Esblygu dulliau dysgu cyfunol mewn ysgolion annibynnol

Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut mae ysgolion annibynnol prif ffrwd wedi gwerthuso a mireinio dulliau dysgu cyfunol. Mae’n crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn ymgysylltu a wnaed ag 10 o ysgolion prif ffrwd annibynnol rhwng rhan olaf mis Ebrill a hanner cyntaf mis Mai 2021. Hefyd, mae’r adroddiad yn defnyddio’r dystiolaeth a gasglwyd yn dilyn rhaglen gynharach Estyn o alwadau ymgysylltu a chyfathrebiadau cysylltiedig, fel cyfarfodydd rhanddeiliaid. Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar wybodaeth a drafodwyd yn ystod sgyrsiau ffôn gyda phenaethiaid ac uwch arweinwyr yr ysgolion ac mae’n canolbwyntio ar:

  • y broses fonitro a ddefnyddiwyd i fyfyrio ar eu darpariaeth dysgu cyfunol
  • heriau y maent wedi’u hwynebu
  • newidiadau y maent wedi’u gwneud.

Mae’ adroddiad yn cynnwys cameos o arfer sy’n dod i’r amlwg o ran datblygu, monitro a gwerthuso dulliau dysgu o bell a dysgu cyfunol.


Darparwyr dan sylw

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn