Ennyn diddordeb pob disgybl yn y Gymraeg - Estyn

Ennyn diddordeb pob disgybl yn y Gymraeg

Arfer effeithiol

Greenfield Special School


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Greenfield yn ysgol arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Merthyr Tudful.  Mae 178 o ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed ar y gofrestr.  Mae gan bob un o’r plant ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ar gyfer anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anhwylder ar y sbectrwm awtistig neu anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Mae’r pennaeth a’r uwch dîm rheoli wedi bod yn eu swydd ers Medi 2014.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae cyfeiriad strategol clir ar gyfer yr ysgol gan y pennaeth a’r uwch dîm rheoli, ac maent yn darparu profiadau dysgu cadarnhaol o ansawdd uchel i ddisgyblion.  Maent yn hyrwyddo diwylliant o ddyheadau a disgwyliadau uchel i’r holl staff a disgyblion.  Croesawodd uwch arweinwyr yr her i wella datblygiad Cymraeg disgyblion a’u hannog i ddefnyddio’r iaith yn rheolaidd.  Daeth y gwelliannau uchelgeisiol hyn yn flaenoriaethau strategol i staff a llywodraethwyr yr ysgol.

Natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Y man cychwyn ar gyfer cynllunio’r gwelliannau hyn oedd deilliannau prosesau sicrhau ansawdd yr ysgol ei hun.  Amlygodd y prosesau hyn yr angen i newid diwylliant, yr angen am ymrwymiad llawn gan staff a mwy o hyder ymhlith y staff os oedd yr ysgol i gyflawni ei thargedau uchelgeisiol.  O ganlyniad, dros y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi pwyslais arbennig ar ehangu’r cyfleoedd i staff a disgyblion ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio’u medrau Cymraeg yn hyderus ac yn falch o amgylch yr ysgol, a hyrwyddo cyfleoedd buddiol i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth Cymru.

Diwylliant ac ethos

Mae arweinwyr ar bob lefel yn Ysgol Greenfield yn hyrwyddo cymuned gynhwysol a gofalgar iawn sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi pob un o’i disgyblion a staff.  Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘agor drysau i’r dyfodol’, yn treiddio’n llwyddiannus trwy bob agwedd ar ei gwaith.  Mae arweinwyr wedi datblygu diwylliant cadarnhaol o welliant parhaus ar draws yr ysgol, ac mae’r agwedd at y Gymraeg yn rhagorol. 

Mae dealltwriaeth drylwyr gan yr holl staff o gyfeiriad strategol a gwerthoedd yr ysgol mewn perthynas â datblygiad y Gymraeg, ac maent yn adlewyrchu’r rhain yn dda drwy eu gwaith eu hunain.  Mae hyn yn helpu hyrwyddo’r ethos cadarnhaol iawn yn yr ysgol ac yn cyfrannu at gynnydd helaeth y mae bron pob disgybl yn ei wneud yn eu medrau Cymraeg mewn perthynas â’u hanghenion, eu galluoedd a’u mannau cychwyn.

Hyfforddiant a chefnogaeth staff

Mae trefniadau effeithiol iawn a sefydledig yr ysgol ar gyfer sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad yn galluogi uwch arweinwyr i nodi anghenion datblygiad proffesiynol unigol a’r ysgol gyfan yn dda.  Mae’r rhain yn cysylltu’n dda â’r cynllun gwella ysgol a’r cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy’n cael eu cynnig i’r holl staff, yn cynnwys yr ystod eang o staff cymorth sy’n gweithio yn yr ysgol.  Mae hyfforddiant Cymraeg wedi’i deilwra i anghenion yr ysgol a’r unigolion.  Buddsoddodd yr ysgol yn drwm mewn hyfforddiant cychwynnol ysgol gyfan i gyflwyno geiriau ac ymadroddion Cymraeg sylfaenol.  Cefnogwyd staff i fynychu rhagor o gyrsiau i ddatblygu’u hyder a gwella ansawdd Cymraeg llafar o amgylch yr ysgol.  Ceir trefniadau mentora a hyfforddi a werthfawrogir yn fawr i’r holl staff, gan gynnwys staff cyflenwi.  O ganlyniad, mae staff yn ymarfer eu Cymraeg yn hyderus gyda chydweithwyr a disgyblion. 

Addysgu ac asesu

Yn Ysgol Greenfield, nid oes unrhyw ddisgyblion wedi’u datgymhwyso o ddysgu Cymraeg.  Mae athrawon yn cynllunio tasgau diddorol a difyr mewn gwersi sy’n cyfateb yn dda i anghenion, galluoedd a mannau cychwyn disgyblion.  Cynigir cyfleoedd helaeth i ddisgyblion ymarfer eu medrau Cymraeg mewn gwersi ac o amgylch yr ysgol.

Er mwyn datblygu medrau Cymraeg disgyblion ymhellach, mae’r ysgol wedi cydnabod yr angen i olrhain cynnydd disgyblion mewn Cymraeg yn fwy effeithiol.  O ganlyniad, mae staff yn datblygu system olrhain data gadarn i fonitro’r camau cynnydd bach y maent yn eu gwneud dros gyfnod.  Defnyddir y system arloesol hon yn dda gan staff i gynllunio ar gyfer dilyniant ac i ddarparu her ddigonol, yn enwedig i’r disgyblion mwy abl.  Lle bo’n briodol, mae staff a disgyblion yn gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer gwelliannau mewn Cymraeg, a chaiff y rhain eu monitro’n effeithiol gan uwch arweinwyr fel rhan o’r cylch sicrhau ansawdd.  Mae gweithdrefnau cadarn ar gyfer olrhain cynnydd disgyblion wedi galluogi’r uwch dîm arwain i nodi anghenion datblygiad proffesiynol yr holl staff yn barhaus.  Mae hyn yn cynorthwyo staff i gyflwyno gwersi addas o heriol sy’n diwallu’r ystod eang o anghenion yn yr ysgol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gwerthoedd a’r blaenoriaethau dynodedig wedi helpu creu diwylliant ac ethos cadarnhaol yn yr ysgol.  Gwneir cynnydd cadarn yn eu dysgu gan bron pob disgybl o’u mannau cychwyn ac mewn perthynas â’u hanghenion a’u galluoedd unigol.

Mae bron yr holl ddisgyblion yn gwneud cynnydd helaeth yn eu medrau Cymraeg mewn perthynas â’u hanghenion, eu galluoedd a’u mannau cychwyn.  Maent yn adnabod ac yn defnyddio geiriau Cymraeg yn hyderus i gyfarch staff, ymwelwyr a’i gilydd.  Mae lleiafrif o ddisgyblion yn defnyddio ystod eang o ymadroddion i ddisgrifio’u teimladau, i siarad am yr hyn maent yn ei ddysgu ag i ganfod gwybodaeth am ymwelwyr.  Gall ychydig o ddisgyblion ymhelaethu ar eu hatebion a gofyn cwestiynau treiddgar yn Gymraeg yn hyderus.  Mae disgyblion yn defnyddio’u medrau Cymraeg yn hyderus ac yn falch o amgylch yr ysgol.