Elwa ar lais y disgybl i greu strategaethau gwrth-fwlio effeithiol
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Gynradd Sirol yr Hendy ym Mhentref yr Hendy ger Llanelli, Sir Gaerfyrddin, ac mae’n gwasanaethu’r pentref a’r ardal gyfagos.
Mae 164 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar gofrestr yr ysgol, gan gynnwys pump o ddisgyblion meithrin.
Mae tua 10% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae anghenion dysgu ychwanegol gan ryw 16% o ddisgyblion, ac mae hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae datganiadau o anghenion addysgol gan ychydig iawn o ddisgyblion.
Daw tua 29% o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Cymraeg. Mae’r ysgol yn darparu addysg trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg mewn dwy ffrwd ar wahân. Ceir pedwar dosbarth yn y ffrwd Gymraeg a thri dosbarth yn y ffrwd Saesneg. Mae disgyblion yn y ffrwd Saesneg yn dysgu Cymraeg fel ail iaith. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Yn dilyn cyfnod anodd pan gafodd yr ysgol ei thynnu o’r categori, ‘angen gwelliant sylweddol’, dechreuodd pennaeth newydd ar ei swydd ym Medi 2014.
Fe wnaeth cyfarfod ffocws cychwynnol gyda rhieni a disgyblion amlygu’r angen i fynd i’r afael â digwyddiadau o fwlio a oedd heb eu datrys. Roedd ymddygiad ychydig o ddisgyblion yn peri pryder hefyd, ac roedd nifer o waharddiadau cyfnod penodol.
Mae’r ysgol wedi sefydlu a chynnal ystod eang o drefniadau arloesol, sy’n hyrwyddo gwrthfwlio ar draws yr ysgol gyfan.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Arweiniodd y cyfarfodydd ffocws at ailwampio’r polisi, systemau a strategaethau gwrthfwlio yn llwyr ar draws yr ysgol ar bob lefel. Roedd y broses yn cynnwys yr holl randdeiliaid. Mae hyn yn cynnwys hwyluso cyfleoedd clir ar gyfer llais y disgybl, er enghraifft i greu ac adolygu fersiwn disgyblion o’r polisi gwrthfwlio bob blwyddyn.
Sefydlwyd tasglu gwrthfwlio cychwynnol yn yr ysgol. Roedd y grŵp hwn yn cynnwys y pennaeth, athro a disgyblion. Dewiswyd y grŵp yn ofalus ac roedd yn cynnwys un disgybl a oedd wedi bod yn destun bwlio, ac un disgybl yr oedd ei ymddygiad yn peri pryder ac mewn perygl o gael ei wahardd.
Penderfynodd disgyblion y tasglu greu polisi fideo, gan eu bod yn teimlo y byddai hyn yn gynhwysol ac y byddai pob plentyn yn yr ysgol yn ei ddeall. Aethant ati i weithio gyda’r cydlynydd TG a chreu fersiwn fideo o’r polisi gwrthfwlio sy’n ystyriol o blant, a oedd yn cynnwys pob disgybl yn yr ysgol. Cyflwynodd y grŵp y polisi i’r ysgol gyfan, ac i’r llywodraethwyr a rhieni mewn noson agored. Mae’r polisi yn cynnwys canllawiau clir o beth yw bwlio, a beth gall a beth ddylai disgyblion ei wneud os ydynt yn cael eu bwlio. Arweiniodd hyn at arwyddair yr ysgol, ‘gyda’n gilydd cymaint mwy’- ‘together so much more’.
Mae’r polisi fideo yn cael ei adolygu a’i addasu bob blwyddyn, ac erbyn hyn mae’n cynnwys arweiniad ar gyfer seiberfwlio a diogelwch ar-lein. Mae’n cynnwys aelodau o’r cyngor ysgol a ‘grwp.com’ (y grŵp hyrwyddwyr digidol) a chyfranogiad pob un o’r disgyblion yn yr ysgol. Mae’r addasiadau’n adlewyrchu unrhyw gymorth, cyngor neu systemau ychwanegol sydd ar gael yn yr ysgol. Mae aelodau’r tîm cynhyrchu yn rhannu’r polisi gyda’r ysgol gyfan mewn gwasanaethau boreol, ar gyfer rhieni a llywodraethwyr drwy’r wefan, ac mewn cyfarfodydd llywodraethwyr a nosweithiau agored i rieni.
Cafodd polisi gwrthfwlio statudol yr ysgol (fersiwn oedolion) ei adolygu ar yr un pryd, ac roedd yn cynnwys yr holl randdeiliaid yn y broses. Lanlwythwyd polisi drafft i wefan yr ysgol ar gyfer ymgynghori, fel bod staff, rhieni a llywodraethwyr yn gallu ymateb.
Os oes unrhyw ddigwyddiadau o fwlio yn codi, mae’r polisi a’r gweithdrefnau diwygiedig yn cynnwys arolwg boddhad i rieni a disgyblion, fel bod yr ysgol yn gwybod am unrhyw feysydd y mae angen iddi wella arnynt wrth ddelio â phroblemau. Caiff pob achos o fwlio ei gofnodi a’i fonitro. Mae arweinwyr yr ysgol ac athrawon yn mynd ar drywydd unrhyw broblemau, a chynhelir sesiynau ‘gwirio’ gyda disgyblion a rhieni i sicrhau bod materion yn cael eu datrys. Mae llinellau cyfathrebu agored yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnal.
Mae ymagwedd ysgol gyfan yn amlwg iawn drwy’r ysgol, ac mae ystod eang o systemau ar waith sy’n hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, datblygu lles disgyblion a dim goddefgarwch at fwlio.
Mae hyfforddiant targedig ar gyfer staff wedi cynyddu gallu ac arbenigedd yr ysgol i ddelio â materion fel bwlio a lles. Fe wnaeth pob aelod o staff fynychu hyfforddiant cyfiawnder adferol, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar hyder staff wrth ddatrys gwrthdaro, ac ar gyfer delio â materion ar iard yr ysgol ac yn y dosbarth. Mynychwyd hyfforddiant gan y pennaeth a nifer o aelodau staff mewn hyfforddiant emosiynau ac ymwybyddiaeth ymlyniad. Mae hyn wedi arwain at ffocws ysgol gyfan ar fodelu iaith a gweithredu strategaethau cyson sy’n annog empathi, datblygiad iach yr ymennydd ac arweiniad. Mae bron pob un o’r disgyblion yn deall ffiniau ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.
Mae pob un o’r staff yn ymwneud yn weithgar ag ystod o gemau’r iard chwarae adeg egwyl, ac yn modelu sut i chwarae a sut i ddatrys digwyddiadau. Caiff ‘Cymodwyr yr Iard Chwarae’, sy’n ddisgyblion, eu hyfforddi mewn cyfryngu ac maent yn cynnal gemau iard chwarae adeg egwyl. Cynhelir diweddariadau hyfforddiant bob tymor yn dilyn y rhaglen hyfforddiant cychwynnol er mwyn cynnal y momentwm a gwneud newidiadau fel bo’r angen.
Er mwyn ymateb i lais y disgybl yng nghyfnod allweddol 2, lle’r oedd llawer o ddisgyblion yn teimlo’n anesmwyth yn cofnodi’u pryderon mewn blwch pryderon, cyflwynwyd ap cyfrifiadur. Mae hwn yn galluogi disgyblion i gofnodi’u teimladau ac anfon negeseuon at oedolyn yr ymddiriedir ynddo yn yr ysgol. Mae’r ap ar gael i’w ddefnyddio ar unrhyw adeg gan ddisgyblion yn yr ysgol. Gwerthfawrogir y llinell gyfathrebu ‘breifat’ ychwanegol hon yn fawr gan bob disgybl yng nghyfnod allweddol 2.
Mae Uwch Lysgenhadon yn cyflwyno ac yn arwain y gwasanaeth ysgol gyfan arbennig ‘hawl y mis’. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar amrywiaeth o hawliau dynol gwahanol a hawliau’r plentyn. Mae pob hawl yn cysylltu’n ôl bob tro â’r hawl i fod yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed. Eir i’r afael yn ddiogel â materion sensitif fel iaith homoffobig a hiliol a bwlio drwy addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) ac ‘amser cylch’, lle mae disgyblion yn rhyngweithio ac yn trafod materion mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae disgyblion ym Mlynyddoedd 5 a 6 yn mynychu gweithdai yn cael eu cynnal gan ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’.
Mae’r ysgol yn ymwybodol y gall bwlio ddigwydd bob amser. Fodd bynnag, mae ethos ‘dim goddefgarwch’ wedi’i sefydlu’n glir yn yr ysgol, ac fel dywedodd un disgybl ‘yn ein hysgol ni, nid am wythnos y mae mesurau gwrthfwlio ar waith, ond bob dydd’.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
Mae pob disgybl yn deall yn glir bod ganddynt yr hawl i fod yn ddiogel ac yn rhydd rhag niwed.
Mewn arolwg cyfrinachol diweddar o foddhad disgyblion:
- mae’r holl ddisgyblion yn hyderus eu bod yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi
- mae’r holl ddisgyblion yn hyderus y byddent yn hapus i ddweud wrth rywun pe baent yn cael eu bwlio
- mae’r holl ddisgyblion yn hyderus y byddai rhywun yn gwrando arnynt pe baent yn cael eu bwlio, ac y byddai’r ysgol yn delio â’r mater.
Mae cyfranogiad disgyblion a meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn rhan annatod o’r ysgol. Mae ymwelwyr yn gwneud sylwadau am yr ethos arbennig o hapusrwydd, moesau a gofal yn yr ysgol. Mae ymddygiad disgyblion yn yr ysgol yn rhagorol.
Mae bron pob disgybl yn deall bod ganddynt lais. Mae agwedd gadarnhaol iawn at eu dysgu gan bron pob disgybl. Mae llais y disgybl yn gryf iawn ar draws yr ysgol, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar hyder ac ymgysylltiad disgyblion.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Mae disgyblion wedi cyflwyno’u polisi gwrthfwlio mewn fformat sy’n ystyriol o blant mewn cynhadledd gwrthfwlio i bobl ifanc a gynhaliwyd gan y sir. Roedd y gynhadledd yn cynnwys ysgolion uwchradd a grwpiau ieuenctid ledled y sir. Yr ysgol oedd yr ysgol gynradd gyntaf i gael eu gwahodd i’r gynhadledd flynyddol.
Mae’r ysgol a’r disgyblion wedi rhannu eu polisi a’u strategaethau disgyblion gydag ysgolion yn rhwydwaith Ysgolion Iach y sir.
Mae strategaethau’r ysgol a pholisi gwrthfwlio’r disgyblion wedi’u rhannu drwy raglen ‘meysydd rhagoriaeth’ consortiwm rhanbarthol ERW.