Grymuso dysgwyr i gyfrannu’n ystyrlon at wneud penderfyniadau am beth maent yn ei ddysgu, a sut, eu lles, a sut i’w cadw eu hunain yn ddiogel. - Estyn

Grymuso dysgwyr i gyfrannu’n ystyrlon at wneud penderfyniadau am beth maent yn ei ddysgu, a sut, eu lles, a sut i’w cadw eu hunain yn ddiogel.

Arfer effeithiol

National Star in Wales – Mamhilad


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae National Star in Wales yn goleg addysg bellach arbenigol dibreswyl sydd wedi’i leoli ym Mamhilad, ger Pont-y-pŵl, sy’n darparu addysg, medrau bywyd, therapïau a gofal dros flwyddyn academaidd 38 wythnos. Mae’r cwricwlwm yn cynnig llwybrau dysgu personoledig gyda nodau ar gyfer dysgu ac annibyniaeth. Cenhadaeth y coleg yw ‘galluogi pobl ag anableddau i gyflawni eu  potensial trwy wasanaethau personoledig o ran dysgu, pontio a chyrchfan’.  

Mae gan bob un o’r dysgwyr raglen bersonoledig, sydd wedi’i chynllunio i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyheadau. 
I lawer o fyfyrwyr, National Star yw’r garreg gamu olaf ar eu taith addysg, ac mae’r llwybrau cwricwlwm yn sicrhau ffocws ar fyfyrwyr yn datblygu’r medrau a’r wybodaeth a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar gyflawni deilliannau cynaliadwy a’r cyfnod pontio o’r coleg. 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cydnabu arweinwyr yn National Star in Wales nad oedd dysgwyr yn cael cyfleoedd wedi’u gwreiddio’n briodol i fewnbynnu i benderfyniadau o ddydd i ddydd, ac agweddau tymor hwy ar gynnal y coleg. Er mwyn darparu’r cyfleoedd hyn, rhoddodd tiwtoriaid nifer o strategaethau ar waith i annog dysgwyr i gael dweud eu dweud a datblygu eu hannibyniaeth.

Mae gwaith y coleg yn y maes hwn wedi eu cynorthwyo ymhellach i gyflawni eu gweledigaeth i gael “byd lle gall pobl ag anableddau gyflawni eu potensial fel dinasyddion cyfartal a gweithredol sydd â rheolaeth dros eu bywydau”. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae National Star in Wales yn mabwysiadu ymagwedd amlweddog at hunaneirioli, sy’n dechrau yn ystod y cam asesu cychwynnol wrth gyfeirio dysgwyr i’r coleg, ac yn parhau trwy eu cyfnod pontio parhaus.

Asesiad cyn-dechrau
Trwy gyfarfodydd asesu cychwynnol, mae tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys rheolwyr y cwricwlwm a rheolwyr gwasanaethau a’r tîm therapiwtig yn cyfarfod â’r dysgwr, ynghyd â’i rieni a’i ofalwyr, er mwyn ffurfio darlun clir o anghenion dysgwyr, eu ffafriaethau, eu lefelau cyrhaeddiad presennol a’u dyheadau yn y dyfodol. Mewn achosion lle mae gan ddysgwyr anghenion iechyd cymhleth, mae tîm y coleg yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu creu i uchafu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr yn y coleg. 

Cynlluniau gofal ac asesiadau risg
Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol, caiff cynlluniau gofal drafft ac asesiadau risg unigol eu datblygu. Er mwyn galluogi dysgwyr i gyfrannu’n ystyrlon at eu cynlluniau gofal, cânt eu rhannu â dysgwyr yn unigol, gan ddefnyddio’u dull cyfathrebu ffafriedig. Mae’r cynlluniau gofal a’r asesiadau risg yn amlinellu lefel uchel y gofal a’r cymorth y dylai dysgwyr ei disgwyl yn y coleg ac yn y gymuned ehangach i’w helpu i gadw’n ddiogel a chefnogi annibyniaeth. Mae’r staff sy’n gweithio trwy’r cynlluniau gyda dysgwyr yn gofyn iddynt gydsynio i bob elfen. Caiff y cynlluniau hyn eu hadolygu gyda’r dysgwr bob tymor, ac mae’r dysgwyr yn eu cymeradwyo bob tro â llofnod, ffotograff neu stamp. 

Meithrin dewis 
Mae arweinwyr a thiwtoriaid yn y coleg yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr wneud dewisiadau a chyfarwyddo eu gofal eu hunain cymaint ag y bo modd. Gofynnir i ddysgwyr gydsynio i bob elfen o’u gofal a gwneud dewisiadau amdanynt, er enghraifft cydsynio i drefn y gofal ei hun, yr aelod staff yn cynorthwyo, y cynhyrchion a ddefnyddir ac opsiynau dillad. 

Adolygiadau yn canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae National Star in Wales yn dilyn ymagwedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn at adolygiadau. Rhoddir cyfleoedd i ddysgwyr lenwi holiadur cyn-adolygiad, gan ddefnyddio’r dull cyfathrebu y maent yn ei ffafrio, i gofnodi’r hyn sy’n mynd yn dda a beth y gellid ei wneud yn well, yn y coleg ac yn y cartref, ac o ran ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol. Gofynnir i ddysgwyr roi diweddariad ar eu dyheadau yn y dyfodol hefyd i sicrhau bod y coleg ac asiantaethau eraill yn gweithio tuag at ffafriaethau’r dysgwyr. 

Senedd Myfyrwyr
Yn ddiweddar, mae’r coleg wedi ffurfio Senedd Myfyrwyr gyda dysgwyr sy’n awyddus i gyflawni dyletswyddau yn rolau cynrychiolwyr. Gan fod dysgwyr yn gyfrifol am feysydd amlwg ar draws cymuned y coleg, bydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud trwy’r Senedd Myfyrwyr yn cael effaith weladwy, gan atgyfnerthu ymhellach fod eu lleisiau a’u dewisiadau yn achosi newid. 

Ymlacio a sgwrsio
Gellir dadlau mai un o’r agweddau mwyaf effeithiol ar ddulliau hunaneirioli’r coleg yw ‘Ymlacio a Sgwrsio’ (‘Chill and Chat’). Mae’r rhain yn sesiynau anffurfiol a gynhelir gan arweinydd diogelu’r coleg. Cynhelir y rhain yn ystod amser cinio, ac mae’r arweinydd diogelu yn treulio amser gyda phob dysgwr ar draws y coleg i wneud yn siŵr eu bod yn iawn. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i’r arweinydd diogelu wirio dealltwriaeth dysgwyr o ddiogelu a gallant siarad ag ef i godi unrhyw bryderon. Caiff adborth o’r sesiwn ei ledaenu ar draws y tîm staff cyfan, i rannu meysydd i’w datblygu y gellir eu hatgyfnerthu, ac i lywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol yn ogystal. 

Cyfryngu cyfoedion
Yn unol â’r rhan fwyaf o leoliadau, ceir gwrthdaro rhwng cyfoedion, weithiau. Yn National Star in Wales, caiff dysgwyr eu hannog i hunaneirioli cymaint ag y bo modd pan fydd y senarios hyn yn digwydd. Er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu medrau o fewn datrys anghydfod, mae’r coleg yn mabwysiadu dull cyfryngu cyfoedion. Gofynnir i ddysgwyr gydsynio i’r cyfarfod ac fe gânt eu briffio am y strwythur a beth i’w ddisgwyl cyn mynychu. Yn ystod y cyfarfod, mae cyfryngwr diduedd yn gofyn i bob un o’r dysgwyr dan sylw rannu beth ddigwyddodd a sut gwnaeth iddyn nhw deimlo. Wedyn, gofynnir i ddysgwyr awgrymu atebion i osgoi gwrthdaro yn y dyfodol, cyn gwerthuso’r atebion a awgrymwyd, a chytuno iddynt ar y ddwy ochr. Rhennir deilliannau’r cyfarfod gyda’r tîm staff cyfan i’w galluogi i gynorthwyo dysgwyr i ddilyn eu hatebion cytunedig trwy fodelu.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae gan y coleg brosesau pontio effeithiol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ar waith. Mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel yn y coleg o ganlyniad i staff yn defnyddio dull unigoledig, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu’n effeithiol. O ganlyniad, mae dysgwyr yn cyrraedd y coleg yn teimlo bod croeso iddynt, a bod pobl yn eu deall, ac maent yn ymgyfarwyddo â bywyd coleg yn gyflym.

Mae staff y coleg yn defnyddio gwybodaeth o’r asesiadau therapiwtig a’r trefniadau pontio i greu cynlluniau gofal a chymorth cynhwysfawr ar gyfer pob un o’r dysgwyr. Mae’r cynlluniau manwl a phersonoledig hyn yn darparu gwybodaeth fuddiol i gefnogi anghenion dysgwyr tra’n cynnal eu hannibyniaeth, ac yn datblygu medrau pwysig. Mae cynlluniau’n cynnwys ymatebion wedi’u sgriptio i staff eu defnyddio pan fydd dysgwyr yn teimlo’n orbryderus. O ganlyniad, mae dysgwyr yn dysgu rheoli eu hymddygiadau a’u hemosiynau eu hunain yn dda.

Mae’r coleg yn hyrwyddo diwylliant cadarn o ddiogelu dan arweiniad staff profiadol. Mae’r coleg yn hynod effeithiol yn galluogi dysgwyr i gael cyfleoedd gwerthfawr i wneud eu cyfraniad eu hunain at drefniadau i’w cadw’n ddiogel, er enghraifft wrth ysgrifennu asesiadau risg ar gyfer ymweliadau y tu allan i’r coleg, neu i gefnogi eu cyfle i elwa ar leoliadau profiad gwaith. Mae sesiynau wythnosol gyda chydlynydd diogelu’r coleg yn galluogi dysgwyr i archwilio agweddau ar ddiogelu mewn ffyrdd sy’n ymwneud â nhw yn uniongyrchol, a nodi eu strategaethau eu hunain i’w cadw eu hunain yn ddiogel. Mae’r pwyslais buddiol hwn yn cryfhau dealltwriaeth dysgwyr o’r materion pwysig hyn ac yn cefnogi datblygiad eu medrau hunaneirioli eu hunain. 
Mae llais y dysgwr wedi cael effaith lwyddiannus ar waith y coleg. Mae dysgwyr yn cyfrannu’n ystyrlon at ystod o gyfarfodydd sy’n eu cynnwys. Caiff bron pob un o’r dysgwyr gyfleoedd buddiol yn y sesiynau “Ymlacio a Sgwrsio” wythnosol i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd yn y coleg. Mae dysgwyr yn falch o’u gwahanol rolau yn Senedd y Coleg ac yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau yn angerddol.