Gwasanaethau cymorth dysgwyr i ddisgyblion 14-16 oed – Mai 2014
Adroddiad thematig
Argymhellion
Dylai ysgolion:
- ganolbwyntio gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar wella cyrhaeddiad disgyblion o ran graddau uwch mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg mamiaith ac mewn mathemateg;
- defnyddio agwedd fwy strategol at wasanaethau cymorth i ddysgwyr a chydlynu cyflwyno hyfforddi dysgu, cymorth personol, a chyngor ac arweiniad ar yrfaoedd;
- gwella cwmpas ac ansawdd cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd;
- gwneud yn siŵr bod pob un o’r disgyblion yn cael trafodaethau rheolaidd gyda’r staff cymorth mwyaf priodol am eu cynnydd, eu dyheadau a’u llwybr dysgu, yn enwedig ar adegau allweddol ym Mlwyddyn 9 a Blwyddyn 11;
- darparu hyfforddiant a gwybodaeth reolaidd a chyfoes i bob un o’r staff sydd ynghlwm wrth roi cyngor ac arweiniad;
- arfarnu effaith gwasanaethau cymorth i ddysgwyr ar ddeilliannau; a
- chynllunio ar gyfer gostyngiadau posibl mewn cyllid ar gyfer cymorth allanol er mwyn cynnal lefelau presennol cymorth i ddysgwyr.
Dylai awdurdodau lleol:
- arwain a chydlynu partneriaethau i gefnogi ysgolion â gwasanaethau cymorth allanol.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- ddiweddaru ei harweiniad i ysgolion ar gyngor ac arweiniad ar yrfaoedd i adlewyrchu’r newidiadau diweddar i rôl Gyrfa Cymru.