Grymuso datblygiad tiwtoriaid trwy waith partneriaeth cryf a chydweithredol

Arfer effeithiol

Gwent Five Counties Partnership

Pedwar gweithiwr proffesiynol yn cydweithio o amgylch bwrdd gyda dyfeisiau digidol a llyfrau nodiadau yn ystod cyfarfod, a welwyd oddi uchod.

Gwybodaeth am y bartneriaeth 

Sefydlwyd Partneriaeth Dysgu Oedolion Gwent Fwyaf, a arweinir gan Goleg Gwent, ym 1990. Mae pum prif bartner cyflwyno, ac awdurdod lleol yw pob un ohonynt. Y rhain yw: Aneurin Leisure (Blaenau Gwent), Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, a Thorfaen. Mae cynnig y bartneriaeth yn cynnwys cyrsiau medrau hanfodol ynghyd ag ystod o gyrsiau a chlybiau ar sail adennill costau’n llawn. Mae’r tiwtoriaid sy’n cyflwyno’r rhaglen mewn lleoliadau dysgu cymunedol yn cael eu cyflogi gan yr awdurdodau lleol. Cynorthwyir pennaeth y bartneriaeth gan dîm bach yng Ngholeg Gwent sy’n cynnwys tri Chydlynydd Cymorth Datblygu rhan-amser. Mae’r Cydlynwyr Cymorth Datblygu yn datblygu mentrau traws-fwrdeistref, ac ar ôl cytuno arnynt gyda rheolwyr y bartneriaeth, cânt eu gweithredu ar draws y bartneriaeth a’u goruchwylio, eu hwyluso a’u cefnogi gan y Cydlynwyr Cymorth Datblygu.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol 

Er bod tiwtoriaid Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael eu cefnogi’n dda gan yr awdurdod sy’n eu cyflogi, ychydig iawn o gyfleoedd a gânt yn gyffredinol i gwrdd â thiwtoriaid eraill sy’n addysgu’r un pwnc, gan eu bod bron i gyd yn staff rhan-amser sy’n teithio i ganolfannau addysg gymunedol i gyflwyno eu dosbarthiadau. Mae’r sefyllfa hon yn gallu arwain at ddyblygu ymdrechion gan diwtoriaid, cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), a methiant i rannu syniadau ac arfer dda ar draws y bartneriaeth. Mae’r mentrau a ddisgrifir isod yn sicrhau bod dull traws-bartneriaeth yn cael ei ddefnyddio i gefnogi a datblygu tiwtoriaid. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd  

Grwpiau gorchwyl pwnc arbenigol traws-bartneriaeth  

Mae grŵp ar gyfer pob prif faes cwricwlwm. Mae aelodau’r grŵp yn gydlynwyr cwricwlwm neu’n diwtoriaid pwnc arbenigol profiadol o bob awdurdod lleol, dan arweiniad un o’r Cydgysylltwyr Cymorth Datblygu. Mae’r grwpiau’n cyfarfod pan fydd angen i gyflawni tasgau fel: 

  • llunio deunyddiau asesu cyffredin ar gyfer unedau poblogaidd yn y maes cwricwlwm 
  • cynllunio digwyddiadau safoni ar gyfer aseswyr, yn unol â gofynion y sefydliad dyfarnu 
  • ysgrifennu unedau newydd mewn ymgynghoriad ag Agored Cymru, lle bo angen 
  • sicrhau bod syniadau da ac arfer arloesol gan diwtoriaid yn cael eu lledaenu i bob tiwtor yn y maes cwricwlwm 

Grŵp mentoriaid digidol  

Mae’r grŵp hwn yn cefnogi tiwtoriaid ym mhob maes cwricwlwm i gynnwys offer digidol yn eu haddysgu, ac i helpu eu dysgwyr i ddatblygu medrau digidol. Mae gan bob un o’r mentoriaid digidol hyd at bedair awr yr wythnos i gefnogi tiwtoriaid yn eu hawdurdod lleol eu hunain ac i gydweithio fel grŵp ar weithgareddau traws-bartneriaeth fel: 

  • “Offeryn Digidol y Mis” a gweminarau misol y gall tiwtoriaid eu gwylio mewn amser real neu ar adeg arall 
  • gwefan o syniadau a dolenni i wefannau defnyddiol ar gyfer defnyddio offer digidol 
  • cylchlythyr bob tymor gydag awgrymiadau, syniadau, a dolenni i wefannau defnyddiol 

 
Datblygiad Proffesiynol Parhaus 

Er bod dysgu proffesiynol ar gyfer diwtoriaid yn cael ei ddarparu hefyd ym mhob awdurdod lleol, cynigir hyfforddiant a DPP traws-bartneriaeth mewn nifer o fformatau gan gynnwys gweithdai yn yr ystafell ddosbarth, cyrsiau ar-lein sydd ar gael i staff y bartneriaeth ar unrhyw adeg, a gweminarau. 

Cynhadledd i diwtoriaid  

Nodwedd bwysig o’r rhaglen DPP yw’r diwrnod cynhadledd blynyddol i diwtoriaid, sy’n galluogi tiwtoriaid i fynychu sgyrsiau gan siaradwyr gwadd, cymryd rhan mewn dewis o weithdai, a chwrdd â thiwtoriaid eraill o’u meysydd cwricwlwm i gyfnewid syniadau a rhannu arfer dda. Mae themâu’r gynhadledd yn seiliedig ar anghenion a datblygiadau cyfredol. Thema cynhadledd 2023 oedd iechyd meddwl a lles, a bydd cynhadledd 2024 yn cynnwys y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr. Er mwyn dileu rhai o’r rhwystrau sy’n atal tiwtoriaid rhan-amser rhag mynychu, caiff dosbarthiadau eu canslo ar ddiwrnod y gynhadledd, ac mae tiwtoriaid a gaiff eu talu fesul awr yn cael eu talu i fynychu. 

Cymwysterau proffesiynol 

Mae cymwysterau asesydd Hyfforddiant, Asesu a Sicrhau Ansawdd, a Sicrhau Ansawdd Mewnol, ar gael fel cyrsiau dysgu cyfunol y gall tiwtoriaid eu dechrau ar unrhyw adeg, a gweithio tuag atynt pan fydd eu llwyth gwaith yn caniatáu. Hefyd, mae’r bartneriaeth yn cynnig cyfle i diwtoriaid sy’n dymuno bod yn arsylwyr ymgymryd â chymhwyster Arsylwi ar Ymarfer Addysgu gydag Agored Cymru. Defnyddiodd y bartneriaeth y Gronfa Cymorth i Oedolion yn effeithiol i gynnig hyfforddiant achrededig gan ddau sefydliad hyfforddiant allanol a ddarparodd gyrsiau Google Educator ar lefelau sylfaenol ac uwch, a dyfarniad lefel 3 mewn Arwain Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl. 

Cefnogaeth arall gan y bartneriaeth 

Cyfarfodydd Briffio Tiwtoriaid: Mae’r rhain yn gyfarfodydd a gynhelir ym mhob awdurdod lleol y bartneriaeth ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Mae pennaeth y bartneriaeth yn darparu briff i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl diwtoriaid am ddeilliannau’r flwyddyn flaenorol, ac i’w hysbysu am ddatblygiadau newydd. Yn aml, caiff dysgu proffesiynol perthnasol, fel hyfforddiant Prevent, ei gynnwys yn y cyfarfodydd hyn. 

Awgrymiadau gan Diwtoriaid: Sef casgliad o syniadau am arfer dda a ddosberthir i diwtoriaid ar ffurf cylchlythyr neu e-lyfr. Caiff yr arfer dda ei nodi gan arsylwyr yn yr arsylwadau traws-fwrdeistref, a gall tiwtoriaid eraill eu mabwysiadu, neu eu haddasu ar gyfer eu cyrsiau eu hunain. 

Hyrwyddwr y Gymraeg: Menter newydd draws-fwrdeistref yw rôl Hyrwyddwr y Gymraeg, sy’n rhoi syniadau i diwtoriaid ar gyfer gwreiddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn eu cyrsiau trwy gylchlythyr bob tymor a gwefan adnoddau a rennir. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr? 

 Mae’r dull traws-bartneriaeth yn effeithiol o ran cefnogi datblygiad parhaus tiwtoriaid. Asesir effaith y rhaglen DPP wrth ofyn, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, i diwtoriaid raddio defnyddioldeb y DPP y maent wedi’i wneud ar gyfer eu hymarfer fel tiwtor. Yn 2022-23, rhoddodd 88% o’r tiwtoriaid radd o bedwar neu bump ar raddfa o 1 i 5 i fanteision eu DPP. 

Yn ogystal, mae’r dull cydweithredol yn effeithiol iawn o ran lleihau dyblygu ymdrechion. Enghraifft ddiweddar o hyn yw’r ymagwedd draws-bartneriaeth at ddeallusrwydd artiffisial (DA). Lluniwyd canllawiau i diwtoriaid a dysgwyr, yn ogystal ag asesiad risg ar gyfer y posibilrwydd o gamddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn asesiadau. Ysgrifennwyd unedau ymwybyddiaeth o ddeallusrwydd artiffisial ar lefelau gwahanol ar gyfer Agored Cymru gan y mentoriaid digidol a’r grwpiau cwricwlwm Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae tasgau asesu a awgrymir ac adnoddau ar gyfer yr unedau hyn yn cael eu llunio ar hyn o bryd, a byddant ar gael i diwtoriaid ar draws holl feysydd y cwricwlwm. Bydd y gynhadledd i diwtoriaid ym mis Mawrth 2024 yn trafod deallusrwydd artiffisial, gyda siaradwyr gwadd, a’r cyfle i diwtoriaid roi cynnig ar amrywiaeth o offer deallusrwydd artiffisial.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda? 

Prif ffocws y mentrau y manylir arnynt yn yr astudiaeth achos hon yw rhannu arfer dda ar draws holl feysydd y bartneriaeth. Yn ogystal, pryd bynnag y daw’r cyfle, rhennir arfer dda y tu hwnt i’r bartneriaeth gan gynnwys gydag adrannau eraill yng Ngholeg Gwent a gyda darparwyr eraill ym maes Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac addysg bellach, trwy hyfforddiant rhanbarthol neu genedlaethol a chyfarfodydd rhwydwaith. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn