Gwaith ymgysylltu: Diweddariad am y sector nas cynhelir Tymor yr hydref 2021 - Estyn

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad am y sector nas cynhelir Tymor yr hydref 2021

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o 57 ymweliad ymgysylltu â lleoliadau nas cynhelir yn ystod tymor yr hydref 2021. Mae wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd gydag arweinwyr a staff lleoliadau.

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys crynodeb o’r adborth o 12 cyfarfod ardal gydag athrawon ymgynghorol y blynyddoedd cynnar a phartneriaid cymorth o awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a sefydliadau ymbarél (cyfeirir atynt yn yr adroddiad fel partneriaid cymorth).

Y ffocws ar gyfer pob trafodaeth oedd lles plant a staff, y cwricwlwm ac addysgu, dysgu proffesiynol, arweinyddiaeth mewn lleoliadau ac anghenion dysgu ychwanegol. Mae cyfrannau’n ymwneud â sampl y lleoliadau yr ydym wedi cael cyswllt â nhw yn y cyfnod adrodd hwn.


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn