Grwpiau Gwella Llywodraethwyr – Yr effaith ar allu llywodraethwyr i gynorthwyo uwch arweinwyr. - Estyn

Grwpiau Gwella Llywodraethwyr – Yr effaith ar allu llywodraethwyr i gynorthwyo uwch arweinwyr.

Arfer effeithiol

Troedyrhiw Primary School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gymunedol Troedyrhiw wedi’i lleoli ym mhentref Troedyrhiw a Phentrebach, ac mae ychydig o ddisgyblion yn mynychu o leoedd pellach. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar ddau safle cyfagos ac mae ganddi 215 o ddisgyblion 3-11 oed. Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 17% ohonynt angen dysgu ychwanegol. Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Credu, Cyflawni a Disgleirio’ (‘Believe, Achieve and Shine Bright’) yn ymgorffori arfer bob dydd yn yr ysgol, lle mae cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio gyda’i gilydd i godi dyheadau, gan annog pawb i gredu ynddynt eu hunain, cyflawni eu nodau a disgleirio.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r corff llywodraethol yn Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw yn cynnwys ystod o lywodraethwyr gwirfoddol sydd â phrofiadau helaeth. Gyda’i gilydd, maent yn cefnogi ac yn herio’r tîm arweinyddiaeth i ysgogi newid ac effaith gadarnhaol ar safonau ar gyfer yr holl ddysgwyr. Er mwyn cryfhau rôl y llywodraethwyr, sefydlwyd Grŵp Gwella Llywodraethwyr. Nod y Grŵp Gwella Llywodraethwyr yw datblygu rhwydwaith o lywodraethwyr o’r clwstwr o ysgolion i rannu arfer, gwybodaeth a hyfforddiant, cynyddu arbenigedd llywodraethwyr a’u harfogi â’r medrau a’r hyder i weithredu fel ffrind beirniadol i’w hysgolion.

I ddechrau, roedd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn cynnwys cadeiryddion ac is-gadeiryddion llywodraethwyr pob un o ysgolion y clwstwr. Mae’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr wedi esblygu, ac erbyn hyn, mae cynrychiolwyr eraill o bob corff llywodraethol yn mynychu’r cyfarfodydd, gan felly ehangu’r cyfle ar gyfer yr holl lywodraethwyr.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn cyfarfod i drafod a chytuno ar y camau gweithredu ar gyfer y flwyddyn honno. Maent yn cynnal archwiliad medrau i ddeall anghenion cyrff llywodraethol y clwstwr, gan ystyried cyd-destun pob un o’r ysgolion. Defnyddir y wybodaeth hon i ddatblygu ‘Calendr Ymrwymiadau’. Yn nodweddiadol, caiff y cyfarfodydd hyn sydd wedi’u cynllunio eu cynnal o leiaf unwaith y tymor a chânt eu cynnal gan bob un o ysgolion y clwstwr.

Mae’r Calendr Ymrwymiadau yn amlinellu’r agenda ar gyfer pob cyfarfod ac yn galluogi llywodraethwyr ar draws y clwstwr i ddewis pa gyfarfodydd sydd fwyaf cefnogol i’w rôl. Mae o leiaf dau gynrychiolydd ym mhob un o gyrff llywodraethol y clwstwr; mae hyn yn helpu sicrhau bod pob ysgol yn cael ei chynrychioli ac yn gwneud lledaenu o fewn pob ysgol yn bosibl.

Wrth benderfynu ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn, cesglir ystod o wybodaeth. Er enghraifft, mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Cwricwlwm i Gymru wedi bod yn ffocws ar gyfer datblygu a rhannu gwybodaeth. Y ffocysau eraill yn nodweddiadol yw’r rhai sydd wedi effeithio ar bob ysgol ar draws y clwstwr, fel cynlluniau pontio, toriadau ariannol a chynnydd ym medrau disgyblion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn rhwydwaith proffesiynol sydd wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a gonestrwydd, gydag awydd ar y cyd i ddarparu’r her a’r cymorth gorau i ysgolion er mwyn ymdrechu am welliant parhaus yr ysgol a deilliannau gwell ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Mae’r canlynol yn rhoi trosolwg o rai enghreifftiau a’r effaith y maent wedi’i chael ar arweinwyr a disgyblion.

Datblygu creadigrwydd a sut beth yw hyn yn ymarferol

Yn ystod cyfarfod yn nhymor yr hydref, rhannodd pob un o ysgolion y clwstwr gyflwyniad i’r Grŵp Gwella Llywodraethwyr ynghylch ‘Creadigrwydd yn y Cwricwlwm’. Yn unol ag adolygiad o gwricwlwm pob ysgol ac o ganlyniad i’r Cwricwlwm i Gymru, rhannodd pob ysgol fanylion am sut roeddent yn datblygu creadigrwydd a sut beth yw cynnydd mewn creadigrwydd yn eu hysgolion. Darparodd y sesiwn addysgiadol gyfle i lywodraethwyr gaffael gwybodaeth am gynllunio’r cwricwlwm, gofyn cwestiynau am wahanol arferion a chael dealltwriaeth ar y cyd o safbwyntiau pob ysgol. Y tymor dilynol, cynhaliwyd cyfarfod lle daeth ysgolion ag ystod o lyfrau a thystiolaeth ddigidol i ddangos sut roedd creadigrwydd yn cael ei ddatblygu gyda disgyblion. Rhoddodd hyn gyfle i lywodraethwyr edrych ar lyfrau a chynnydd disgyblion o ystod o ysgolion. Mae cael dealltwriaeth ar y cyd yn cryfhau gwybodaeth a medrau llywodraethwyr, gan gynyddu’r gallu a’r hyder i ofyn cwestiynau gwybodus, i herio a chynorthwyo arweinwyr.

Asesu a’r Cwricwlwm i Gymru

Mae cyfarfodydd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr yn cynnwys sesiynau hyfforddi a rhannu gwybodaeth. Rhannodd Ysgol Gymunedol Troedyrhiw wybodaeth am sut roeddent yn datblygu eu defnydd o asesiadau yn gysylltiedig â chynllunio’r cwricwlwm. Yn ystod y cyfarfod hwn, rhannwyd gwybodaeth ag aelodau’r grŵp am asesu a sut mae hyn yn cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru, a sut maent yn dangos tystiolaeth o gynnydd disgyblion trwy olrhain a monitro safonau. Roedd hon yn sesiwn hynod fuddiol i lywodraethwyr gan ei bod yn amlygu’r ymchwil a’r wybodaeth ddiweddar am arfer orau ar gyfer defnyddio a datblygu asesiadau i gefnogi cynnydd dysgwyr. Hefyd, rhannodd wybodaeth fanwl am safonau disgyblion, eu mannau cychwyn a sut mae arweinwyr yn defnyddio asesiadau i gynllunio ar gyfer cynnydd disgyblion. Datblygodd llywodraethwyr ddealltwriaeth o sut caiff asesiadau o ddydd i ddydd / parhaus eu defnyddio i lywio cynllunio, darparu dysgu personoledig ar gyfer disgyblion, a nodi hyfforddiant i uwchsgilio staff, yn ogystal ag olrhain cyflawniadau disgyblion.

Yn ogystal â gwybodaeth am sut mae Troedyrhiw yn defnyddio asesiadau parhaus, rhannodd yr ysgol fanylion am sut maent yn defnyddio asesiadau crynodol. Gan fod hwn yn faes newid i lawer o lywodraethwyr, roedd yn ddefnyddiol iddynt ddatblygu eu gwybodaeth am sut mae gwahanol fathau o asesiadau’n cynorthwyo arweinwyr wrth olrhain a monitro cynnydd disgyblion. Darparodd y sesiynau asesu gydbwysedd o ran sut y gellir defnyddio asesiadau crynodol ac asesiadau parhaus (ffurfiannol) i sicrhau barnau cywir a gweithdrefnau monitro ac olrhain cadarn yn llwyddiannus i gefnogi hunanwerthuso ysgol gyfan.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Derbyniodd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr wybodaeth gan y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yn Nhroedyrhiw a oedd yn darparu hyfforddiant diweddaru ar Ddeddf ADYTA. Cafodd llywodraethwyr gyfle i edrych ar Gynllun Datblygu Unigol (CDU) a Phroffil Un Dudalen dienw. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth glir iddynt o’r ddeddfwriaeth ac arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Wedyn, roedd llywodraethwyr yn gallu gofyn cwestiynau gwybodus am bolisi ac arfer yn eu hysgolion eu hunain. Hefyd, gall llywodraethwyr sy’n gynrychiolwyr ar eu grwpiau anghenion dysgu ychwanegol awdurdod lleol rannu eu harbenigedd wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ysgolion ar draws yr awdurdod.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Mae gan y Grŵp Gwella Llywodraethwyr rwydwaith digidol (trwy Hwb) lle caiff cofnodion cyfarfodydd a chyflwyniadau eu rhannu, a’u bod yn hygyrch i’r holl aelodau.
  • Mae’r pennaeth wedi rhannu gwaith y Grŵp Gwella Llywodraethwyr gydag ysgolion eraill y tu hwnt i’r clwstwr, ac o ganlyniad, mae Grwpiau Gwella Llywodraethwyr wedi cael eu sefydlu ar draws yr ALl erbyn hyn.
  • Gwahoddwyd cadeiryddion llywodraethwyr o ysgolion eraill nad ydynt yn cymryd rhan i fynychu cyfarfodydd y Grŵp Gwella Llywodraethwyr, a rhennir cylch gorchwyl i helpu rhoi cymorth iddynt ddatblygu eu Grwpiau Gwella Llywodraethwyr eu hunain.

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn