Galluogi disgyblion i ddod yn ddysgwyr annibynnol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Mynach yn gwasanaethu pentref Pontarfynach a’r ardal gyfagos yn nalgylch Aberystwyth, Ceredigion. Mae 33 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, wedi eu trefnu mewn dau ddosbarth. Cymraeg yw prif iaith yr ysgol ac mae tua 33% o’r disgyblion o gartrefi ble’r Gymraeg yw prif iaith. Mae gan tua 15% o’r disgyblion anghenion addysg arbennig ac mae tua 6% yn derbyn prydiau ysgol am ddim. Mae’r Pennaeth yn gofalu am ddwy ysgol gyfagos (Ysgol Pontrhydfendigaid ac Ysgol Syr John Rhys). Cafodd yr ysgol ei harolygu ym mis Mai 2019.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol
Mae’r ysgol yn dathlu’r ffaith ei bod yn ysgol fach wledig sy’n darparu addysg o safon uchel gan hyrwyddo ymdeimlad cryf iawn o berthyn a chymuned. Un o brif heriau ysgolion bach yw’r dosbarthiadau oedran cymysg, sy’n cynnwys 4 grŵp blwyddyn a’r ystod eang iawn o lefelau gallu. Penderfynodd yr ysgol i hybu strategaethau byddai’n annog hyder ac annibyniaeth y disgyblion yn eu dysgu gan feithrin dysgwyr annibynnol, uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
Er mwyn i’r athrawon fedru canolbwyntio a chodi safonau grwpiau penodol o ddysgwyr, mabwysiadwyd nifer o strategaethau fyddai’n galluogi y disgyblion i ddatblygu’n ddysgwyr annibynnol.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r weithgaredd
Mae’r strategaethau amrywiol i annog disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol yn cynnwys gosod nodau i’w gwaith, pennu meini prawf llwyddiant ac asesu eu cynnydd eu hunain. Mae hyn yn arwain at fedru hunan reoli eu cymhelliant at ddysgu ac yn eu harfogi i gymryd cyd gyfrifoldeb am y ffordd ymlaen.
Y disgyblion sy’n arwain y cynllunio ac yn dewis themâu ar gyfer astudio yn dymhorol. Mae llais y disgybl yn cael lle amlwg o fewn yr ysgol ac mae’r athrawon yn gwrando ac yn gweithredu ar syniadau a chwestiynau ymchwiliol disgyblion. Mae hyn yn magu diddordeb y disgyblion yn y dysgu o’r cychwyn cyntaf ac yn rhan allweddol o feithrin dysgwyr annibynnol.
Mae’r athrawon a’r disgyblion wedi cyd-gynllunio’r polisi marcio ac mae’r disgyblion yn hunan asesu ac yn asesu cyfoedion yn aeddfed. Mae meithrin disgyblion i allu rhoi adborth adeiladol i’w gilydd yn gymorth iddynt ddatblygu medrau meddwl dadansoddol. Mae bron pob disgybl yn ymateb yn bositif iawn i hyn.
Y cam nesaf er mwyn hyrwyddo annibyniaeth y disgyblion oedd datblygu cynllun ‘Dysgu Dawnus’ yng nghyfnod allweddol 2 sy’n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion arwain y dysgu yn wythnosol. Fesul pâr, mae’r disgyblion yn cynllunio, paratoi a chyflwyno gwersi. Mae’r gwrthdroi rôl hwn yn rhoi cymhelliant i’r disgyblion baratoi’n drylwyr er mwyn esbonio a throsglwyddo’r wybodaeth yn effeithiol i’w cyfoedion. Daw’r disgyblion i ddeall mai’r allwedd i egluro’n well yw deall yn ddyfnach. Mae cael yr empathi wrth wrthdroi rôl fel hyn yn arwain at gyfoethogi a gwella adnabyddiaeth unigolion o’i gilydd. Mae’r disgyblion wrth eu boddau yn gwneud hyn ac yn cymryd y peth hollol o ddifri. Maent yn cael chwarae rôl, yn meithrin perthynas ddysgu fwy hamddenol rhyngddynt a’i gilydd ac yn annog twf emosiynol yn ogystal â datblygiad deallusol o’r broses addysgu a dysgu.

Mae’r ‘Dysgu Dawnus’ wedi profi’n llwyddiant ysgubol ac erbyn hyn yn un o uchafbwyntiau dysgu’r wythnos. Mae’r athrawes a’r disgyblion yn dysgu rhywbeth newydd bob tro ac mae’n sicr yn rhoi chwa o awyr iach i’r gwersi! Mae hyd yn oed y rhieni yn awyddus i fod yn rhan o’r dysgu ac yn rhoi cymorth i’r disgyblion wrth baratoi gwersi.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae’r athrawon yn rhoi cyfleoedd eang i ddisgyblion gymhwyso eu medrau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn, a chryfder y ddarpariaeth ar gyfer cymhwysedd digidol o fewn yr ysgol yn rhan allweddol o ddatblygu annibyniaeth a dyfalbarhad pob disgybl.
Mae’r disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu. Yn y cyfnod sylfaen, maent yn ymroi i’r heriau yn eiddgar wrth ddewis ffyrdd ei hunain o gyflwyno’r gwaith, er enghraifft yn ysgrifenedig, ar lafar, yn greadigol neu’n ddigidol. Mae disgyblion cyfnod allweddol 2, o bob gallu, yn llwyddo i gyflwyno gwersi o ansawdd uchel ac yn cael eu hannog i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan ddatblygu eu syniadau eu hunain, yn hytrach nag edrych i’r athrawes am arweiniad. Gwelir bod y disgyblion yn llwyddo i ddangos parch a diddordeb tuag at hamgylchedd, eu diwylliant a’u treftadaeth.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Er mwyn rhannu arferion da mae’r ysgol wedi sefydlu system ‘Pedwarawdau Dysgu’ gyda’r ddwy ysgol arall sydd yn rhan o’r ffederasiwn. Mae athrawon a llywodraethwyr y 3 ysgol yn cyd-arsylwi gwersi, yn monitro a chymedroli llyfrau ar y cyd ac yn cynnal teithiau dysgu yn dymhorol. Mae hyn wedi codi safonau dysgu ac addysgu ar draws yr ysgolion ac yn gyfle gwych i rannu arbenigedd ac arfer dda wrth ddatblygu annibyniaeth pob disgybl.
Mae’r disgyblion yn hyderus wrth deithio ar draws y tair ysgol i gyflwyno gwersi i ddisgyblion eraill. Mae rhannu arfer dda gyda disgyblion ac athrawon ysgolion cynradd cyfagos wedi cryfhau annibyniaeth disgyblion ar draws ysgolion y ffederasiwn a thu hwynt. Mae nifer o athrawon ysgolion cynradd yr awdurdod yn dechrau efelychu ‘Dysgu Dawnus’ yn eu hysgolion nhw.