Gosod hawliau’r plentyn wrth wraidd datblygu’r cwricwlwm
Quick links:
Cyd-destun
Mae Ysgol Gynradd yr Hafod, sydd wedi’i lleoli mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf ddynodedig, yn gwasanaethu hen ardal ddiwydiannol ger canol dinas Abertawe, lle mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw o fewn y 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae 242 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 39 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin. Mae lleiafrif o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan rai ohonynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.
Mae tua hanner y disgyblion yn wyn Prydeinig, ac mae tua hanner ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Daw mwyafrif y disgyblion hyn o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg. Mae’r disgyblion yn siarad 15 o wahanol ieithoedd, a’r iaith fwyaf cyffredin o’r rhain yw Sylheti. Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad rhywfaint o Gymraeg gartref.
Cam 1: Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach
Er bod yr ysgol eisoes yn cynnig cwricwlwm arloesol, mae wedi arfarnu ei darpariaeth yn ddiweddar i sicrhau ei bod wedi’i pharatoi’n llawn ar gyfer newidiadau sydd ar fin digwydd. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r ysgol wedi ad-drefnu’r uwch dîm arweinyddiaeth i ymgorffori swydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu ar gyfer llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae wedi datblygu timau ac unigolion sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio’r chwe maes dysgu, yn ogystal â staff sydd â chyfrifoldeb am asesu ar gyfer dysgu a sicrhau parhad yn nysgu disgyblion rhwng tair ac un deg chwech oed. Er bod timau ar gyfer pob maes dysgu, nid yw’r ysgol yn galluogi staff i weithio ‘ar wahân’. Mae monitro a datblygiad staff effeithiol gan uwch arweinwyr, er enghraifft ar ddiwrnodau dysgu proffesiynol, yn sicrhau bod y cysylltiad rhwng meysydd dysgu yn aros.
Cam 2: Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid
Mae uwch arweinwyr, arweinwyr meysydd dysgu penodol a’u timau yn arfarnu’r cwricwlwm a’i effaith ar ddysgu trwy galendr wedi’i gynllunio’n ofalus o weithgareddau monitro. Mae’r rhain yn cynnwys craffu ar lyfrau, arsylwadau gwersi, ac, yn fwy diweddar, teithiau dysgu. Mae’r gwaith hwn wedi nodi camau nesaf clir a phriodol. Er enghraifft, mae’r tîm cymhwysedd digidol yn deall, er bod cyflwyniad a medrau creadigol disgyblion yn gryf, mai megis dechrau datblygu y mae agweddau ar waith o ran trin data.
Cam 3: Cyflawni newid
Mae’r ysgol yn croesawu’n llawn bedwar diben y cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), ac mae’n gweithio’n effeithiol i’w cyflawni. Mae ethos yr ysgol yn deillio o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). O’r man cychwyn hwn, mae’r ysgol wedi sefydlu set o 10 o werthoedd ar y cyd sy’n treiddio trwy ei gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys cariad, symlrwydd a goddefgarwch. Mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol iawn o grefyddau enwog a llai adnabyddus o bob cwr o’r byd i ysgogi dysgu. Mae’n gweithio’n arbennig o dda gydag ysgolion eraill yn rhyngwladol i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o fywydau plant eraill. Mae disgyblion o’r ysgol yn cynorthwyo plant eraill mewn amgylchiadau llai ffafriol i fanteisio ar eu hawliau yn unol â CCUHP. Er enghraifft, maent yn noddi disgyblion ac yn gweithio’n agos ag Ysgol Kabbila yn Affrica. Mae testunau hefyd yn cynnwys astudio pobl sydd wedi cael dylanwad cadarnhaol ar wella bywydau pobl eraill, er enghraifft Y Fam Theresa, Ghandi a Martin Luther King. Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn golygu bod disgyblion yn cael pob cyfle i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus.
Mae datblygu’r cwricwlwm yn yr ysgol yn sicrhau bod athrawon yn manteisio’n llawn ar gyd-destunau lleol gwerthfawr ar gyfer dysgu i alluogi disgyblion i ddatblygu a chymhwyso medrau yn eu cyd-destun. Er enghraifft, mae prosiect ‘Copperopolis’ yn defnyddio’r hanes lleol cyfoethog am gloddio am gopr yn ardal yr Hafod yn Abertawe. Mae pob testun yn dechrau ag ymweliad addysgol neu brofiad trochi. Er enghraifft, bu’r disgyblion ym Mlwyddyn 5 yn cerdded ar hyd ‘Llwybr y Gweithfeydd Copr’ yn yr Hafod â phadiau braslunio, dyfeisiau llechen a chlipfyrddau i ddefnyddio ffynonellau dilys o dystiolaeth hanesyddol i ysgogi gweithgareddau llythrennedd, rhifedd a chreadigol. Mae disgyblion yn gwneud defnydd hynod effeithiol o dechnoleg sgrin werdd i gofnodi a chyflwyno eu gwaith. Mae disgyblion hŷn yn cydweithio’n dda ar dasgau o’r fath, gan ddangos yr agweddau y mae’r ysgol yn eu hannog ganddynt.
Ceir pwyslais cryf ar ddatblygu gwerthfawrogiad disgyblion o’r celfyddydau creadigol. Mae prosiectau fel ‘tynnu un llun’ yn datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad disgyblion o gelf yn llwyddiannus. O fewn y gwaith hwn, mae disgyblion yn astudio’r llun a ddewiswyd o safbwynt yr arlunydd, yr hanesydd a’r addysgwr. Mae hyn yn hyrwyddo dysgu effeithiol, er enghraifft trwy ddefnyddio’r adeiladau yn y lluniau fel symbyliad ar gyfer gwaith mathemateg ar siapiau tri dimensiwn. Arweiniodd y prosiect hwn at greu’r oriel gelf yn neuadd yr ysgol, sef arddangosfa o waith celf enwog ar raddfa fawr. Mae’r ysgol yn defnyddio’r oriel yn dda iawn i gefnogi dysgu. Mae safon gwaith celf disgyblion yn uchel ar y cyfan, ac mae’n elwa ymhellach ar addysgu arbenigol yn ystod amser cynllunio, paratoi ac asesu athrawon eraill. Mae’r gwaith hwn yn datblygu dyheadau disgyblion yn dda. Mae’n eu cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o’r angen i ddyfalbarhau i lwyddo.