Fe Rown Ni Adenydd Iddyn Nhw, a Bydd Ein Crehyrod yn Hedfan: Ein Taith i Ddiwygio’r Cwricwlwm

Arfer effeithiol

Heronsbridge School


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Heronsbridge yn ysgol breswyl arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 19 oed. Mae bron pob un o’r disgyblion yn mynychu bob dydd. Ar hyn o bryd, mae 266 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 240 aelod o staff. Mae gan lawer o ddisgyblion naill ai ddatganiad o anghenion arbennig neu gynllun datblygu unigol (CDU) awdurdod lleol. Mae gan ddisgyblion yn yr ysgol amrywiaeth o anghenion, yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl), anawsterau dysgu difrifol (ADD) ac anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA). Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n adrannau cynradd, uwchradd, ôl-16, a cheir canolfan ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran sydd wedi cael diagnosis cychwynnol o awtistiaeth ac anghenion cymhleth. Mae 41% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim. Mae cyfraddau presenoldeb tua 91%.

Mae gan yr ysgol weledigaeth sefydledig, sef, ‘Fe Rown Ni Adenydd Iddyn Nhw, a Bydd Ein Crehyrod yn Hedfan’, a gwerthoedd cryf, sy’n cael eu rhannu gan yr holl staff a rhanddeiliaid. Mae’r rhain yn gosod y disgyblion yn gadarn wrth wraidd popeth sy’n digwydd yn yr ysgol. Mae ‘Gyda’n gilydd, gallwn ni’ wedi’i ymgorffori’n ddwfn ym mhopeth sy’n digwydd ar draws yr ysgol. Mae’r ysgol yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau, yn Ysgol Blatinwm Buddsoddwyr mewn Pobl ac yn Ysgol Ddiemwnt Buddsoddwyr mewn Teuluoedd. O ganlyniad, mae gan bob un o’r staff ddisgwyliadau a dyheadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Er 2016, roedd yr ysgol yn arloesi yn y cwricwlwm, ac ar ôl hynny, fe wnaeth dreialu a mireinio’i thaith i ddiwygio’r cwricwlwm. Mae wedi gwneud hyn trwy ymgorffori model ymholi, gan fyfyrio ar anghenion disgyblion a chyfeirio at ganllawiau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, a chysoni ei gwaith â nhw, gan gynnwys y dyheadau yn Cenhadaeth ein Cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb.

Dechreuodd y cyfan trwy droi’r pedwar diben i sut beth ydynt ar gyfer disgyblion, gan sicrhau eu bod wrth wraidd popeth a wna’r ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dechreuwyd cynllunio cwricwlwm yr ysgol trwy greu grŵp ymholi â gofyn y cwestiwn “Sut ydym ni’n ymgorffori’r 4 diben yn Heronsbridge?” iddynt. Crëwyd rhithffurfiau crehyrod, yn ymgorffori’r pedwar diben a’r weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm. Helpodd y disgyblion ddatblygu fersiwn sy’n addas i ddisgyblion, a ddefnyddir mewn gwersi i ymgorffori eu dealltwriaeth.

Datblygodd yr ysgol gylch pedair blynedd o destunau oedd â digon o gwmpas a chyffro i rychwantu’r ysgol gyfan (4-19). Llwyddodd gweithdai i ddisgyblion ar y cwricwlwm i fanwl gyweirio’r cynllun testunau hwn, wrth i ddisgyblion ddweud beth hoffent ei ddysgu. Dywedodd adborth o weithdai i rieni a llywodraethwyr wrth yr ysgol eu bod yn cymeradwyo’r cynigion ac “yn ymddiried ym mhrosesau gwella’r ysgol”.

Cafodd pob testun tymhorol ei fapio, gan sicrhau ehangder ac ymdriniaeth â meysydd dysgu a phrofiad, datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a medrau trawsgwricwlaidd. Trwy fapio dilyniant o fewn y testunau, sicrhawyd bod pob testun yn cynnal lefelau uchel o gymhelliant ac ymgysylltiad dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen trwy’r ysgol.

Trwy weithio ar draws y pedair adran, mae grwpiau athrawon meysydd dysgu a phrofiad yn cyfarfod bob tymor i lunio cyngor ar destunau ar gyfer yr ysgol gyfan. Mae dysgwyr yn elwa ar fodel dilyniant profiad, medrau a gwybodaeth, sy’n cydnabod bod cyfoeth y profiad dysgu yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu mewn dysgu. Mae hon yn broses barhaus ac yn un sy’n parhau i esblygu. Y canlyniad dymunol yw creu cynllunio sy’n ddatblygiadol ar draws profiad, medrau a gwybodaeth, ac yn bodloni proffiliau dysgwyr hefyd. Crëwyd grwpiau ymholi â themâu trawsgwricwlaidd i ddatblygu’r themâu hyn ac mae athrawon yn cyfarfod bob tymor i roi cyngor.

Caiff cynnydd disgyblion unigol ei fapio trwy deithiau dysgu, sy’n cael eu cymryd o asesiadau crynodol a chyfarfodydd cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae athrawon yn dangos tystiolaeth o gynnydd tymhorol yn erbyn pob un o bum targed y cynllun gweithredu i grynhoi taith ddysgu unigol, ac mae disgyblion yn hunanasesu, lle bo’n briodol.

Mae’r model ysgolion fel sefydliadau dysgu yn ategu holl brosesau gwella’r ysgol. Mae ethos ymholi cyfoethog yr ysgol yn gyrru ei chwricwlwm, gan greu cefnogaeth a sybsidiaredd. Mae dysgu proffesiynol yn cyd-fynd yn gryno â chynllun gwella’r ysgol, gan sicrhau bod staff wedi eu harfogi’n dda i ddiwallu anghenion amrywiol y dysgwyr yn llawn.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Trwy olrhain, gall yr ysgol ddangos bod disgyblion yn parhau i wneud cynnydd cryf, nid yn unig o’u mannau cychwyn, ond hefyd o gymharu â normau proffil dysgu hanesyddol. Mae’r ysgol yn defnyddio strategaeth marcio ac asesu mewn dysgu ‘Brilliant Blue and On The Way Orange’, sy’n cynorthwyo disgyblion i ddod yn ymwybodol o’u cynnydd. Lle y gallant, mae rhai disgyblion yn hunanasesu, ac ychydig ohonynt yn asesu cyfoedion. Mae’r disgyblion yn hapus, mae ganddynt ragolwg cadarnhaol ar ddysgu ac maent wedi eu paratoi’n dda ar gyfer eu camau nesaf mewn bywyd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymchwil, cydweithio a chyd-greu wedi chwarae rhan hanfodol yn nhaith y cwricwlwm ac wedi llywio’r cynllunio ym mhob cam. Mae athrawon a’r uwch dîm arweinyddiaeth yn gweithio gyda staff o ysgolion clwstwr i ddatblygu mapiau dilyniant a ffyrdd rhyngddisgyblaethol o weithio. Mae cyfarfodydd rhwydwaith wedi bod yn hynod fuddiol ac addysgiadol, ym marn yr ysgol. Mae uwch arweinwyr yn aelodau o Rwydwaith Dilyniant ac Asesu Ysgolion Arbennig Cymru Gyfan, lle mae gwaith ar draws consortia ar ddilyniant ac asesu mewn ysgolion arbennig yn cael ei ddatblygu. Mae uwch arweinwyr wedi cymryd rhan mewn cynllunio rhaglen map dilyniant i gynorthwyo ymarferwyr ar draws rhanbarth Consortiwm Canolbarth y De.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn