Ehangu gorwelion disgyblion a datblygu diwylliant o berthyn

Arfer effeithiol

Lewis Girls’ Comprehensive School


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Lewis i Ferched yn ysgol gyfun cyfrwng Saesneg 11-18 oed, a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n gwasanaethu ardal uniongyrchol Ystrad Mynach, yn ogystal ag ardaloedd cyfagos mor bell â Llanbradach.  

Mae 678 o fyfyrwyr ar y gofrestr, gan gynnwys y rhai yn y chweched dosbarth. Mae bron pob un o’r myfyrwyr yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw tua 21% ar gyfartaledd dros y tair blynedd ddiwethaf, sy’n debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol. Canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 12%.     

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, a thri phennaeth cynorthwyol. Dechreuodd y pennaeth, y dirprwy bennaeth ac un o’r penaethiaid cynorthwyol mewn swyddi dros dro ym mis Ionawr 2020, ac fe’u penodwyd i rolau parhaol ym mis Medi 2022.   
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ailedrychodd tîm arweinyddiaeth newydd ar weledigaeth yr ysgol ar gyfer datblygu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020. Dangosodd ymchwil fod cysylltiad rhwng datblygu disgyblion hyderus ac uchelgeisiol a diwylliant ysgol sy’n canolbwyntio ar ymdeimlad o les a pherthyn. Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu sicrhau bod disgyblion yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi mewn amgylchedd cynhwysol sy’n cydnabod profiadau amrywiol, yn hyrwyddo hunaniaeth ac yn meithrin cysylltiad â chymuned yr ysgol. Cydnabu arweinwyr bwysigrwydd cwricwlwm ystyrlon a pherthnasol a oedd yn ymgysylltu â phob disgybl. Daeth y weledigaeth yn un o ‘Berthyn’. 

Wrth ddatblygu’r weledigaeth hon, anogodd yr ysgol ystod eang o safbwyntiau rhanddeiliaid. Roedd safbwyntiau disgyblion yn ganolog i wireddu’r weledigaeth. Sefydlwyd amrywiaeth o fforymau disgyblion i gynrychioli eu canfyddiadau, eu barn a’r hyn a oedd yn bwysig iddyn nhw. Cafodd pob un o’r disgyblion eu hannog i fyfyrio ar eu hymdeimlad o berthyn a’u profiadau eu hunain yn yr ysgol ac o fewn y gymuned leol. Roedd hyn yn arbennig yn gysylltiedig ag archwilio eu hymdeimlad o gyfrifoldeb i’r cwricwlwm a’r byd ehangach. Siaradodd disgyblion ag athrawon ac arweinwyr i gynllunio cwricwlwm a fyddai’n datblygu dinasyddion moesegol a gwybodus a chreu diwylliant o amrywiaeth. Roedd ennyn diddordeb disgyblion mewn partneriaethau ag athrawon a gwneud cyfraniadau yn allweddol. Arweiniodd hyn at ystod gynyddol eang o brofiadau cwricwlaidd ac allgyrsiol a ehangodd orwelion disgyblion o ganlyniad. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Enwyd cwricwlwm Iechyd a Lles yr ysgol yn ‘IBelong’ ac mae’n ymagwedd integredig at ddatblygu iechyd a lles disgyblion. Mae’r maes hwn o’r cwricwlwm yn rhoi cyfle i ddisgyblion fod yn unigolion iach a hyderus. Defnyddir y ‘Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig’ i gysylltu gwersi lles, lles egnïol (addysg gorfforol) a gwersi bwyd gyda’i gilydd. Er enghraifft: ‘Mae’r penderfyniadau rydym ni’n eu gwneud yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni a bywydau pobl eraill’. Mewn gwersi bwyd, mae disgyblion yn dysgu am dueddiadau bwyta, arferion a masnach deg. Mae hyn yn gysylltiedig â gwersi lles, lle rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion archwilio agweddau fel ‘Beth sy’n gwneud disgybl Blwyddyn 7 yn iach?’. Mewn gwersi lles egnïol, mae disgyblion yn datblygu eu hiechyd corfforol a’u dealltwriaeth o fuddion gydol oes ymarfer corff. Mae’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn integreiddio i’r cwricwlwm IBelong. Pan fo’n briodol, ymgorfforir elfennau a themâu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) eraill hefyd. Mae staff yn ofalus i osgoi cwestiynau fel ‘Ble allwn ni gynnwys rhywfaint o ddysgu am…’.  Mae fforymau disgyblion fel y Cyngor Ysgol, ‘ENFYS’ a’r Llysgenhadon Cyfoedion Gwrthfwlio yn helpu Timau Datblygu Dysgu (TDDau) i nodi beth sy’n bwysig i’w gynnwys, er enghraifft priodas o’r un rhyw a’r ymagwedd at rywedd a hunaniaeth. Mae safbwyntiau disgyblion hefyd yn llywio’r modd y mae athrawon yn ymdrin â’r testunau hyn, sydd o ganlyniad yn ffurfio cwricwlwm yr ysgol a’r ymagweddau addysgu a dysgu.  
 
Wrth i MDPh ‘IDiscover’ ddatblygu, daeth yn amlwg fod angen mwy o gyfleoedd ar ddisgyblion i gysylltu’r pynciau yn y maes gwyddoniaeth a thechnoleg gyda’i gilydd a datblygu cysylltiadau trawsgwricwlaidd. Arweiniodd hyn at gyflwyno gwers Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ar gyfer pob un o ddisgyblion cyfnod allweddol 3. Roedd y weledigaeth yn cynnwys gwers annibynnol a fyddai’n cyfuno gwersi / testunau yn arddull Dylunio a Thechnoleg, Peirianneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, o dan ymbarél a fyddai hefyd yn cysylltu â thema IDiscover. Cydweithiodd staff o dîm IDiscover i gysylltu’r gwersi STEM â’r cwricwlwm gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg a mathemateg. Y themâu hynny yw ‘Cynnal y Ddaear’ ym Mlwyddyn 7, ‘Byw ar y Ddaear’ ym Mlwyddyn 8 ac ‘Y Ddaear a Thu Hwnt’ ym Mlwyddyn 9. Mae’r ymagwedd hon wedi ymddangos fel adran o lyfr, a bydd yn ymddangos mewn llyfr dilynol cyn bo hir yn amlygu datblygiadau pellach niferus yr ymagwedd fel yr ardd ECO (Addysg a Chreadigrwydd Y Tu Allan) y tu allan. Mae prosiectau a thasgau cysylltiedig yn cysylltu â hyn, fel ailgylchu plastig gwastraff i greu dalennau defnyddiadwy, y mae myfyrwyr yn eu defnyddio mewn prosiect ar gyfer creu a gyrru car rasio F24 Ynni Pŵer Gwyrdd.

Roedd y nod i ddod â STEM i bob un o’r disgyblion trwy ymagwedd reolaidd at ddysgu, yn seiliedig ar brosiect, yn ganolog i’r ymagwedd, yn lle diwrnodau ‘gollwng yr amserlen’ neu sesiynau targedig gyda disgyblion mwy abl. Y nod oedd galluogi pob un o’r disgyblion i lwyddo mewn gweithgareddau yn seiliedig ar STEM ac agor meddyliau i bosibilrwydd swyddi yn seiliedig ar STEM yn y dyfodol. Mae dysgu yn hygyrch i bawb ac yn amlygu, yn datblygu ac yn atgyfnerthu’r cysylltiadau trawsgwricwlaidd rhwng disgyblaethau pynciau sydd ar wahân yn draddodiadol. Mewn gwersi STEM, rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion fod yn greadigol yn eu hymagwedd at ddatrys problemau a dysgu o sefyllfaoedd newydd. Mae’r testunau a’r prosiectau yn cysylltu â ‘Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig’ y MDPh gwyddoniaeth a thechnoleg. I ddechrau, cyflwynwyd y wers STEM ar wahân i ddisgyblion Blwyddyn 7, ac wrth i lwyddiant yr ymagwedd ddod yn amlwg, fe’i mabwysiadwyd ar draws Blynyddoedd 8 a 9. Mae pob dosbarth yn cael un wers STEM bob pythefnos sy’n para awr. ‘Cymerwyd’ yr awr o ddyraniad y cwricwlwm ar gyfer gwyddoniaeth, a leihawyd o 6 awr i 5 awr bob pythefnos. 
 
Trwy’r un model cydweithio yn ystod cyfarfodydd a diwrnodau HMS, gweithiodd staff o dîm IDiscover gyda’r Cydlynwyr Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol, gan gysylltu’r prosiectau STEM â fframweithiau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Eto, roedd yn rhaid i ddysgu fod yn ddilys, yn naturiol ac yn bwrpasol. Wrth i brosiectau gael eu datblygu, trwy gynllunio gofalus, cafodd meysydd cyfan o’r cwricwlwm ‘gwyddoniaeth’ eu symud i’r gwersi STEM, a’u hymgorffori ynddynt, er enghraifft dod yn ‘Lluoedd’ ym Mlwyddyn 7. 
 
Datblygwyd prosiectau thematig IDiscover ar ffurf llyfrynnau gwaith digidol. Mae’r llyfrynnau hyn yn ymgorffori’r ‘Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig’ o’r MDPh gwyddoniaeth a thechnoleg. Trwy blatfform digidol, mae disgyblion yn gweithio trwy eu llyfryn gwaith digidol eu hunain, gan eu galluogi i weithio ar eu prosiect mewn un lle a gallu gweld y cysylltiadau o fewn y cwricwlwm IDiscover. Roedd yr ymagwedd hon nid yn unig yn manteisio ar y ffaith fod gan bob disgybl ei liniadur ei hun, ond hefyd yn caniatáu ar gyfer defnyddio apiau a rhaglenni amrywiol i’w cysylltu â’r llyfrynnau digidol a’u defnyddio gartref ac mewn gwersi, yn ogystal, er enghraifft wrth weithio ar ‘efelychiad /modelau cyfrifiadurol o onglau lansiad roced ac adeiladu a thanio eu rocedi eu hunain’. Fodd bynnag, mae gwersi ‘ar wahân’ yn gysylltiedig â’r pynciau penodol yn parhau i ymddangos, lle bo’n briodol. Mae’r cwricwlwm ‘hybrid’ yn datblygu cysylltiadau pwrpasol a dilys o fewn y cwricwlwm ILearn, ac ar ei draws.     
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Trwy ddatblygu’r cwricwlwm, trawsnewidiwyd cynnig yr ysgol ar gyfer profiadau allgyrsiol. Mae hyn yn cynnwys y Clwb ECO a’r Clwb STEM, y sefydlwyd y naill a’r llall o ganlyniad i ddatblygu’r cwricwlwm IDiscover a’r cwricwlwm IBelong. Yn y gwersi IBelong, mae disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o fuddion gydol oes iechyd a lles corfforol. Arweiniodd hyn at ddiddordeb a brwdfrydedd mewn gwella eu hiechyd a’u lles eu hunain. O ganlyniad, crëwyd y Clwb a’r Pwyllgor Eco. Gweithiodd staff o ystod o Feysydd Dysgu a Phrofiad yn agos gyda’r ddau grŵp. Rhoddwyd cyllideb i ddisgyblion, ac wedyn adeiladu, mesur a phennu costau ar gyfer twnnel poli, a adeiladwyd ym mis Chwefror 2022. Ar ôl hyn, bu disgyblion yn dylunio ac wedyn yn adeiladu 6 gwely blodau mawr gan ddefnyddio dulliau organig, a thrwy hynny addysgu disgyblion am effaith dulliau ffermio penodol ar yr amgylchedd. Gweithiodd staff IDiscover ac IBelong gyda’i gilydd i dyfu planhigion penodol. Tyfwyd rhai o’r planhigion hyn i’w defnyddio mewn gwersi bwyd i wneud saladau cymysg a chawl. Tyfwyd planhigion eraill i hyrwyddo trafodaeth am oblygiadau moesegol ffibrau penodol a ddefnyddir yn y diwydiant tecstilau. Bu disgyblion yn dylunio ac yn adeiladu poptai pizza awyr agored gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy, ac maent yn eu defnyddio yn eu gwersi bwyd erbyn hyn.  

Mae ymagwedd y gwersi STEM ar wahân a chysylltu testunau a themâu gyda’i gilydd trwy’r MDPh IDiscover wedi bod yn llwyddiannus iawn. Gall disgyblion ddisgrifio cysylltiadau rhwng y meysydd pwnc a oedd ar wahân ar un adeg, a chymhwyso eu medrau ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Er enghraifft, o fewn testun tanwyddau ffosil a chynhyrchu ynni. Mae disgyblion mewn dylunio a thechnoleg yn creu cysylltiadau â chaffael deunyddiau crai a gallant esbonio sut y defnyddir deunydd crai o olew crai wrth gynhyrchu plastig ac ynni, ond hefyd mewn ffabrigau synthetig mewn gwersi tecstilau a chynhyrchu cemegol mewn gwersi gwyddoniaeth. Gall disgyblion drosglwyddo’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r medrau ar draws y cwricwlwm IBelong/lles ac ICalculate hefyd. Er enghraifft, deall effaith incwm isel ar deulu a dysgu darllen slip cyflog, cyfrifo faint o dreth y bydd rhywun sy’n ennill cyflog yn ei dalu a phwysigrwydd cyfraniadau pensiwn mewn gwersi rhifedd. Mae brwdfrydedd disgyblion am wersi STEM wedi tyfu, ac o ganlyniad, cynhelir clwb STEM bob wythnos. Mae’r gweithgareddau wedi amrywio o ddylunio, adeiladu a gyrru car rasio trydan i ddisgyblion yn gweithio’n annibynnol i ennill gwobrau penodol a chael cyfleoedd i gystadlu mewn cystadlaethau gydag ysgolion eraill. Mae galluoedd a hunanhyder disgyblion wedi tyfu wrth i’r clwb ddatblygu. Mae rhieni wedi mynegi eu barn ar gymaint y mae eu plant wedi mwynhau’r gweithgareddau, a pha mor dda y maent wedi magu hunanhyder a datblygu diddordeb a gwybodaeth mewn pynciau STEM. Mae aelodau o gyngor lleol a chyn-ddisgyblion yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd, ac yn dangos diddordeb yn y gwaith a wna disgyblion yn eu gwersi STEM a gweithgareddau’r clwb STEM.
 
Yn ogystal â gallu disgyblion i gysylltu adrannau a thestunau sy’n cael eu cwmpasu o fewn y cwricwlwm Gwyddoniaeth a Thechnoleg, datblygwyd darpariaeth allweddol dysgu y tu allan. Crëwyd yr ardd ECO (Addysg a Chreadigrwydd Y Tu Allan) gan ddefnyddio cyllid ychwanegol gan y llywodraeth yn ystod y pandemig, fel bod ei ddefnydd yn gynaliadwy ac y byddai o fudd i ddisgyblion yn y dyfodol. Crëwyd yr ardal ddysgu ar ardal yn mesur tri chwrt tennis a hanner oedd wedi mynd yn ddi-raen. Erbyn hyn, mae’r ardal yn cynnwys trac rasio ymarfer ar gyfer y car rasio F24, dau gynhwysydd llong 20 troedfedd sy’n agor ar yr ochr ac wedi’u gorchuddio mewn pren, gydag ardal do yn ymestyn rhyngddynt a’r tu mewn, gyda goleuadau, pŵer, a wi-fi er mwyn i ddisgyblion allu gweithio ar eu gliniaduron. Cafodd meinciau gwaith, pyllau a gwelyau ac ardaloedd blodau gwyllt, yn ogystal â chynwysyddion plannu gyda phlanhigion a blodau amrywiol yn tyfu, i gyd eu creu gan ddisgyblion Blwyddyn 7. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r prosiectau pontio gyda phlant Blwyddyn 5 a 6, ac mae niferoedd y disgyblion ym Mlwyddyn 7 wedi codi’n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Defnyddir yr ardal hon hefyd ar gyfer addysgu pynciau a grwpiau blwyddyn eraill ar draws yr ysgol. 
 
Mae’r ystod o grwpiau, fforymau a chlybiau disgyblion wedi darparu cyfleoedd gwerthfawr o ran dysgu ac arweinyddiaeth ar gyfer disgyblion. Mae wedi sefydlu grŵp cryf ar gyfer llais y disgybl sy’n dylanwadu ar y cwricwlwm ac wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion disgyblion, ac yn mynd i’r afael â’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae wedi ffurfio eu dealltwriaeth o’u hawliau, gan eu cynorthwyo i ddatblygu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus ac yn gyfranwyr mentrus a chreadigol mewn diwylliant sy’n annog amrywiaeth. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer cwricwlwm ysgol sy’n ddilys ac yn berthnasol i’r disgyblion yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.  
 
Mae’r ysgol wedi rhannu’r ymagwedd at ddatblygu’r cwricwlwm, yn enwedig gwersi STEM a gweithgareddau clwb STEM, ac wedi rhannu rhai o’i phrosiectau ag ysgolion eraill hefyd.   
 


Adnoddau eraill gan y darparwr hwn