Ehangu medrau entrepreneuraidd disgyblion a gwella safonau - Estyn

Ehangu medrau entrepreneuraidd disgyblion a gwella safonau

Arfer effeithiol

Craigfelen Primary School


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Gweledigaeth yr ysgol, yn enwedig oherwydd ei chyd-destun, yw creu ysgol sydd wir wrth galon ei chymuned, lle y gall pob plentyn serennu, a lle mae teuluoedd yn teimlo bod croeso iddynt a bod ganddynt gyfleoedd i wella’u profiadau bywyd eu hunain.  I gyflawni hyn, roedd angen i’r ysgol ddatblygu diwylliant o gydweithredu, ymholi, archwilio ac arloesi.  Byddai medrau entrepreneuraidd yn cael eu trwytho drwy’r cwricwlwm a dulliau addysgegol.  Byddai disgwyliadau’n cael eu codi ac, o ganlyniad, byddai safonau’n gwella.

Yn sgil cyhoeddi dogfen Dyfodol Llwyddiannus ynghylch y cwricwlwm newydd i Gymru, mae’r ysgol wedi parhau â’i thaith er mwyn sicrhau bod y pedwar diben a’r 12 egwyddor addysgegol yn ganolog i’w chynlluniau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae datblygiad medrau entrepreneuraidd wedi bod yn rhan o ddatblygu cwricwlwm yr ysgol am y chwe blynedd diwethaf, ond oherwydd llwyddiant mentrau fel caffi Graigos (sef caffi cymunedol dan arweiniad disgyblion:  http://www.itv.com/news/wales/update/2013-02-15/craigfelen-primary-school-pupils-open-cafe-in-swansea/) Banc Money Spiders a chyhoeddi dogfen Dyfodol Llwyddiannus, mae’r maes hwn wedi datblygu’n agwedd allweddol ar y cynnig addysgol i ddisgyblion. 

Mae nifer o staff wedi cynnig syniadau ac awgrymiadau i’w rhannu ac mae cysylltiadau’r ysgol hirsefydledig â Llywodraeth Cymru, Coleg Gŵyr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cynnig cyfleoedd i ymholi, arloesi ac archwilio trwy brosiectau gydag amrywiaeth o bartneriaid.  Yn fwy diweddar, mae’r ysgol wedi arwain prosiect ‘Symud Tuag at Ddyfodol Llwyddiannus’, sydd wedi cynnwys 32 o ysgolion cynradd ar draws Abertawe yn datblygu medrau cynnwys creadigrwydd yn y cwricwlwm.  Mae gweithdai i athrawon, dan arweiniad yr Athro Penaluna o’r Drindod Dewi Sant, wedi cynnig cyfleoedd rhagorol i arbrofi a bod yn fwy arloesol yn eu hymarfer.  Mae diwrnodau datblygu staff yr ysgol gyfan wedi sicrhau bod y medrau’n cael eu deall yn glir a’u hymgorffori’n effeithiol yn y cwricwlwm.  Mae’r ysgol wedi datblygu ‘Portffolio Menter’, sy’n dangos ystod y cyfleoedd sydd wedi cael eu datblygu.  Caiff hwn ei rannu gyda theuluoedd a’r gymuned i ddatblygu’r medrau hyn a meithrin hyder a medrau entrepreneuraidd gyda phob cenhedlaeth, dan arweiniad y disgyblion.

Mae’r ysgol wedi datblygu dull o sicrhau bod disgyblion yn cael llawer o gyfleoedd i gysylltu medrau rhifedd, mathemategol, cyfathrebu a medrau digidol â sefyllfaoedd go iawn.  Mae datblygiad medrau ariannol ac entrepreneuraidd wedi arwain at ganlyniadau rhagorol yn aml ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.

http://mylocalschool.wales.gov.uk/School/6702215?lang=cy

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae tystiolaeth o asesu crynodol a ffurfiannol yn dangos bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da neu dda iawn mewn sawl maes, gan gynnwys llythrennedd, TGCh ac, yn benodol, mathemateg a rhifedd, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â’r dull hwn.  Bellach, mae disgyblion o bob oedran wedi cael y cyfle i greu, datblygu, cyflwyno ac arfarnu prosiect menter, sydd wedi cynnwys sefydlu siop ‘naid’ yn y pentref lleol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol tu hwnt ar y gymuned ehangach.

 Mae tystiolaeth o gyfarfodydd asesu cynnydd disgyblion a chanlyniadau profion cenedlaethol yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r dull hwn wedi’i chael ar yr holl ddisgyblion sydd wedi cymryd rhan.  Mae disgyblion ym Mlwyddyn 6 wedi cyflawni lefel 6 mewn mathemateg am y tro cyntaf.  Mae’r amrywiaeth fawr o grwpiau llais y disgybl yn yr ysgol, sy’n cynnwys ‘enterprise troopers’, wedi sicrhau bod disgyblion yn cael cyfle i ddatblygu doniau mewn amrywiaeth fawr o feysydd, gan ddatblygu hunanhyder a hunan-barch.  Mae’r ddolen hon, a grewyd gan y disgyblion, yn dangos sut mae Ysgol Gynradd Craigfelen yn clywed lleisiau disgyblion ac yn gweithredu arnynt.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol yn ymwneud ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol â’r gwaith y mae wedi’i ddatblygu ar ddatblygiad medrau entrepreneuraidd.  Mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth wedi cyflwyno’r gwaith i gynulleidfaoedd ar bob un o’r lefelau hyn.  Ar hyn o bryd, mae’r dirprwy bennaeth yn gweithio gyda saith o bartneriaid ar draws Ewrop fel mentor cymheiriaid i ddatblygu addysg entrepreneuraidd.  Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd hyn yn effeithio ar greadigrwydd trwy’r continwwm medrau creadigrwydd sy’n cael ei ddatblygu gan yr Athro Penalua a’r OECD.  Mae prosiect ‘Symud Tuag At Ddyfodol Llwyddiannus’ yr ysgol wedi cael effaith sylweddol ar yr ysgolion lleol sy’n gysylltiedig, fel y mae arfarniadau’n ei ddangos.  Hefyd, cyflwynodd yr ysgolion hyn eu gwaith i gydlynwyr rhifedd ar draws y rhanbarth.  Mae hyn wedi arwain at ysgolion yn gwneud newidiadau arwyddocaol i ddulliau addysgegol.  Bydd adroddiad a fideo yn arfarnu’r prosiect yn llawn ar gael yn ystod hydref 2018.  Hefyd, mae’r ysgol wedi myfyrio ar ei harfer ei hun a, thrwy’r gwaith cydweithredol hwn, mae arferion ysgolion eraill wedi dylanwadu ar wella’r ysgol.  Yn ogystal, dewiswyd yr ysgol fel astudiaeth achos gan yr OECD a Llywodraeth Cymru fel rhan o’i gwaith yn datblygu ‘Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu’, rhoddodd gyflwyniad yn y gynhadledd genedlaethol a bydd yn ymddangos yn yr adroddiad a gyhoeddir yn ystod tymor yr hydref 2018.


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn