Esblygu arferion y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2 yn cynhyrchu cwricwlwm arloesol

Arfer effeithiol

Ysgol Heulfan


Cyd-destun

Mae Ysgol Heulfan yng Ngwersyllt ger Wrecsam.  Ar hyn o bryd, mae 380 o ddisgyblion, gan gynnwys 40 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin.  Mae 15 dosbarth yn yr ysgol, sy’n cynnwys canolfan adnoddau arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg fel iaith eu cartref.  Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae ychydig iawn ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn y trefniadau hunanarfarnu ehangach

Yn dilyn arfarniad trylwyr o’r cwricwlwm presennol, daeth arweinwyr i’r casgliad fod medrau ac arferion dysgu disgyblion sy’n dechrau yng nghyfnod allweddol 2 yn wahanol i rai carfanau blaenorol, o ganlyniad i ddysgu trwy athroniaeth y cyfnod sylfaen.  Roeddent yn fwy annibynnol ac yn meddu ar allu cynyddol i gyfarwyddo eu dysgu eu hunain.  Er mwyn parhau i ddatblygu’r ymddygiadau hyn a bodloni anghenion disgyblion, bu’r ysgol yn arbrofi â pharthau dysgu.  I ddechrau, roedd y gwaith hwn wedi’i gyfyngu i ddosbarth cymysg Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3.  Trwy fonitro’r addysgu a’r dysgu ymhellach, nodwyd lefelau uchel o ymgysylltiad a chymhelliant disgyblion, a safonau uchel o waith yn y parthau dysgu, felly estynnodd arweinwyr y ddarpariaeth hon i bob dosbarth yng nghyfnod allweddol 2. 

Trwy arfarnu’r cwricwlwm presennol, dangoswyd bod darpariaeth effeithiol y cyfnod sylfaen yn fan cychwyn allweddol i ddatblygu addysgeg yr ysgol ar gyfer addysgu a dysgu.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid – parthau dysgu

Mae athrawon yn Heulfan yn cynllunio gweithgareddau pwrpasol sy’n cael eu trefnu’n ofalus yn feysydd dysgu a phrofiad sy’n cyd-fynd â’r rheiny a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Maent yn amlinellu adnoddau ysgogol yn y meysydd hyn sy’n gweddu i anghenion a diddordebau disgyblion yn dda fel bod gweithgareddau’n adlewyrchu’r testunau a gwmpesir ar hyn o bryd neu a gwmpaswyd yn y dosbarth yn y gorffennol.  Mae hyn yn annog disgyblion i atgyfnerthu eu medrau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mewn ystod eang o gyd-destunau.  Mae enghreifftiau’n cynnwys y Gofod, Anturiaethwyr ac Archwilwyr a Siocled.  Yn gyffredinol, mae disgyblion yn dewis pa faes yr hoffent weithio ynddo, er enghraifft y meysydd mathemateg neu ddigidol.  Mae staff yn monitro gwaith disgyblion yn ofalus i sicrhau eu bod yn elwa ar ystod eang o brofiadau ac yn cynhyrchu gwaith o safon briodol o uchel.  Mae disgyblion hefyd yn dewis p’un a ydynt yn ymgymryd â gwaith prosiect annibynnol neu’n ymateb i heriau.  

Mae’r parthau dysgu ar gael i ddisgyblion bob adeg o’r dydd.  Er enghraifft, nid oes rhaid i ddisgyblion fynd y tu allan amser egwyl.  Yn hytrach, gallent ddewis ymweld â’r gampfa a’r ardaloedd chwarae meddal, i chwarae ag adnoddau a gynigir neu barhau â gwaith prosiect.  Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion chwarae yng nghyfnod allweddol 2.  Mae’r ysgol yn defnyddio ymchwil a cheisiadau disgyblion i ddarparu teganau ac adnoddau addas mewn blychau chwarae. 

Mae’r ysgol wedi newid ei strwythur staffio i gefnogi datblygu’r cwricwlwm a gwella addysgu a dysgu.  Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cynnwys pennaeth a thri phennaeth cynorthwyol sydd â chydbwysedd da o gyfrifoldebau adrannol ac ysgol gyfan.  Mae ganddynt rôl allweddol o ran cynorthwyo staff eraill i gyflawni’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd o ran addysgu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. 

Mae gan un pennaeth cynorthwyol gyfrifoldeb cyffredinol am gynllunio’r ysgol.  Mae hyn yn cefnogi parhad a dilyniant effeithiol a lefelau uchel o hyblygrwydd mewn cyflwyno’r cwricwlwm sy’n ymateb yn dda i anghenion a diddordebau disgyblion.  Mae’r ymagwedd hon wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn ‘cynllunio papur’ ar gyfer athrawon dosbarth ac wedi eu galluogi i feddwl am weithgareddau heriol addas y bydd disgyblion yn eu mwynhau.

Nodweddion cynllunio allweddol y mae’r ysgol wedi eu newid:

  • Nid oes amserlenni ffurfiol ar gyfer gwersi – mae disgyblion yn parhau â phrofiadau dysgu sy’n ennyn eu diddordeb am gyfres o wersi, yn hytrach na symud ymlaen i weithgaredd arall i fodloni amserlen a arweinir gan gynnwys.
  • Caiff meysydd dysgu eu mapio’n ofalus i sicrhau ymdriniaeth lawn â’r cwricwlwm a’u bod yn cael eu haddysgu mewn blociau a allai bara sawl wythnos.
  • Ceir ymagwedd ysgol gyfan thematig at gynllunio sy’n ymwneud yn agos iawn â chyd-destunau bywyd go iawn.
  • Mae’r ysgol gyfan yn dilyn yr un prif destun ar unrhyw adeg benodol.
  • Mae gweithgareddau’n cynnwys cyfleoedd helaeth ar gyfer dysgu pwrpasol yn yr awyr agored i ddatblygu medrau a dealltwriaeth o gysyniadau.
  • Yn dilyn ymgynghori â disgyblion, mae athrawon a staff eraill yn cynllunio gweithgareddau y byddai disgyblion yn eu mwynhau.
  • Mae’r pennaeth cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb am gynllunio yn coladu syniadau i greu cynllun ysgol gyfan.
  • Ar ddechrau pob thema newydd, cynhelir diwrnod ‘Man Dechrau’.  Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau fel blasu bwyd a helfeydd trysor.  Cynhelir digwyddiad ‘Man Gorffen’ hefyd i ddathlu dysgu a chyflawniadau disgyblion, a myfyrio arnynt.  Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau fel sioeau ffasiwn, creu amgueddfa, neu weithgareddau marchnad i werthu cynnyrch disgyblion.
  • Yn ogystal â’r themâu hyn, mae pob grŵp blwyddyn yn dysgu am gyfnod hanesyddol penodol, ffydd a gwlad dramor.  Mae disgyblion yn gwneud cysylltiadau rhwng testunau, fel byw yn iach a’r wlad y maent yn dysgu amdani, yn aml trwy ymchwil annibynnol.  Er enghraifft, maent yn dysgu am fyw yn iach ym Mhacistan neu Ffrainc ac yn cymharu hyn â Chymru.

Cam 3:  Cyflawni newid – Arddulliau addysgu ac addysgeg i gefnogi’r pedwar diben

Mae arweinwyr yr ysgol wedi cynorthwyo staff yn effeithiol ar bob lefel i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o sut gellir cynnwys y pedwar diben yng ngwaith yr ysgol.  Yn ychwanegol, mae’r strwythur staffio yn cynnwys timau sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.  Mae gan bob tîm arweinydd sydd â chyfrifoldeb am arsylwi gwersi, dadansoddi gwybodaeth am berfformiad a nodi’r camau nesaf ar gyfer gwella.  Ar draws yr ysgol, ceir llawer o nodiadau atgoffa gweledol ar gyfer staff a disgyblion am ddibenion y cwricwlwm ac addysgu a dysgu.

Mae cyfarfodydd staff rheolaidd yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddiwygio’r cwricwlwm.  Maent yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer trafodaethau am y theori y tu ôl i ymagweddau at addysgu.  Er enghraifft, mae ymchwil ryngwladol o’r Ffindir yn annog athrawon a disgyblion i roi cynnig ar syniadau ac ymagweddau newydd trwy roi chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd wrth wraidd y dysgu.

Mae arweinwyr yn gwneud yn siwr fod athrawon yn defnyddio strategaethau addysgu profedig yn effeithiol.  Er enghraifft, maent yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer addysgu a dysgu rhwng cyfoedion mewn gwersi ar y cyd ar gyfer disgyblion y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Mae cyfleoedd o’r fath yn cyfrannu’n dda at gyflawni’r pedwar diben, er enghraifft trwy alluogi disgyblion hŷn i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.  Nid yw sesiynau dysgu unigol yn para mwy na 45 munud.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r addysgu a’r dysgu’n symud yn gyflym.  Mae athrawon yn defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn dda i sicrhau bod disgyblion yn glir ynglŷn â diben eu dysgu.  Maent yn darparu cydbwysedd da o ran addysgu uniongyrchol, gwaith pâr a grŵp mewn sesiynau strwythuredig.  Er enghraifft, maent yn addysgu medrau ffonolegol a mathemateg yn uniongyrchol i gwmpasu cynnwys hanfodol a datblygu medrau.  Maent yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso’r medrau hyn mewn parthau dysgu trwy gydol y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2. 

Mae athrawon yn defnyddio cynllun thematig yr ysgol gyfan i roi cyd-destun ar gyfer dysgu.  Defnyddiant wybodaeth asesu disgyblion yn bwrpasol ac yn effeithiol i gynllunio gwersi sy’n herio pob un o’r disgyblion i gyflawni’n dda.  Mae hyn yn cynnwys darpariaeth i gynorthwyo disgyblion i symud ymlaen â medrau a amlinellir yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ac yn fwy diweddar, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.  Mae disgyblion, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2, yn meddu ar ddealltwriaeth glir o’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella’u medrau allweddol, er enghraifft i wella ansawdd eu hysgrifennu.

Yn ogystal â’r cynllunio thematig, mae’r ysgol wedi cyflwyno cyfres o ‘Ddiwrnodau Dysgu Arbennig’.  Mae testunau wedi cynnwys datrys problemau trwy ‘Laniad Estroniaid’ a’r ‘Fforest Law’.  Mae pob diwrnod yn dechrau â gweithgaredd ‘Deffro a Symud’ (Wake Up, Shake Up) a chyflwyniad ysbrydoledig, er enghraifft gan ddarlithwyr prifysgol.  Mae profiadau o’r fath wedi rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu huchelgeisiau eu hunain a nodi beth mae angen iddynt eu gwneud i’w cyflawni.

Mae dull yr ysgol o ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn cefnogi datblygiadau diweddar i’r cwricwlwm ac addysgeg yn arbennig o dda.  Mae arweinwyr yn cynllunio cyfleoedd gwerthfawr i bob un o’r rhieni weithio gyda’u plentyn yn yr ysgol bob blwyddyn.  Mae bron pob un o’r rhieni’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn frwdfrydig.  Er enghraifft, maent yn coginio gyda’u plant fel rhan o’r prosiect bwyta’n iach.  Mae’r ysgol hefyd yn cynnig teithiau dysgu i rieni rannu datblygiadau’r cwricwlwm a’u helpu i gynorthwyo eu plant â’u dysgu. 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn