Grymuso myfyrwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd

Arfer effeithiol

United World College of the Atlantic Ltd


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Sefydlwyd Coleg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd ym 1962.  Y coleg yw aelod sefydlu Colegau Unedig y Byd, sef grŵp o 17 o ysgolion a cholegau annibynnol rhyngwladol.  Mae’n goleg cydaddysgol preswyl ar gyfer myfyrwyr o bob cwr o’r byd sydd wedi’i leoli ar arfordir De Cymru yng Nghastell Sain Dunwyd. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Fel sefydliad addysgol rhyngwladol, sydd wedi’i seilio ar genhadaeth, mae Coleg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd yn anelu at sicrhau bod cenhadaeth Coleg Unedig y Byd i “wneud addysg yn rym i uno pobl, cenhedloedd a diwylliannau ar gyfer heddwch a dyfodol cynaliadwy” wedi’i hymgorffori’n ddwfn yn yr amgylchedd dysgu ac ym mhrofiadau dysgu 370 o fyfyrwyr sy’n dod o dros 80 o wahanol wledydd.  I gyflawni’r amcan addysgol delfrydol hwn, sydd hefyd yn bragmataidd, mae’r coleg yn ceisio darparu ystod eang o brofiadau dysgu sy’n galluogi myfyrwyr i estyn allan, gweithio gyda phartneriaid, ac ymgysylltu â’r byd, yn fyd-eang ac yn lleol fel ei gilydd.

Mae Coleg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd yn croesawu’n frwd y ddihareb i “feddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol”.  Fodd bynnag, mae’n mireinio’r dull hwn i annog myfyrwyr i feddwl a gweithredu ar y pryd yn lleol ac yn fyd-eang fel ei gilydd.  Mae’r coleg yn meithrin myfyrwyr i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus y byd.  Mae’n eu hannog i gyfrannu’n weithredol at y cyd-destun lleol y maent yn rhan ohono yn ystod eu dwy flynedd yn y coleg.  Mae profiadau myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yng Ngholeg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd, ac yng Nghymru, yn gyfnod tyngedfennol yn yr hyn y mae’r coleg yn disgwyl fydd yn daith gydol oes tuag at ddinasyddiaeth weithredol a dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn cymdeithas.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae dull allymestyn ac ymgysylltu â phartneriaethau Coleg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd yn ceisio gweithio gyda sefydliadau o’r un anian, sefydliadau addysgol a sefydliadau anllywodraethol ledled y byd. Mae’r rhain yn cynnwys Oxfam, Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor, Ysgolion Unedig y Byd, a Seeds of Peace.  Mae’r cysylltiadau a phartneriaethau hyn yn cael effaith fuddiol ar y ffordd y mae myfyrwyr yn gweld y byd.  Maent yn cyflwyno strwythurau i helpu myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach ac wedyn manteisio ar y cyfleoedd i ‘wneud gwahaniaeth’ yn y byd o’u cwmpas.  Mae partneriaeth â’r sefydliad entrepreneuriaeth gymdeithasol ryngwladol Ashoka yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gyflwyno cynlluniau prosiect hunangynhyrchiol fel rhan o’r fenter ‘Entrepreneuriaid Cymdeithasol Ifanc’ gan y sefydliad.  Mae prosiectau tebyg sy’n gweithio gyda menter Colegau Unedig y Byd, GoMakeADifference (GOMAD) yn darparu cyllid ‘sbarduno’ i fyfyrwyr roi eu cynlluniau ‘creu newid’ ar waith, yn aml yn eu mamwledydd eu hunain.

Mae’r coleg hefyd yn cydnabod pwysigrwydd partneriaethau allymestyn lleol yng Nghymru.  Mae Coleg Iwerydd yn ymdrechu i ddatblygu cysylltiadau â sefydliadau yng Nghymru a sefydliadau gan gynnwys Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru, British Council Cymru, a Llywodraeth Cymru.  Mae cynrychiolwyr o’r grwpiau hyn yn darparu darlithoedd, gweithdai a chyfleoedd ymweliadau allanol perthnasol ar gyfer myfyrwyr.  Mae’r coleg wedi datblygu partneriaeth eithriadol o gryf gyda sefydliad anllywodraethol ym Mro Morgannwg, Vale for Africa, sy’n gweithio gyda chymuned ddifreintiedig yn Tororo, Wganda. http://www.valeforafrica.org.uk/ .

Ar y lefel leol ganolraddol, mae myfyrwyr Coleg Iwerydd yn gweithio gyda phlant ifanc o ysgolion cyfun ac ysgolion cynradd yn Llanilltud Fawr, y Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Barri.  Mae’r cysylltiadau hyn yn cyfrannu at rannu profiadau a mewnwelediad buddiol ar draws diwylliannau.  Mae Coleg Iwerydd wedi sefydlu ‘Rhaglen Ysgolion Cysylltiedig’ hefyd gydag ysgolion partner ledled Cymru a gweddill y DU.  Mae’r bartneriaeth hon yn helpu i wella ymgysylltu rhyng-ddiwylliannol, ac i ddatblygu rhwydweithiau o bobl ifanc yn gweithio gyda’i gilydd i greu newid cadarnhaol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ansawdd y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae dull addysgol allymestyn a phartneriaeth Coleg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd wedi’i seilio ar y delfryd bod yn rhaid iddynt ddod i adnabod, deall a gweithio gyda phobl eraill y mae eu profiad yn wahanol i’w profiad nhw eu hunain, er mwyn i fyfyrwyr ymgysylltu â’r byd.  Mae’r amgylchedd dysgu yng Ngholeg Unedig y Byd, Coleg Iwerydd, â’i genedligrwydd niferus, yn ganolbwynt ar gyfer ymgysylltu rhyng-ddiwylliannol o’r fath.  Caiff y buddion i fyfyrwyr eu gwella gan yr ymdrechion penderfynol a strwythuredig a wna’r coleg i groesawu’n llawn y byd sydd ar garreg drws Coleg Iwerydd, ac ym ‘meddylfryd byd-eang’ y myfyrwyr eu hunain.

 
Yn yr arolygiad diweddar o’r coleg, nododd arolygwyr:

• Fod yr ethos teuluol rhyngwladol eithriadol o dda yn annog disgyblion yn hynod lwyddiannus i fyfyrio ar eu rôl mewn cymdeithas a’r modd y gall eu gweithredoedd effeithio ar fywydau pobl eraill, a’u trawsnewid
• Y caiff disgyblion gyfleoedd helaeth i ddechrau, arwain a chymryd rhan mewn prosiectau datblygu lleol a byd-eang sy’n ymgorffori gweledigaeth y coleg y dylai disgyblion ‘gael eu grymuso i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein byd’ 
• Bod cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn paratoi disgyblion yn dda i effeithio ar newid ac yn ategu uchelgais y coleg y dylai addysg fod yn ‘drawsnewidiol’

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r coleg wedi rhannu ei arfer â’r partneriaid dan sylw a gyda cholegau eraill o fewn grŵp Colegau Unedig y Byd.