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A4 weithio gydag ysgolion, colegau, Gyrfa Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu