gwaith cydlynus i gryfhau’r Gymraeg. - Estyn

gwaith cydlynus i gryfhau’r Gymraeg.

Arfer effeithiol

Prif nod y ganolfan iaith ydy cynnig addysg drochi lwyddiannus a hwyliog i ddisgyblion newydd yr Ynys. Gwneir hyn trwy gynnig cwrs llawn, cwrs ôl ofal, cwrs cyn canolfan, cefnogaeth wyneb yn wyneb a ddigidol i athrawon ac ysgolion y sir, cynhyrchu a rhannu adnoddau ac wrth gwrs unrhyw hyfforddiant pwrpasol. 
Mae’r ganolfan iaith ym Môn yn datblygu darpariaeth ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r iaith trwy;

  • Gynnal cwrs trochi llawn amser mewn dwy ganolfan iaith (Moelfre a Cybi).
  • Paratoi a chyflwyno cynllun newydd ar gyfer dosbarthiadau’r cyfnod sylfaen
  • Paratoi a chyflwyno cefnogaeth i ysgolion uwchradd y sir.
  • Cynnig ôl ofal i gyn disgyblion y ganolfan (uwchradd a chynradd).
  • Cyflwyno adnoddau yn ddigidol sydd wedi eu hanelu at newydd-ddyfodiaid; i’w defnyddio yn ein hysgolion ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion lleol.
  • Adnoddau digidol
  • Cynnig hyfforddiant.
  • Ap (wrthi’n cael ei chynllunio)

Cwrs trochi llawn amser
Cynigir  y cyfle gorau bosib i’n newydd-ddyfodiad trwy drefnu lle ar gyfer hyd at 16 o ddisgyblion ymhob canolfan pob tymor. Bydd y disgyblion yn cael eu haddysgu’n llawn amser am hyd at 12 wythnos gan ddwy athrawes, un athrawes i bob 8 plentyn. Cyflwynir cynllun pwrpasol wedi ei strwythuro’n ofalus i gyflwyno’r iaith mewn ffordd fyrlymus a dwys –  “Cynllun y Llan”. Y nod yw bod 80% o newydd-ddyfodiaid wedi cyrraedd Lefel 2 neu uwch (mam iaith) llafar a 75% wedi cyrraedd lefel 2 neu uwch darllen ac ysgrifennu erbyn diwedd y cwrs. Mae canlyniadau’r ddwy Ganolfan yn gyson gadarnhaol. Ar ddiwedd pob tymor rhennir holiaduron â  phenaethiaid ac mae’r  penaethiaid yn nodi datblygiad amlwg yn lefelau Cymraeg disgyblion sydd wedi bod yn y Ganolfan Iaith.

Ôl Ofal
Fel dilyniant i’r cwrs trochi byddwn yn ail ymweld â newydd-ddyfodiaid y ganolfan yn flynyddol trwy ymweld â’r fam ysgol a chynnig sesiynau ôl ofal. Cyflwynir unedau gwaith ychwanegol o’r cynllun fel gweithgareddau ôl Ofal. Bydd athrawon o’r ddwy ganolfan yn cyflwyno sesiynau byrlymus o hyd at awr, unwaith yr wythnos yn y fam ysgol. Er mwyn mesur effaith y gwaith yma byddwn yn anfon holiaduron i’r ysgolion ar ddiwedd y cyfnod ac yn ymweld ag ysgolion i wirio dilyniant ieithyddol y disgyblion. Mae pob un ymateb yn bositif ac athrawon dosbarth yn gweld hyder y Newydd-ddyfodiaid yn ymestyn ymhellach yn dilyn y sesiynau yma.
Cynigir y cynllun ôl ofal yn arferol yn ystod tymor yr haf. 
Bydd yr athrawon sydd ar ôl yn y ganolfan yn cynnig cwrs gloywi i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 sydd yn ddihyder yn y Gymraeg. Dyma’r disgyblion sydd o bosib wedi cyrraedd y Cyfnod Sylfaen yn niwedd Blwyddyn 1 neu ym Mlwyddyn 2 a ddim wedi cael cyfle i lwyr ymdrochi yn yr iaith.

Cynllun Newydd Cyfnod Sylfaen
Mae’r awdurdod yn cyfarch barn rhanddeiliaid yn gyson. Er enghraifft wrth drafod gyda chydlynydd iaith ysgolion dalgylch Caergybi,   nodwyd  pryder ynglŷn ag iaith disgyblion Cyfnod Sylfaen yn dilyn y cyfnod clo. O ganlyniad, mae athrawon y Ganolfan wedi creu a chyflwyno cynllun unigryw sydd wedi ei gyflwyno yn nalgylch Cybi yn ystod tymor gwanwyn 2022. Roedd bron bob un ysgol yn nalgylch Cybi yn rhan o’r prosiect. Gwelwyd athrawes o’r ganolfan yn arddangos gwersi trochi byrlymus ar lawr dosbarth gan rannu amrywiol ddulliau a thechnegau trochi yn ystod y gwersi. Roedd athrawon a cymhorthyddion yn arsylwi yn ystod y gwersi ac roedd gan yr ysgol fynediad digidol at yr adnoddau a’r cynlluniau er mwyn datblygu’r gwaith.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun fe gyflwynwyd y sesiynau yn ysgolion cynradd dalgylch Syr Thomas Jones yn ystod tymor Hydref 2022. Y bwriad yw cydweithio ac arddangos gwersi ymhob dalgylch ar yr ynys.

Cefnogaeth Uwchradd
Cynigwyd ôl ofal a chefnogaeth i ddisgyblion holl ysgolion uwchradd o dymor y Gwanwyn 2022. Mae athrawon o’r ganolfan yn teithio o gwmpas pob ysgol uwchradd yn cynnig sesiynau yn wythnosol ac yn rhannu cynlluniau a syniadau mewn dosbarth digidol pwrpasol. Mae athrawes o’r ganolfan yn gweithio’n agos efo pob ysgol uwchradd ac yn ymateb i anghenion pob ysgol yn unigol gan gynnig sesiynau ôl ofal neu sesiynau trochi yn ól yr angen. Mae ymateb y penaethiaid uwchradd i’r gefnogaeth yma yn hynod o bositif. Y bwriad yw defnyddio’r arian grant er mwyn ehangu a datblygu’r gefnogaeth yma ymhellach.

Cynllun cyn canolfan
Bydd rhestr aros o ddisgyblion  am fynediad i wasanaeth y ganolfan. Fel cefnogaeth i’r disgyblion a’r ysgolion hynny, rhennir cynllun cyn canolfan. Mae mynediad gan bob ysgol trwy ddolen i ddosbarth digidol. Mae hyn yn golygu bod y cynllun ar gael i’r disgyblion yn ôl yr angen. Cyflwynir chwe uned o waith yn ddigidol gan gynnwys gweithgareddau llafar yn ogystal â gemau. Byddwn yn diweddaru a datblygu’r cynllun yma’n flynyddol. Mae’r unedau gwaith yma yn rhoi sylfaen gadarn i’r disgyblion cyn derbyn cwrs trochi llawn.

Adnoddau digidol
Nid oedd cynnal cyrsiau llawn na chynnig ôl ofal wyneb-yn-wyneb yn bosib yn ystod  cyfyngiadau’r pandemig. Fel ymateb i’r cyfnod clo a’r angen am ddysgu o bell, crëwyd dosbarth digidol newydd oedd yn cynnwys adnoddau rhyngweithiol efo cymorth llafar ar gyfer rhieni. Roedd yr adnoddau yma ar gael i holl ysgolion Môn a chafwyd ymateb cadarnhaol i’r adnoddau gan benaethiaid ac athrawon. Mae’r dosbarth bellach yn parhau i dyfu ac yn cynnwys adnoddau thematig yn ogystal ag adnoddau sydd yn cyflwyno ac adolygu patrymau iaith ar lawr y dosbarth. Mae’r dosbarth bellach ar gael i ysgolion fedru pori a dewis gweithgareddau yn ôl yr angen. Ceir hefyd cynllun syml ac adnoddau fel arweiniad i gyflwyno patrymau iaith trwy’r ‘Ysgol Camau Clebran’. Mae’r ddolen i’r dosbarth yma bellach wedi ei rhannu ag athrawon ar draws y sir yn sgil ymweliadau gan athrawon trochi iaith o wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Hyfforddiant
Yn dilyn y cyfnod clo a’r diffyg cyfleoedd oedd disgyblion ein hysgolion wedi eu cael i ymarfer a defnyddio’r Gymraeg, gwelwyd yr angen am hyfforddiant dulliau trochi i staff ysgolion. Er mwyn i’r hyfforddiant yma fod ar gael yn syml ac yn gyfleus ynghanol amser heriol iawn i staff ysgolion penderfynwyd creu dosbarth digidol newydd. Yn y dosbarth cynigir clipiau hyfforddiant trochi. Mae mwy o glipiau yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd. Mae athrawon y ganolfan yn ymweld ag ysgolion ac yn cynnig hyfforddiant trochi wyneb-yn-wyneb yn ôl dymuniad yr ysgol. Mae canolfan iaith Môn wedi cydweithio efo Canolfan Bedwyr ers sawl blwyddyn wrth gynnig sesiynau hyfforddiant trochi ar gyfer cymhorthyddion siroedd y Gogledd, sef ‘Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol.’ Cafwyd ymatebion cadarnhaol iawn i’r sesiynau drwy brosesau gwerthuso y brifysgol.

Ap
Fel ymateb i’r angen am adnoddau cyfoes ar gyfer ein newydd-ddyfodiaid defnyddiwyd rhan o arian y grant trochi i ddechrau creu adnodd newydd pwrpasol ar gyfer dysgwyr. Rhennir arbenigedd athrawon canolfannau iaith Môn efo cwmni lleol er mwyn datblygu ap pwrpasol ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Bydd yr ap yma ar gael yn fuan ac yn llawn adnoddau a gweithgareddau byrlymus.