Gwaith Cyngor Gwynedd o ran datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a’u teuluoedd, ac ar gyfer trochi iaith.

Arfer effeithiol

Gwynedd Council


Gwybodaeth am yr Awdurdod Addysg Lleol

Mae gan Awdurdod Addysg Lleol Gwynedd weledigaeth glir yng nghyd destun addysg trwy gyfrwng Y Gymraeg ar gyfer dysgwyr trwy gydol eu cyfnod ym myd addysg. Mae Polisi Iaith Gwynedd yn anelu at fagu dysgwyr a dinasyddion dwyieithog hyderus. Yng Ngwynedd mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb a’r polisi yn gosod cyfeiriad ac atebolrwydd clir i’r holl ysgolion. 

Mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd yn ymroddedig i gyfrannu tuag at strategaethau a deddfwriaeth cenedlaethol o ran hybu a chynyddu defnydd o’r Gymraeg. I’r perwyl hwn, mae’r adran wedi paratoi a chyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) sy’n amlinellu gweledigaeth addysg cyfrwng Cymraeg o fewn yr awdurdod dros y deng mlynedd nesaf.  Yn unol â’r gofyn statudol mae’r Cyngor hefyd o dan adran 44 Mesur Y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi llunio a chyhoeddi strategaethau sirol sydd yn amlinellu sut y byddant yn cyfrannu at y nod cenedlaethol a osodir yn Strategaeth Y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, i gynyddu nifer y siaradwyr ledled Cymru ac i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae Strategaeth Iaith sirol Gwynedd (Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-23) yn gosod yr ymrwymiad a’r weledigaeth ar gyfer y sir, ac mae gwaith yr Adran Addysg a nodau’r CSGA yn cyfrannu at amcanion y strategaeth sirol honno. 

Datblygu adnoddau Cymraeg ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad

Mae’r awdurdod, ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn, wedi buddsoddi mewn gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad (ADY a Ch) canolog. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i bob darparwr addysg o fewn y sir ar gyfer darparu cefnogaeth a chyngor ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion ADY a Ch neu ar gyfer atal yr anghenion hyn rhag datblygu. Mae hyn trwy ddarparu adnoddau, hyfforddiant a mewnbwn uniongyrchol ar gyfer ysgolion a dysgwyr. 

Mae’r gwasanaeth ADY a Ch yn darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog, gyda phob aelod o staff y gwasanaeth yn medru darparu trwy gyfwng Y Gymraeg. Pwysleisir yr angen am ddarpariaeth yn y Gymraeg o fewn y broses recriwtio. 

Mae datblygu adnoddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan annatod o’r gwaith yma, ac mae’r hyfforddiant sydd yn cael ei ddarparu gan y tîm ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir ystod eang o adnoddau pwrpasol sydd yn cael eu datblygu yn barhaus i gyd-fynd â’r angen sydd yn cael ei adnabod, ac i gyd-fynd â’r ddarpariaeth sydd yn cael ei chynnig. Mae hyn yn cynnwys meysydd cynnal ymddygiad, llesiant a iechyd meddwl, anghenion dysgu penodol (llythrennedd a rhifedd), cyfathrebu a rhyngweithio, ac anghenion synhwyraidd, meddygol a chorfforol. Mae gwefan benodol wedi ei sefydlu ar gyfer defnydd rhieni a gofalwyr, a gwefan benodol ar gyfer staff ysgolion sydd yn eu galluogi i lawrlwytho adnoddau, ynghyd â dosbarth ar lein ar gyfer adnoddau anghenion dysgu penodol. Mae popeth ar y wefan ar gael yn ddwyieithog: www.adyach.cymru. Mae’r Cynllun Datblygu Unigol ar lein hefyd yn gwbl ddwyieithog fel bod modd cwblhau yn iaith ddewis y teulu. 

Golyga’r uchod bod y ddarpariaeth ADY a Ch yn cyd-fynd gyda’r ethos a’r ddarpariaeth addysgu o fewn y sir, ac yn hybu medrau a dwyieithrwydd y dysgwyr o’r cychwyn. Mae’n golygu hefyd bod modd i rieni a gofalwyr gyfrannu at drafodaethau person ganolog eu plant trwy’r Gymraeg neu Saesneg gyda staff sydd yn medru’r ddwy iaith. 

Y gyfundrefn addysg drochi

Er mwyn i bolisi iaith yr Awdurdod fod yn gynhwysol, darperir gwasanaeth arbenigol o fewn y sir, sef Y Gyfundrefn Addysg Drochi.  Ers ei sefydlu ar ei newydd wedd ym mis Ionawr 2023 ceir chwe lleoliad strategol ar draws y sir sy’n darparu gwasanaeth i hwyrddyfodiaid i gaffael y Gymraeg. 

Er mwyn sicrhau cyfleoedd modern a chyfoes i’r dysgwyr ymarfer geirfa a phatrymau iaith yn y canolfannau trochi mae staff y Gyfundrefn Addysg Drochi wedi cydweithio gydag unigolion a chwmni allanol i greu pentref rhithwir arloesol. Mae’r prosiect hwn wedi ei ddatblygu gydag arian grant refeniw Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun newydd hwn yn seiliedig ar bentref dychmygol o’r enw Aberwla ac mae’n ymgorffori patrymau iaith penodol o fewn y continwwm iaith yng Nghwricwlwm i Gymru.  Mae’n gynllun perthnasol i’r unfed ganrif ar hugain ac yn adlewyrchu’r Gymru gyfoes. Dyma brosiect sy’n galluogi hwyrddyfodiaid i gamu i Aberwla ar blatfform rhithwir i ymarfer patrymau iaith mewn amrywiol leoliadau yn y pentref.  Ar y platfform digidol hwn caiff y dysgwyr gyfle i chwarae gemau gyda’i gilydd, e.e. wrth lenwi eu basged yn yr archfarchnad neu trwy ddarllen cyfarwyddiadau a dilyn rhestr siopa. Cânt hefyd gyfarfod cymeriadau a chreaduriaid gwahanol i’r arfer ar Fferm Tyddyn Swnllyd ac aros am noson neu ddwy yn y Cae Glampio. Yn ogystal cânt dreulio amser yn y ganolfan hamdden, yr amgueddfa neu helpu Ceri’r mecanic yn y Garej. Hefyd mae’n bosib benthyg drôn o’r siop gajets i hedfan uwchben y pentref i ymarfer patrymau gorchmynnol a chyfeiriadau, e.e. de a chwith, ymlaen ac yn ôl. 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i Wynedd rannu’r adnodd hwn yn genedlaethol ac wedi rhyddhau cyllid i hwyluso hyn.  Mae’r awdurdod yn falch o’r cyfle i’w rannu er budd dysgwyr a chefnogi nod y Llywodraeth yn Cymraeg 2050 ar hyd a lled Cymru. Mae croeso i bob awdurdod yng Nghymru i ddefnyddio’r adnodd hwn trwy gysylltu â  

Mae adnoddau amlgyfrwng i atgyfnerthu patrymau iaith a geirfa yn werthfawr, yn enwedig adnoddau digidol rhithwir sy’n apelio i blant a phobl ifanc. Mae’r adnodd hwn yn gyfrwng i atgyfnerthu’r medrau angenrheidiol i alluogi dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd destunau ffurfiol ac anffurfiol. 

Yr hyn sy’n dod yn amlwg yw’r diddordeb sydd gan y dysgwyr yn yr adnodd. Mae’n apelio’n fawr at hwyrddyfodiaid o’r cynradd i’r uwchradd. Mae’r elfen rithwir yn fodd i alluogi’r dysgwyr i ymgolli yn y gweithgaredd ac wrth gamu ar y platfform maent yn hapus i roi cynnig arni i gyfathrebu trwy’r Gymraeg. Mae’r elfen o hwyl a’r pleser sydd ynghlwm â’r adnodd yn sicr yn dylanwadu’n gadarnhaol ar eu datblygiad ac yn gyfrwng i normaleiddio’r Gymraeg a’i gwneud yn gyfoes yn y maes rhithwir a digidol. 

Adnodd blaengar arall gwerth ei rannu yn genedlaethol yng nghyd destun addysg Gymraeg yw’r podlediad ‘Am filiwn’, sydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr. Mae’r podlediad hwn yn mynd o dan groen addysg drochi a’r hyn sydd yn digwydd yn y canolfannau iaith o fewn y Gyfundrefn Addysg Drochi.  Yn y podlediad mae rhai o’r dysgwyr a’u rhieni yn rhannu eu profiadau wrth iddynt fynychu’r unedau trochi iaith yng Ngwynedd i ddysgu Cymraeg.  Yn ogystal mae athro profiadol yn sgwrsio am y prif egwyddorion trochi sydd wedi profi’n llwyddiannus  o fewn Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd. Dyma adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n dilyn cwrs hyfforddi athrawon, i athrawon newydd gymhwyso neu i athrawon ar ddechrau eu gyrfa i godi ymwybyddiaeth ac i ddysgu am egwyddorion a strategaethau trochi effeithiol. Datblygwyd y  Podlediad Am Filiwn (ypod.cymru) mewn cyfres o bodlediadau ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru trwy nawdd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.