Ein taith i ddatblygu Cwricwlwm i Gymru - Estyn

Ein taith i ddatblygu Cwricwlwm i Gymru

Arfer effeithiol

Meadowbank Day Nursery


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Ddydd Meadowbank yn feithrinfa ddydd breifat, a sefydlwyd ym mis Medi 2016. Mewn cyfnod amser byr, mae’r feithrinfa wedi cael enw rhagorol. Caiff ei rheoli gan gyn athrawes a gweinyddes feithrin sydd â thros 15 mlynedd o brofiad addysgu mewn addysg y Blynyddoedd Cynnar, a’i staffio gan ymarferwyr hynod gymwys, ymroddgar, a phrofiadol. 

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ar gyfer 92 o leoedd amser llawn i blant o’r adeg y cânt eu geni hyd nes byddant yn 5 oed, ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 7.00am a 6.00pm. Adeg yr arolygiad, roedd 31 o blant cyn-ysgol, yr oedd 19 ohonynt yn derbyn cyllid ar gyfer addysg gynnar.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad wedi cael ei ariannu ar gyfer addysg feithrin er 2020. Fel lleoliad newydd wedi’i gofrestru, fe wnaeth elwa ar fynychu dysgu proffesiynol y GCA ar gyfer arweinwyr newydd lleoliadau. Caiff y cwrs hwn ei arwain gan arweinwyr meithrin profiadol yn y rhanbarth, a helpodd i ddatblygu galluoedd mewn arwain newid mewn arfer ac addysgeg yn Meadowbank. Ym mis Ionawr 2021, roedd yn lleoliad peilot ar gyfer ‘Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin Nas Cynhelir’. Rhoddodd hyn gyfle i dreialu rhywbeth hollol wahanol i’r hyn a wnaed o’r blaen. Trwy roi cynnig arno yn ymarferol, parhaodd prosesau i esblygu, a chanolbwyntiodd y lleoliad yn gynyddol ar ddefnyddio arsylwadau i lywio’r cynllunio. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu proses arsylwi a chynllunio, sy’n cynnwys anghenion a diddordebau unigol pob plentyn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cyn cyhoeddi’r cwricwlwm newydd, defnyddiodd y lleoliad gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen a thasgau cynlluniedig â ffocws. Fel lleoliad peilot, fe wnaeth elwa ar allu defnyddio ‘Cwricwlwm ar gyfer Lleoliadau Meithrin Nas Cynhelir’ tra roedd yn ei fersiwn ddrafft. Rhoddodd hyn gyfle i’r tîm ddysgu gyda’i gilydd a rhoi cynnig ar ddulliau newydd. Gwelodd fod addysgeg y cwricwlwm newydd yn gwneud synnwyr. Mae’r plentyn yn ganolog iddo, mae’n alinio’n dda â datblygiad plant, ac roedd yn hawdd i’w roi ar waith yn y lleoliad. Roedd yn ddefnyddiol ac yn hygyrch i bob un o’r ymarferwyr, a chroesawodd ymarferwyr y cwricwlwm newydd yn gyflym ac yn gyfan gwbl. O ganlyniad, caiff pawb eu cynnwys yn llawn yn y broses gynllunio, ac mae pob un ohonynt yn deall yn well pam maent yn cynllunio’r amgylchedd a’r profiadau fel y maent. 

Mynychodd arweinwyr ac ymarferwyr ddysgu proffesiynol y GCA, gan eu cyflwyno i’r cwricwlwm newydd. Trwy gyfarfodydd staff, fe wnaethant rannu a thrafod addysgeg a phum llwybr datblygiadol y cwricwlwm yn fanwl. Arweiniodd hyn at newid y dogfennau cynllunio i’w wneud yn fwy hylaw, i ddefnyddio arsylwadau’n fwy pwrpasol a sicrhau bod anghenion a diddordebau plant yn cael eu bodloni. Roedd hyn yn cynnwys datblygu proses i reoli arsylwi a sicrhau bod pob plentyn yn cael ei arsylwi’n rheolaidd. Yn y gorffennol, roedd hyn wedi bod yn ad-hoc a ddim mor deg neu gynhwysol â’r broses bresennol. Mae’r broses bresennol yn cynnwys arsylwi pob un o’r plant yn achlysurol, a chanolbwyntio ar ychydig o blant bob wythnos, hefyd. Bydd y tîm yn trafod eu harsylwadau o’r plentyn dan sylw gyda’i gilydd ac yn defnyddio’r dadansoddiad hwn i lywio cynllunio’r amgylchedd a’r profiadau dysgu. Trwy wneud hyn, maent yn adnabod pob plentyn yn dda ac mae’r cynllunio’n darparu ar gyfer ei unigoliaeth. 

Mae cymryd rhan mewn trafodaethau proffesiynol wythnosol a dadansoddi arsylwadau wedi helpu staff i ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn sydd o ddiddordeb i’r plant, beth sy’n ennyn eu diddordeb a sut maent yn chwarae, yn dysgu ac yn datblygu. Mae’r broses hon yn eu helpu i ddeall sut maent yn dod yn eu blaen, a beth y gellir ei wneud i’w cynorthwyo. Wrth i’r broses gael ei hymgorffori, gall ymarferwyr ailedrych ar arsylwadau, asesiadau a chynllunio unigol blaenorol y plant, sy’n eu helpu i weld sut maent yn dod yn eu blaen dros eu cyfnod yn y lleoliad, a rhannu eu dysgu â rhieni a gofalwyr. Mae’r broses hon yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus y staff, gan eu bod yn ennill dealltwriaeth well o ddatblygiad y plentyn, a sut mae plant yn chwarae ac yn dysgu. Mae arweinwyr yn rhoi cymorth i staff newydd ysgrifennu arsylwadau a datblygu eu medr yn arsylwi chwarae’r plant. Wrth i’r broses gael ei hymgorffori, a daw ymarferwyr yn arsyllwyr cynyddol brofiadol a medrus, maent yn cynllunio profiadau mwy difyr ac mae lefelau ymglymiad plant yn eu chwarae yn cynyddu. 

Trwy’r cymorth a ddarperir gan y GCA a’r dysgu proffesiynol y maent wedi’i fynychu, mae arweinwyr o’r farn fod ymarferwyr yn fwy gwybodus, ac yn deall pwysigrwydd chwarae, profiadau dilys, yr amgylchedd, a rôl yr oedolyn sy’n galluogi i gefnogi chwarae a dysgu plant. Fel tîm, maent wedi dod yn fwy myfyriol ac abl i hunanwerthuso’u harfer, eu haddysgeg a’u hanghenion datblygiad proffesiynol eu hunain. 

Mae arweinwyr yn defnyddio’r broses oruchwylio ac arfarnu i nodi cryfderau ymarferwyr o fewn y lleoliad a gosod targedau unigol. Mae’r rhain wedi’u cysylltu’n agos â’r cylch cynllunio o ran rôl yr oedolyn, yr amgylchedd a datblygiad proffesiynol parhaus. O ganlyniad, mae ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd yn dda i gefnogi ei gilydd. Darperir cyfarfodydd staff a chyfleoedd dysgu proffesiynol parhaus i sicrhau bod gan y tîm ddealltwriaeth ac ethos ar y cyd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae ymarferwyr wedi magu hyder ac mae ganddynt fwy o ymreolaeth i gynllunio profiadau dysgu. O ganlyniad, maent yn mwynhau ac yn deall eu rôl yn fwy. Yn y gorffennol, roedd gwahanol brosesau cynllunio yn y tair ystafell (babanod, plant bach a phlant cyn-ysgol). Mae’r broses yr un fath ar draws y feithrinfa erbyn hyn, sydd wedi cynorthwyo ymarferwyr i weithio gyda’i gilydd, ac mae ganddynt ddealltwriaeth ar y cyd o addysgeg ar draws y lleoliad. 

Ar ôl rhoi’r cwricwlwm newydd ar waith a mynychu cyfleoedd dysgu proffesiynol, mae’r tîm yn deall pam mae profiadau dysgu dilys yn bwysig. Maent yn defnyddio’u harsylwadau o chwarae plant i ddatblygu’r amgylchedd ac yn cynllunio’n ymatebol i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog. Mae ymarferwyr wedi sylwi ar sut mae lefelau ymglymiad plant a’u llawenydd yn eu chwarae wedi cynyddu oherwydd y newidiadau y maent wedi’u gwneud. Mae’r cylch hwn o arsylwi, dadansoddi, cynllunio ac arsylwi eto yn cynorthwyo’r ymarferwyr i fyfyrio ar eu harfer ac yn cefnogi eu datblygiad proffesiynol ymhellach. 

Erbyn hyn, gall ymarferwyr arsylwi chwarae’r plant i ganfod beth sy’n eu cymell a beth sydd o ddiddordeb iddynt. Ar ôl mynychu dysgu proffesiynol ar chwarae sgematig, mae ymarferwyr yn deall mai patrymau ymddygiad ailadroddus plant yw eu sgemâu. Mae hyn yn cynorthwyo ymarferwyr i ddadansoddi eu harsylwadau’n fwy effeithiol a chynllunio profiadau dysgu ysgogol. 

Ysgrifennir asesiadau cychwynnol a pharhaus gan ddefnyddio ein harsylwadau o’r plant. Mae’r tîm yn trafod asesiadau blaenorol a phresennol plant, i ddadansoddi pa gynnydd y maent wedi’i wneud. Mae’r drafodaeth hon yn eu cynorthwyo i ddeall a nodi dysgu a dilyniant unigol plant, ond hefyd i werthuso’r hyn sy’n gweithio’n dda yn y lleoliad a nodi beth arall y gellid ei wneud i gefnogi dysgu plant yn fwy effeithiol. Mae hyn wedyn yn arwain at fwy o newidiadau i ddarpariaeth a nodi anghenion datblygiad proffesiynol. 

Trwy ddatblygu arsylwadau ac asesiadau a chynllunio, mae ymarferwyr yn gwybod pa mor dda y mae pob plentyn yn dysgu ac yn gwneud cynnydd, ac yn gwybod y caiff anghenion unigol pob plentyn eu diwallu. Mae hyn yn amlwg yn eu mwynhad o fod yn y lleoliad a’u hymgysylltiad â chwarae a dysgu.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae ymarferwyr yn mynychu cyfarfodydd rhwydwaith bob tymor, lle maent wedi rhannu eu hymagwedd at arsylwi, asesu a chynllunio. Maent wedi cynnal ymweliadau â lleoliadau ac wedi cymryd rhan mewn creu pecyn cymorth ar chwarae sgematig sydd ar gael ar HWB.