Elwa ar frwdfrydedd disgyblion

Arfer effeithiol

Trinant Primary School


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Trinant ym mhentref Trinant, ger Crymlyn ym mwrdeistref sirol Caerffili.  Mae 153 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 28 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Caiff disgyblion eu haddysgu mewn pum dosbarth oedran cymysg.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae tua 34% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 18%.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan ryw 30% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd ymhell uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 21%.

Dechreuodd y pennaeth yn ei swydd ym mis Tachwedd 2011.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector: Cyfoethogi Profiadau Dysgu ar gyfer disgyblion

Mae gan Ysgol Gynradd Trinant hanes cryf o wella dros gyfnod, er gwaethaf lefelau uwch na’r cyfartaledd o brydau ysgol am ddim, a disgyblion y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.

Mae arwyddair yr ysgol, sef ‘Cerrig Camu at Lwyddiant’ (‘Stepping Stones to Success’) yn adlewyrchu’r daith ddysgu y mae disgyblion yn ei chwblhau a bod disgyblion a staff yn cymryd gwahanol lwybrau ar wahanol adegau, ond i gyd yn llwyddo.  Yr hyn sy’n ganolog i weledigaeth yr ysgol yw’r cysyniad ein bod ‘yn trin ein gilydd fel ein teulu’.  O ganlyniad i hyn, mae pawb yn ‘gwneud ymdrech arbennig’ ac nid ydynt eisiau siomi unrhyw un.  Mae hyn wrth wraidd yr ysgol ac yn allweddol i wella’r ysgol yn llwyddiannus yn barhaus.  Mae staff yn credu yn eu disgyblion ac yn eu hannog i gael dyheadau y tu hwnt i’w cymuned agos.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Archwiliodd staff a disgyblion bedwar diben craidd y cwricwlwm ar gyfer Cymru yn llawn, a sut beth fyddai’r ddarpariaeth yn eu hystafelloedd dosbarth.  Archwiliwyd y saith dimensiwn gyda’r holl randdeiliaid, a gwerthuswyd effeithiolrwydd presennol trwy system raddio CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd).  Nodwyd blaenoriaethau ar gyfer datblygu a oedd yn cynnwys newidiadau diwylliannol sylweddol i’r ffordd y caiff testunau eu cynllunio, sydd ar y cyfan yn strwythuredig, ac yn aml yn ailadroddus a rhagweladwy.  Roedd angen newidiadau i ddatblygiad y cwricwlwm yn yr ysgol.  Bu disgyblion a staff yn cydweithio ar yr hyn y byddent yn hoffi ei ddysgu, gan arwain at ddewis themâu yn ddemocrataidd mewn dosbarthiadau.  Gan ddefnyddio’r meysydd dysgu a phynciau’r cwricwlwm, bu disgyblion a staff yn coladu gweithgareddau i’w harchwilio, gan nodi ac olrhain y medrau y byddent yn eu datblygu.  Gyda’i gilydd, bu staff a disgyblion yn cyd-lunio eu taith ddysgu eu hunain ar gyfer y tymor hwnnw; wedyn, rhannwyd hyn gyda rhieni.  Bob pythefnos, bu disgyblion a staff yn adolygu’r dysgu a oedd wedi digwydd, ac yn awgrymu gweithgareddau ar gyfer y pythefnos canlynol a oedd yn bwydo i gynllunio hyblyg athrawon.  Sicrhaodd y broses hon na fyddai’r dysgu yn rhagweladwy a sefydlog, a sicrhaodd fod dysgu’n cael ei yrru gan frwdfrydedd y disgyblion.

Fe wnaeth defnydd effeithiol o grantiau ganiatáu ar gyfer gwneud defnydd creadigol ac ysbrydoledig o ‘ddeunydd i ddal sylw’ ar ddechrau testunau.  Llwyddwyd i ennyn sylw disgyblion yn eu dysgu trwy amrywiaeth o brofiadau bywyd go iawn, yn amrywio o ymchwilwyr safle trosedd i adolygwyr adloniant yn adolygu perfformiadau theatr byw.  Fe wnaeth y profiadau cyfoethog hyn ennyn diddordeb disgyblion ar unwaith, a’u helpu i ddatblygu diwylliant o ymholi, arloesedd ac archwilio.  Llwyddwyd i elwa ar frwdfrydedd disgyblion, ac fe wnaeth hyn feithrin parodrwydd i lwyddo trwy’r broses ddysgu.  Wedyn, trosglwyddwyd medrau yn naturiol i feysydd eraill y cwricwlwm mewn ffordd bwrpasol a di-dor, fel bod taith ddysgu barhaus.  Er enghraifft, dyfeisiwyd bagiau tystiolaeth grŵp a oedd yn galluogi disgyblion i adeiladu ar eu dysgu blaenorol a defnyddio eu medrau cydweithredol, gwyddonol a rhifedd i ddatrys y drosedd.

Caniateir grantiau hefyd i’r ysgol barhau â Gwobr y Tywysog William am ail flwyddyn.  Fe wnaeth y rhaglen hon helpu disgyblion i ddatblygu medrau bywyd allweddol, sef hunanddisgyblaeth, gwydnwch, dyfalbarhad, gwaith tîm, arweinyddiaeth, allgaredd, ac yn bwysicaf oll, hunan-gred.  Fe wnaeth dysgu trwy brofiad trwy’r wobr hon alluogi disgyblion i ddysgu ac ymgorffori gwybodaeth trwy brofiad.

Ymgysylltwyd â rhieni ar draws holl feysydd y cwricwlwm, a bu rhieni’n rhannu’r dysgu â’u plentyn.  Hwylusodd y gweithdai rhieni ddatblygu medrau, gan alluogi i’r daith ddysgu barhau yn y cartref.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae grwpiau o ddisgyblion sy’n agored i niwed yn gwneud cynnydd sylweddol dros gyfnod, o ganlyniad i brofiadau dysgu cyfoethog.  Mae disgyblion wedi dechrau cyd-lunio eu dysgu eu hunain, ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y deilliannau, y profiadau a’r ddarpariaeth o fewn yr ysgol.    Mae strategaethau effeithiol ar gyfer dysgu sy’n cael eu hymgorffori ar draws yr ysgol wedi caniatáu ar gyfer hinsawdd lle mae disgyblion yn teimlo’n hyderus yn archwilio syniadau ar gyfer cwricwlwm cyfoethog.  Mae disgyblion wedi dechrau cydweithio’n hyderus a mentro mewn maes lle caiff camgymeriadau eu gweld yn brofiad dysgu cadarnhaol.  Mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth well o fwriadau dysgu ac maent yn gwybod sut i fod yn llwyddiannus.  Mae hyn yn cael gwared ar unrhyw ddirgelwch yn y broses ddysgu.  Mae ymweliadau a phrofiadau i ddal sylw wedi ennyn diddordeb disgyblion o’r cychwyn ac wedi mynd â disgyblion allan o’u meysydd cyfarwydd at yr anhysbys.  Mae’r profiadau uniongyrchol hyn wedi rhoi cipolwg i ddisgyblion ar y byd ehangach ac wedi ysbrydoli llawer ohonynt i feddwl am yrfaoedd yn y dyfodol, a gweithgareddau yr hoffent eu profi.

Mae gweithgareddau yn gyffrous ac yn aml yn uchelgeisiol erbyn hyn.  Maent yn berthnasol i fywyd bob dydd ac yn cael eu perchnogi gan ddisgyblion.  Mae syniadau disgyblion yn wreiddiol, a gwnânt ddefnydd effeithiol o’r medrau a’r wybodaeth dechnolegol y maent yn dod gyda nhw i’r ysgol.  Mae dysgu wedi dod yn fwy pwrpasol, cyfoethog, personoledig a dyheadol.  Mae cwricwlwm Ysgol Gynradd Trinant yn wreiddiol erbyn hyn, ac yn diwallu anghenion ei dysgwyr ei hun a’i chymuned ei hun.

Mae arolygon disgyblion a’u presenoldeb cyson uchel yn dangos bod disgyblion wedi datblygu mwy o hunan-werth fel dysgwyr.  Mae ymddygiad ac ymgysylltiad disgyblion yn dda hefyd.  Mae prosesau hunanwerthuso yn cadarnhau bod brwdfrydedd, gwydnwch a dyfalbarhad disgyblion wedi gwella’n fawr.  Mae defnydd o eirfa ddychmygus a geirfa sy’n benodol i bwnc wedi gwella’n fawr ar draws yr ysgol.  Erbyn hyn, mae disgyblion yn mynd ati i gymryd rhan yn eu dysgu, maent yn ymfalchïo yn eu gwaith ac eisiau rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu yn hyderus.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ceir cryn dipyn o weithio rhwng ysgolion o fewn y clwstwr, yr awdurdod lleol ac ar draws y consortiwm.  Rhannwyd hyn ar ffurf Ysgolion Rhwydwaith Arweiniol a thrwy nifer o bartneriaethau pwrpasol.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn